1
Luc 3:21-22
Y Ffordd Newydd - 4 Efengyl mewn Cymraeg Byw 1971
Wedi i bawb gael eu bedyddio, a phan oedd Iesu yn gweddïo wedi’i fedydd yntau, agorodd y nefoedd, a disgynnodd yr Ysbryd Glân arno yn weledig, fel colomen. A daeth llais o’r nef yn dweud, “Ti yw fy Mab, f’anwylyd. Ti sydd wrth fy modd.”
مقایسه
Luc 3:21-22 را جستجو کنید
2
Luc 3:16
dywedodd Ioan yn blaen wrthyn nhw i gyd, “Â dŵr rydw i’n eich bedyddio chi, ond y mae un cryfach na fi yn dod, ’dydw i ddim digon da i ddatod carrai ei sandalau. Bydd ef yn eich bedyddio â’r Ysbryd Glân ac â thân.
Luc 3:16 را جستجو کنید
3
Luc 3:8
Gwnewch rywbeth i brofi eich bod wedi newid eich ffordd o fyw. A pheidiwch â dechrau dweud wrthych eich hunain, ‘Mae gennym ni Abraham yn dad.’ Clywch: fe allai Duw godi plant i Abraham o’r cerrig hyn!
Luc 3:8 را جستجو کنید
4
Luc 3:9
Mae’r fwyell wedi’i gosod yn barod wrth wraidd y coed, ac fe dorrir i lawr pob coeden heb ddwyn ffrwyth da, a’i thaflu i’r tân.”
Luc 3:9 را جستجو کنید
5
Luc 3:4-6
Fel y dywed llyfr y proffwyd Eseia, Llais un yn galw mewn tir anial, ‘Paratowch ffordd yr Arglwydd, Gwnewch lwybrau unionsyth ar ei gyfer. Pob pant a lenwir, A phob mynydd a bryn a wneir yn wastad; Unionir popeth sydd yn gwyro, Y ffyrdd garw a wneir yn llyfn. A dynoliaeth oll a wêl waredigaeth Duw.’
Luc 3:4-6 را جستجو کنید
خانه
كتابمقدس
برنامههای مطالعه
ویدیوها