Genesis 9
9
1 DUW hefyd a fendithiodd Noa a’i feibion, ac a ddywedodd wrthynt, Ffrwythwch a lluosogwch, a llenwch y ddaear. 2Eich ofn hefyd a’ch arswyd fydd ar holl fwystfilod y ddaear, ac ar holl ehediaid y nefoedd, a’r hyn oll a ymsymudo ar y ddaear, ac ar holl bysgod y môr; yn eich llaw chwi y rhoddwyd hwynt. 3Pob ymsymudydd yr hwn sydd fyw, fydd i chwi yn fwyd: fel y gwyrdd lysieuyn y rhoddais i chwi bob dim.
4Er hynny na fwytewch gig ynghyd â’i einioes, sef ei waed. 5Ac yn ddiau gwaed eich einioes chwithau hefyd a ofynnaf fi: o law pob bwystfil y gofynnaf ef; ac o law dyn, o law pob brawd iddo y gofynnaf einioes dyn. 6A dywallto waed dyn, trwy ddyn y tywelltir ei waed yntau, oherwydd ar ddelw DUW y gwnaeth efe ddyn. 7Ond chwychwi, ffrwythwch ac amlhewch epiliwch ar y ddaear, a lluosogwch ynddi.
8A DUW a lefarodd wrth Noa, ac wrth ei feibion gydag ef, gan ddywedyd, 9Ac wele myfi, ie myfi, ydwyf yn cadarnhau fy nghyfamod â chwi, ac â’ch had ar eich ôl chwi; 10Ac â phob peth byw yr hwn sydd gyda chwi, â’r ehediaid, â’r anifeiliaid, ac â phob bwystfil y tir gyda chwi, o’r rhai oll sydd yn myned allan o’r arch, hyd holl fwystfilod y ddaear. 11A mi a gadarnhaf fy nghyfamod â chwi, ac ni thorrir ymaith bob cnawd mwy gan y dwfr dilyw, ac ni bydd dilyw mwy i ddifetha’r ddaear. 12A DUW a ddywedodd, Dyma arwydd y cyfamod, yr hwn yr ydwyf fi yn ei roddi rhyngof fi a chwi, ac a phob peth byw a’r y sydd gyda chwi, tros oesoedd tragwyddol: 13Fy mwa a roddais yn y cwmwl, ac efe a fydd yn arwydd cyfamod rhyngof fi a’r ddaear. 14A bydd, pan godwyf gwmwl ar y ddaear, yr ymddengys y bwa yn y cwmwl. 15A mi a gofiaf fy nghyfamod, yr hwn sydd rhyngof fi a chwi, ac a phob peth byw o bob cnawd: ac ni bydd y dyfroedd yn ddilyw mwy, i ddifetha pob cnawd. 16A’r bwa a fydd yn y cwmwl; a mi a edrychaf arno ef, i gofio’r cyfamod tragwyddol rhwng DUW a phob peth byw, o bob cnawd a’r y sydd ar y ddaear. 17A DUW a ddywedodd wrth Noa, Dyma arwydd y cyfamod, yr hwn a gadarnheais rhyngof fi a phob cnawd a’r y sydd ar y ddaear.
18A meibion Noa y rhai a ddaeth allan o’r arch, oedd Sem, Cham, a Jaffeth; a Cham oedd dad Canaan. 19Y tri hyn oedd feibion Noa: ac o’r rhai hyn yr hiliwyd yr holl ddaear. 20A Noa a ddechreuodd fod yn llafurwr, ac a blannodd winllan: 21Ac a yfodd o’r gwin, ac a feddwodd, ac a ymnoethodd yng nghanol ei babell. 22A Cham tad Canaan a welodd noethni ei dad, ac a fynegodd i’w ddau frawd allan. 23A chymerodd Sem a Jaffeth ddilledyn, ac a’i gosodasant ar eu hysgwyddau ill dau, ac a gerddasant yn wysg eu cefn, ac a orchuddiasant noethni eu tad; a’u hwynebau yn ôl, fel na welent noethni eu tad. 24A Noa a ddeffrôdd o’i win, ac a wybu beth a wnaethai ei fab ieuangaf iddo. 25Ac efe a ddywedodd, Melltigedig fyddo Canaan; gwas gweision i’w frodyr fydd. 26Ac efe a ddywedodd, Bendigedig fyddo ARGLWYDD DDUW Sem; a Chanaan fydd was iddo ef. 27DUW a helaetha ar Jaffeth, ac efe a breswylia ym mhebyll Sem; a Chanaan fydd was iddo ef.
28A Noa a fu fyw wedi’r dilyw dri chan mlynedd a deng mlynedd a deugain. 29Felly holl ddyddiau Noa oedd naw can mlynedd a deng mlynedd a deugain; ac efe a fu farw.
اکنون انتخاب شده:
Genesis 9: BWMA
هایلایت
به اشتراک گذاشتن
کپی
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
© Cymdeithas y Beibl 1955, 2018
© British and Foreign Bible Society 1955, 2018

: