Genesis 8
8
1A DUW a gofiodd Noa, a phob peth byw, a phob anifail a’r a oedd gydag ef yn yr arch: a DUW a wnaeth i wynt dramwy ar y ddaear, a’r dyfroedd a lonyddasant. 2Caewyd hefyd ffynhonnau’r dyfnder a ffenestri’r nefoedd; a lluddiwyd y glaw o’r nefoedd. 3A’r dyfroedd a ddychwelasant oddi ar y ddaear, gan fyned a dychwelyd: ac ymhen y deng niwrnod a deugain a chant, y dyfroedd a dreiasai.
4Ac yn y seithfed mis, ar yr ail ddydd ar bymtheg o’r mis, y gorffwysodd yr arch ar fynyddoedd Ararat. 5A’r dyfroedd fuant yn myned ac yn treio, hyd y degfed mis: yn y degfed mis, ar y dydd cyntaf o’r mis, y gwelwyd pennau’r mynyddoedd.
6Ac ymhen deugain niwrnod yr agorodd Noa ffenestr yr arch a wnaethai efe. 7Ac efe a anfonodd allan gigfran; a hi a aeth, gan fyned allan a dychwelyd, hyd oni sychodd y dyfroedd oddi ar y ddaear. 8Ac efe a anfonodd golomen oddi wrtho, i weled a dreiasai’r dyfroedd oddi ar wyneb y ddaear. 9Ac ni chafodd y golomen orffwysfa i wadn ei throed; a hi a ddychwelodd ato ef i’r arch, am fod y dyfroedd ar wyneb yr holl dir: ac efe a estynnodd ei law, ac a’i cymerodd hi, ac a’i derbyniodd hi ato i’r arch. 10Ac efe a arhosodd eto saith niwrnod eraill, ac a anfonodd eilwaith y golomen allan o’r arch. 11A’r golomen a ddaeth ato ef ar brynhawn; ac wele ddeilen olewydden yn ei gylfin hi, wedi ei thynnu: yna y gwybu Noa dreio o’r dyfroedd oddi ar y ddaear. 12Ac efe a arhosodd eto saith niwrnod eraill, ac a anfonodd y golomen; ac ni ddychwelodd hi eilwaith ato ef mwy.
13Ac yn yr unfed flwyddyn a chwe chant, yn y mis cyntaf, ar y dydd cyntaf o’r mis, y darfu i’r dyfroedd sychu oddi ar y tir: a Noa a symudodd gaead yr arch, ac a edrychodd, ac wele, sychasai wyneb y ddaear. 14Ac yn yr ail fis, ar y seithfed dydd ar hugain o’r mis, y ddaear a sychasai.
15A llefarodd DUW wrth Noa, gan ddywedyd, 16Dos allan o’r arch, ti, a’th wraig, a’th feibion, a gwragedd dy feibion, gyda thi. 17Pob peth byw a’r sydd gyda thi, o bob cnawd, yn adar, ac yn anifeiliaid, ac yn bob ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaear, a ddygi allan gyda thi: epiliant hwythau yn y ddaear, a ffrwythant ac amlhânt ar y ddaear. 18A Noa a aeth allan, a’i feibion, a’i wraig, a gwragedd ei feibion, gydag ef. 19Pob bwystfil, pob ymlusgiad, a phob ehediad, pob peth a ymlusgai ar y ddaear, wrth eu rhywogaethau, a ddaethant allan o’r arch.
20A Noa a adeiladodd allor i’r ARGLWYDD, ac a gymerodd o bob anifail glân, ac o bob ehediad glân, ac a offrymodd boethoffrymau ar yr allor. 21A’r ARGLWYDD a aroglodd arogl esmwyth; a dywedodd yr ARGLWYDD yn ei galon, Ni chwanegaf felltithio’r ddaear mwy er mwyn dyn: oherwydd bod bryd calon dyn yn ddrwg o’i ieuenctid: ac ni chwanegaf mwy daro pob peth byw, fel y gwneuthum. 22Pryd hau, a chynhaeaf, ac oerni, a gwres, a haf, a gaeaf, a dydd, a nos, ni phaid mwy holl ddyddiau y ddaear.
اکنون انتخاب شده:
Genesis 8: BWMA
هایلایت
به اشتراک گذاشتن
کپی
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
© Cymdeithas y Beibl 1955, 2018
© British and Foreign Bible Society 1955, 2018

: