Ioan 21
21
Pen. xxj.
Christ yn ymddangos yw ddiscipulon drachefyn. Ef yn gorchymyn i Petr yn ddirfing ac o brysur borthi y ddeueit ef Ef yn ei rubuddiaw ymblaen e ei varwolaeth. Ac am amryw wyrthiae Christ.
1GWedy ’r pethe hyn yr ymðangosoð yr Iesu drachefyn yw ddiscipulon wrth vor Tiberias: ac vellyn yr ymddangosawdd ef. 2Yr oedd ynghyt Simon Petr, a’ Thomas, yr hwn a elwit Didymus, ac Nathanael o Cana yn‐Galilaia, a’ meibion Zebedaius, a’ dau eraill o’i discipulon. 3Simon Petr a ddyvawt wrthynt, Mi af i pyscota. Wythe a ddywedesout wrthaw. A’ nine awn gyd a thi. Wy aethant ymaith, ac a escenesont i’r llong eb oludd, a’r nos hono ny ddaliesont vvy ddim. 4Ac yr owon wedy dyvot y boreu, y savawdd yr Iesu ar y ’lan: ny wyddiat #21:4 * er hynyhagen y discipulon mai y ve oeð yr Iesu. 5Yno y dyvot yr Iesu wrthynt Ha #21:5 * vechcin, veibionwyr a oes genwch ddim #21:5 ‡ enllynbwyt? Atepesont iddo, Nag oes. 6Yno y ddyvot ef wrthynt, #21:6 * TreilliwchBwriwch allan y rhwyt y tu deheu i’r llong, a chwi a gewch. Wrth hyny y bwriesōt allan, ac nyd oedden ðim abl yw thynu, gan #21:6 * rac meintliaws y pyscot. 7Am hyny y dyvot y discipul yr hwn oedd yr Iesu yn ei garu, wrth Petr, #21:7 ‡ Mai ir arglwydd oeðYr Arglwydd yw ef. Pan glypu Simon Petr may ’r Arglwydd oedd ef, yntef a wregysodd ei #21:7 * hucyn, baishuc (can ys ydd oedd ef yn noethlymyn) ac y #21:7 ‡ neitiodd, a gymerth y naw yn ybwriodd y hun ir mor. 8Eithyr y discipulon eraill a ddaethant mewn llong (can nad oeddent pell ywrth y tir, anyd yn‐cylch dau cant cuvydd) ac a dynnesant y rhwyt a’r pyscot. 9#21:9 * Ac erA’ chygynted y daethāt ir tir, y gwelsant varworyn, a’ physcodyn wedy ddody arnoddynr, a’ bara. 10Yr Iesu a ðyvot wrthyn, Dygwch beth o’r pyscot, y ddaliesoch yr owrhon. 11Simon Petr a #21:11 ‡ neitioddescennawð ac dynnoð y rhwyt i’r tir, yn llawn pyscot mawrion, #21:11 * tri arðec a saithugaincant a ’thri ar ddec a daugain: a’ chyt bot #21:11 ‡ cymmeintcynniuer, er hyny ny #21:11 * rwygoddddryllioð y rhwyt. 12Yr Iesu a ddyvot wrthynt, Dewch a’ chyniewch. Ac ny veiddiawdd yr vn or discipulon ymofyn ac ef, Pwy yw ti, ac wy yn gwybot may’r Arglwydd oedd ef. 13Yno yr Iesu a ddaeth ac a gymerth vara, ac a roes yddynt, a’ physcot yr vn modd. 14Llyma ’r owrhon y drydedd waith yr ymddangosawð yr Iesu y’w ðiscipulon, gwedy yddo adgyvody o veirw.
15Yno gwedy yddyn giniawa, yr Iesu a ddyvot wrth Simon Petr, Simon ’ap Iona, A gery di vi yn vwy na rhein? Ef a ddyvot wrthaw, #21:15 ‡ CarafDo Arglwydd, tu wyddost y caraf i di. Ef a ddyvot wrthaw, #21:15 ‡ Pasc, BwydaPortha vy wyn. 16Ef a ðyvot wrtho drachefyn yr ail waith, Simon ’ap Iona a gery di vi? Ef a ðyuot wrthaw, #21:16 * CarafDo Arglwyð, tu wyddost y caraf i di. Ef a ðyvot wrthaw, Portha vy‐deueit. 17Ef a ddyuot wrthaw y drydedd waith, Simon ’ap Iona, a geri di vi. #21:17 ‡ PryderuTristau a wnaeth Petr o bleit yddo dywedyt wrthaw y #21:17 * dairgwaithdrydedd waith, A gery di vi: ac a ddyuot wrthaw, Arglwyð, tu a wyddost bop peth oll: tu wyddost y caraf di. Yr Iesu a ddyuot wrthaw, Porth vy‐deueit, 18Yn wir, yn wir y dywedaf y‐ty, Pan oeddyt yn ieuanc, tu a ymwregysyt, ac a rodut lle mynut: eithr pan #21:18 * heneiðychvych hen, ti a estendi dy ðwylo, ac arall ath wregysa, ac ath #21:18 ‡ tywysarwein lle #21:18 * ny mynychnyd ir wyllysych. 19A’ hyn a ddyvot ef, yn arwyddocau gan pa angae y gogoneddei ef Dduw. A’ gwedy yddo ddywedyt hyn, y dyvot wrthaw, #21:19 ‡ CanlynDilin vi. 20Yno y troes Petr y amgylch, ac a welawdd y discipul oedd yr Iesu yn ei garu, yn dilin, yr hwn hefyt a roesei ei bwys ar y ddwyfron ef ar swper, ac a ddywedesei, Arglwydd, pwy ’n yw hwn ath vradycha di? 21Gan hynny pan welawdd Petr #21:21 * efhwn, y dyuot ef wrth yr Iesu, Arglwydd, pa beth a vvna hwn? 22Yr Iesu a ddyuot wrthaw, A’s mynnaf iðo aros y n y ddelwyf, beth ’sy y ti? #21:22 ‡ canlynDilin di vi. 23Yno ydd aeth y gair hwn ym‐plith y broder, na byddei varw y discipul hwnw. Ac ny ddywedesei ’r Iesu wrthaw, Ny bydd ef varw: eithyr A’s mynnaf iðo aros y’n y ddelwyf, beth ’sy y ti? 24Hwn yw’r discipul hvvnvv ys ydd yn testolaethu am y pethe hynn, ac a escrivennodd y pethe hynn, a’ gwyddam vot y testoliaeth ef yn wir. 25Ac y mae hefyt llawer o pethae eraill ar a wnaeth yr Iesu, yr ei pe yd yscrivennit vvynt #21:25 * bop vneb‐ado‐vn, tybiet ydd wyf na’s gallei ’r oll vyt #21:25 ‡ gynwys, dderbynamgyffret y llyfreu a esrrivennit. Amen.
اکنون انتخاب شده:
Ioan 21: SBY1567
هایلایت
به اشتراک گذاشتن
مقایسه
کپی
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
Cyhoeddwyd gyntaf yn 1567, a’i ddigideiddio i Gymdeithas y Beibl yn 2016.