Psalmae 1

1
Psal. 1.
1DŶn ni rodio dedwydd yw
ynghyngor an-nuw ddynion:
yn fordd pechadwyr ni sai,
ni stēddai’n stōl gwatworion.
2Ond ei holl ddifyrwch sydd
yng-hyfraith Arglwydd nefol:
Ag yn unrhyw gyfraith rŷdd
mae beunydd yn fyfyriol.
3Fel prenn glann-ddwr dŵg ffrwyth prŷd,
ei ir-ddail clŷd ni wywa:
Pa beth bynnag wnēl ei lāw
hynny drāw a lwydda.
4Nid un-fāth y di-dduw trŵch,
fel ūs a llŵch i gwelir:
O ddar wyneb dayar faith
gann yrrwynt daith a chwelir.
5Am hynn nifai enwir lū,
wrth farnu’r ddeu-lu ’n iniawn.
Nar perchadwyr diriaid blā
mysc y gynlleidfa gyfiawn.
6Herwydd ffordd y cfiawn rhwydd
ebrwydd duw ai hedwyn:
A difethir hwnt ar llēd
ffordd ddi-grēd annuwiol-ddyn.
I’r nefol dâd Moliant gân,
i’r Mâb, ag i’r glân Yspryd:
Fel i bû, Yrowron sydd,
a bydd yn anniwedd-fyd.

اکنون انتخاب شده:

Psalmae 1: SC1603

های‌لایت

به اشتراک گذاشتن

کپی

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید