Genesis 10
10
1Adyma genedlaethau meibion Noa: Sem, Cham, a Jaffeth; ganwyd meibion hefyd i’r rhai hyn wedi’r dilyw.
2Meibion Jaffeth oedd Gomer, a Magog, a Madai, a Jafan, a Thubal, a Mesech, a Thiras. 3Meibion Gomer hefyd; Ascenas, a Riffath, a Thogarma. 4A meibion Jafan; Elisa, a Tharsis, Cittim, a Dodanim. 5O’r rhai hyn y rhannwyd ynysoedd y cenhedloedd yn eu gwledydd, pawb wrth eu hiaith eu hun, trwy eu teuluoedd, yn eu cenhedloedd.
6A meibion Cham oedd Cus, a Misraim, a Phut, a Chanaan. 7A meibion Cus; Seba, a Hafila, a Sabta, a Raama, a Sabteca: a meibion Raama; Seba, a Dedan. 8Cus hefyd a genhedlodd Nimrod: efe a ddechreuodd fod yn gadarn ar y ddaear. 9Efe oedd heliwr cadarn gerbron yr ARGLWYDD: am hynny y dywedir, Fel Nimrod, heliwr cadarn gerbron yr ARGLWYDD. 10A dechreuad ei frenhiniaeth ef ydoedd Babel, ac Erech, ac Accad, a Chalne, yng ngwlad Sinar. 11O’r wlad honno yr aeth Assur allan, ac a adeiladodd Ninefe, a dinas Rehoboth, a Chala, 12A Resen, rhwng Ninefe a Chala; honno sydd ddinas fawr. 13Misraim hefyd a genhedlodd Ludim, ac Anamim, a Lehabim, a Nafftwhim, 14Pathrusim hefyd a Chasluhim, (o’r rhai y daeth Philistim,) a Chafftorim.
15Canaan hefyd a genhedlodd Sidon ei gyntaf-anedig, a Heth, 16A’r Jebusiad, a’r Amoriad, a’r Girgasiad, 17A’r Hefiad, a’r Arciad, a’r Siniad, 18A’r Arfadiad, a’r Semariad, a’r Hamathiad: ac wedi hynny yr ymwasgarodd teuluoedd y Canaaneaid. 19Terfyn y Canaaneaid oedd hefyd o Sidon, ffordd yr elych i Gerar, hyd Gasa: y ffordd yr elych i Sodom, a Gomorra, ac Adma, a Seboim, hyd Lesa. 20Dyma feibion Cham, yn ôl eu teuluoedd, wrth eu hieithoedd, yn eu gwledydd, ac yn eu cenhedloedd.
21I Sem hefyd y ganwyd plant; yntau oedd dad holl feibion Heber, a brawd Jaffeth yr hynaf. 22Meibion Sem oedd Elam, ac Assur, ac Arffacsad, a Lud, ac Aram. 23A meibion Aram; Us, a Hul, a Gether, a Mas. 24Ac Arffacsad a genhedlodd Sela, a Sela a genhedlodd Heber. 25Ac i Heber y ganwyd dau o feibion: enw un oedd Peleg; oherwydd yn ei ddyddiau ef y rhannwyd y ddaear; ac enw ei frawd, Joctan. 26A Joctan a genhedlodd Almodad, a Saleff, a Hasarmafeth, a Jera, 27Hadoram hefyd, ac Usal, a Dicla, 28Obal hefyd, ac Abinael, a Seba, 29Offir hefyd, a Hafila, a Jobab: yr holl rai hyn oedd feibion Joctan. 30A’u preswylfa oedd o Mesa, ffordd yr elych i Seffar, mynydd y dwyrain. 31Dyma feibion Sem, wrth eu teuluoedd, yn ôl eu hieithoedd, yn eu gwledydd, trwy eu cenhedloedd. 32Dyma deuluoedd meibion Noa, wrth eu cenedlaethau, yn ôl eu cenhedloedd: ac o’r rhai hyn yr ymrannodd y cenhedloedd ar y ddaear wedi’r dilyw.
اکنون انتخاب شده:
Genesis 10: BWMA
هایلایت
به اشتراک گذاشتن
کپی
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
© Cymdeithas y Beibl 1955, 2018
© British and Foreign Bible Society 1955, 2018