Genesis 13

13
1Ac Abram a aeth i fyny o’r Aifft, efe a’i wraig, a’r hyn oll oedd eiddo, a Lot gydag ef, i’r deau. 2Ac Abram oedd gyfoethog iawn o anifeiliaid, ac o arian, ac aur. 3Ac efe a aeth ar ei deithiau, o’r deau hyd Bethel, hyd y lle y buasai ei babell ef ynddo yn y dechreuad, rhwng Bethel a Hai; 4I le yr allor a wnaethai efe yno o’r cyntaf: ac yno y galwodd Abram ar enw yr ARGLWYDD.
5Ac i Lot hefyd, yr hwn a aethai gydag Abram, yr oedd defaid, a gwartheg, a phebyll. 6A’r wlad nid oedd abl i’w cynnal hwynt i drigo ynghyd; am fod eu cyfoeth hwynt yn helaeth, fel na allent drigo ynghyd. 7Cynnen hefyd oedd rhwng bugeiliaid anifeiliaid Abram a bugeiliaid anifeiliaid Lot: y Canaaneaid hefyd a’r Pheresiaid oedd yna yn trigo yn y wlad. 8Ac Abram a ddywedodd wrth Lot, Na fydded cynnen, atolwg, rhyngof fi a thi, na rhwng fy mugeiliaid i a’th fugeiliaid di; oherwydd brodyr ydym ni. 9Onid yw yr holl dir o’th flaen di? Ymneilltua, atolwg, oddi wrthyf: os ar y llaw aswy y troi di, minnau a droaf ar y ddeau; ac os ar y llaw ddeau, minnau a droaf ar yr aswy. 10A Lot a gyfododd ei olwg, ac a welodd holl wastadedd yr Iorddonen, mai dyfradwy ydoedd oll, cyn i’r ARGLWYDD ddifetha Sodom a Gomorra, fel gardd yr ARGLWYDD, fel tir yr Aifft, ffordd yr elych i Soar. 11A Lot a ddewisodd iddo holl wastadedd yr Iorddonen, a Lot a aeth tua’r dwyrain: felly yr ymneilltuasant bob un oddi wrth ei gilydd. 12Abram a drigodd yn nhir Canaan a Lot a drigodd yn ninasoedd y gwastadedd, ac a luestodd hyd Sodom. 13A dynion Sodom oedd ddrygionus, ac yn pechu yn erbyn yr ARGLWYDD yn ddirfawr.
14A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Abram, wedi ymneilltuo o Lot oddi wrtho ef, Cyfod dy lygaid, ac edrych o’r lle yr wyt ynddo, tua’r gogledd, a’r deau, a’r dwyrain, a’r gorllewin. 15Canys yr holl dir a weli, i ti y rhoddaf ef, ac i’th had byth. 16Gwnaf hefyd dy had di fel llwch y ddaear; megis os dichon gŵr rifo llwch y ddaear, yna y rhifir dy had dithau. 17Cyfod, rhodia trwy’r wlad, ar ei hyd, ac ar ei lled; canys i ti y rhoddaf hi. 18Ac Abram a symudodd ei luest, ac a ddaeth, ac a drigodd yng ngwastadedd Mamre, yr hwn sydd yn Hebron, ac a adeiladodd yno allor i’r ARGLWYDD.

انتخاب شده:

Genesis 13: BWMA

های‌لایت

به اشتراک گذاشتن

کپی

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید