Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Canlyniadau Chwilio

Philipiaid 4:6 (BCND)

Peidiwch â phryderu am ddim, ond ym mhob peth gwneler eich deisyfiadau yn hysbys i Dduw trwy weddi ac ymbil, ynghyd â diolchgarwch.

Philipiaid 4:7 (BCND)

A bydd tangnefedd Duw, sydd goruwch pob deall, yn gwarchod dros eich calonnau a'ch meddyliau yng Nghrist Iesu.

Mathew 6:25 (BCND)

“Am hynny rwy'n dweud wrthych, peidiwch â phryderu am eich bywyd, beth i'w fwyta na'i yfed, nac am eich corff, beth i'w wisgo; onid oes mwy i fywyd rhywun na bwyd, a mwy i'w gorff na dillad?

Mathew 6:26 (BCND)

Edrychwch ar adar yr awyr: nid ydynt yn hau nac yn medi nac yn casglu i ysguboriau, ac eto y mae eich Tad nefol yn eu bwydo. Onid ydych chwi yn llawer mwy gwerthfawr na hwy?

Mathew 6:27 (BCND)

P'run ohonoch a all ychwanegu un funud at ei oes trwy bryderu?

Mathew 6:34 (BCND)

Peidiwch felly â phryderu am yfory, oherwydd bydd gan yfory ei bryder ei hun. Digon i'r diwrnod ei drafferth ei hun.

1 Pedr 5:7 (BCND)

Bwriwch eich holl bryder arno ef, oherwydd y mae gofal ganddo amdanoch.

Diarhebion 12:25 (BCND)

Y mae pryder meddwl yn llethu rhywun, ond llawenheir ef gan air caredig.

Luc 12:29 (BCND)

A chwithau, peidiwch â rhoi eich bryd ar beth i'w fwyta a beth i'w yfed, a pheidiwch â byw mewn pryder;

Luc 21:25 (BCND)

“Bydd arwyddion yn yr haul a'r lloer a'r sêr. Ar y ddaear bydd cenhedloedd mewn cyfyngder yn eu pryder rhag trymru ac ymchwydd y môr.

Jeremeia 42:16 (BCND)

yna bydd y cleddyf a ofnwch yma yn eich goddiweddyd yno yng ngwlad yr Aifft, a'r newyn sy'n peri pryder ichwi yn eich dilyn i'r Aifft. Ac yno y byddwch farw.

Luc 2:48 (BCND)

Pan welodd ei rieni ef, fe'u syfrdanwyd, ac meddai ei fam wrtho, “Fy mhlentyn, pam y gwnaethost hyn inni? Dyma dy dad a minnau yn llawn pryder wedi bod yn chwilio amdanat.”

Eseciel 4:16 (BCND)

Dywedodd hefyd, “Fab dyn, yr wyf yn torri ymaith y gynhaliaeth o fara o Jerwsalem; mewn pryder y byddant yn bwyta bara wrth bwysau, ac mewn braw yn yfed dŵr wrth fesur.

Eseciel 12:19 (BCND)

Yna dywed wrth bobl y wlad, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW am y rhai sy'n byw yn Jerwsalem ac yng ngwlad Israel: Byddant yn bwyta'u bwyd mewn pryder ac yn yfed eu diod mewn anobaith, oherwydd fe ddinoethir eu gwlad o bopeth sydd ynddi o achos trais yr holl rai sy'n byw ynddi.

2 Corinthiaid 11:28 (BCND)

Ar wahân i bob peth arall, y mae'r gofal dros yr holl eglwysi yn gwasgu arnaf ddydd ar ôl dydd.

1 Corinthiaid 12:25 (BCND)

rhag bod ymraniad yn y corff, ac er mwyn i'r holl aelodau gymryd yr un gofal dros ei gilydd.

Y Pregethwr 2:23 (BCND)

Oherwydd y mae ei holl ddyddiau yn ofidus, a'i orchwyl yn boenus; a hyd yn oed yn y nos nid oes gorffwys i'w feddwl. Y mae hyn hefyd yn wagedd.

Eseia 17:11 (BCND)

a'u cael i dyfu ar y dydd y plennaist hwy ac i flodeuo yn y bore yr heuaist hwy, bydd y cnwd wedi crino mewn dydd o ofid a gwendid nychlyd.

Y Salmau 107:13 (BCND)

Yna gwaeddasant ar yr ARGLWYDD yn eu cyfyngder, a gwaredodd ef hwy o'u hadfyd;

Y Salmau 107:19 (BCND)

Yna gwaeddasant ar yr ARGLWYDD yn eu cyfyngder, a gwaredodd ef hwy o'u hadfyd;

Y Salmau 6:7 (BCND)

Pylodd fy llygaid gan ofid, a phallu oherwydd fy holl elynion.

Y Salmau 13:2 (BCND)

Am ba hyd y dygaf loes yn fy enaid, a gofid yn fy nghalon ddydd ar ôl dydd? Am ba hyd y bydd fy ngelyn yn drech na mi?

Y Salmau 127:2 (BCND)

Yn ofer y codwch yn fore, a mynd yn hwyr i orffwyso, a llafurio am y bwyd a fwytewch; oherwydd mae ef yn rhoi i'w anwylyd pan yw'n cysgu.

Mathew 13:22 (BCND)

Yr un sy'n derbyn yr had ymhlith y drain, dyma'r un sy'n clywed y gair, ond y mae gofal y byd hwn a hudoliaeth golud yn tagu'r gair, ac y mae'n mynd yn ddiffrwyth.

Y Salmau 127:5 (BCND)

Gwyn ei fyd y sawl sydd â chawell llawn ohonynt; ni chywilyddir ef pan ddadleua â'i elynion yn y porth.