1
Luc 6:38
Y Ffordd Newydd - 4 Efengyl mewn Cymraeg Byw 1971
Rhoddwch, ac fe dderbyniwch — fe dywalltan nhw i’ch arffed fesur hael, wedi ei bwyso i lawr, wedi ei ysgwyd yn dda, ac yn rhedeg drosodd. Fe gewch eich mesur â’ch llinyn mesur chi eich hunain.”
مقایسه
Luc 6:38 را جستجو کنید
2
Luc 6:45
O’r daioni a drysorodd yn ei galon, mae dyn da yn dod â daioni i’r amlwg, a’r dyn drwg ddrygau o stôr ei galon ddrwg yntau. Nid yw geiriau yn ddim ond mynegiant o’r hyn sydd yn y galon.
Luc 6:45 را جستجو کنید
3
Luc 6:35
Na, cerwch eich gelynion a gwnewch dda, a rhoddwch fenthyg, heb ddisgwyl dim ad-daliad. Bydd eich gwobr yn fawr, a phlant fyddwch i’r Goruchaf, oherwydd y mae ef yn garedig i’r rhai anniolchgar a drwg.
Luc 6:35 را جستجو کنید
4
Luc 6:36
Byddwch yn drugarog, fel y mae eich Tad yn drugarog.”
Luc 6:36 را جستجو کنید
5
Luc 6:37
“Peidiwch â barnu pobl eraill, ac ni’ch bernir chithau. Peidiwch â chondemnio, ac ni’ch condemnir chithau. Maddeuwch, ac fe gewch faddeuant.
Luc 6:37 را جستجو کنید
6
Luc 6:27-28
Dywedaf wrth bob un sydd yn gwrando, “Cerwch eich gelynion, gwnewch dda i’r rhai sy’n eich casáu, bendithiwch y sawl sy’n eich rhegi, a gweddïwch dros bob un sydd yn eich cam-drin.
Luc 6:27-28 را جستجو کنید
7
Luc 6:31
“Gwnewch chithau i eraill bopeth y dymunech i eraill ei wneud i chi.
Luc 6:31 را جستجو کنید
8
Luc 6:29-30
“Os tery dyn di ar dy foch, cynnig y llall iddo hefyd! Os cymer dy siaced, na wrthod dy grys iddo chwaith. Dyro i bawb fydd yn ceisio gennyt. A phan gymer dyn yr hyn sydd yn eiddo iti, paid â gofyn amdano’n ôl.
Luc 6:29-30 را جستجو کنید
9
Luc 6:43
“All pren da ddim rhoi ffrwyth afiach, na phren afiach roi ffrwyth da.
Luc 6:43 را جستجو کنید
10
Luc 6:44
Wrth ei ffrwyth ei hun y bydd dynion yn adnabod pob pren. Ni chesglir byth ffigys oddi ar ddrain, na grawnwin oddi ar fieri!
Luc 6:44 را جستجو کنید
خانه
كتابمقدس
برنامههای مطالعه
ویدیوها