Luc 8:47-48
Luc 8:47-48 FFN
Gwelodd y wraig na allai guddio rhagddo, a daeth ymlaen yn grynedig. Syrthiodd wrth ei draed, a chyfaddefodd o flaen pawb pam y cyffyrddodd ag ef, gan ddweud iddi gael ei hiacháu ar unwaith. Meddai yntau wrthi, — “Fy merch, mae dy ffydd wedi dy iacháu. Dos mewn heddwch.”