Luc 8

8
Gwrogaeth y gwragedd
1Yn fuan wedi hyn, ymwelodd â llawer tref a phentref gan bregethu a chyhoeddi’r Newyddion Da am deyrnasiad Duw. Gydag ef roedd y deuddeg, 2a rhyw wragedd a gafodd wared o’u cythreuliaid a’u hafiechydon — Mair a elwid Magdalen (wedi cael cefnu ar saith ysbryd drwg), 3a Joanna, gwraig Chusa, swyddog Herod, Susanna a llawer o rai eraill a’u cynorthwyai â’u heiddo eu hunain.
Dameg yr heuwr
4Pan gynyddai’r dyrfa, a phobl yn dod o’r naill dref ar ôl y llall ato, llefarodd ddameg wrthyn nhw: 5“Aeth heuwr allan i hau ei had. Ac fel roedd yn hau, syrthiodd peth o’r had ar ochr y ffordd, ac fe’i sathrwyd, a daeth yr adar a’i fwyta. 6Syrthiodd peth o’r had ar dir creigiog, ond er iddo godi, gwywo fu ei hanes o ddiffyg gwlybaniaeth. 7Syrthiodd peth arall i ganol drain, ond fe gyd-dyfodd y drain a’i dagu. 8Ond syrthiodd peth o’r had i dir da, a rhoi cnwd ar ei ganfed.”
Ac wedi dweud hyn, meddai, “Os oes gennych glustiau i wrando, gwrandewch!”
9Gofynnodd y disgyblion iddo beth oedd ystyr y ddameg. 10A’i ateb oedd, “Fe gawsoch chi gyfle i ddeall cyfrinachau teyrnas Dduw, ond fe’u dysgir i bawb arall ar ddamhegion, am eu bod nhw’n edrych ond heb weld, ac yn gwrando ond heb ddeall.
11“A dyma ystyr y ddameg. Gair Duw yw’r had. 12Darlun yw’r had a daflwyd ar ochr y ffordd o’r rhai sy’n clywed y gair, ond fe ddaw’r diafol a’i ddwyn o’u calonnau, rhag iddyn nhw gredu a chael eu hachub. 13Yr had ar y tir creigiog yw’r darlun o’r rhai sydd yn derbyn y gair yn llawen iawn, ond maen nhw heb wreiddiau — yn credu am ryw hyd, ond pan gân nhw’u profi maen nhw’n gwrthgilio. 14Ac y mae’r had sy’n disgyn i ganol drain yn ddarlun o’r rhai sydd yn gwrando, ond wedyn yn caniatáu i drafferthion a chyfoeth a phleser bywyd atal eu tyfiant, fel nad ydyn nhw byth yn aeddfedu. 15Ond am yr had sy’n disgyn ar dir da, dyna’r bobl sydd yn gwrando’r gair, yn ei drysori yn eu calon lân ac onest, a thrwy ddyfalbarhad, yn dwyn ffrwyth.
Datguddio gwirionedd
16“Pa synnwyr sydd mewn goleuo lamp a rhoi rhywbeth drosti wedyn i’w chuddio, neu ei gosod dan y gwely? Ar stand y dylai fod, fel y gall pawb a ddaw i mewn fanteisio ar ei goleuni. 17Ni chuddir dim heb ei ddatguddio yn ei dro, ac nid oes dim sy’n guddiedig na ddaw mor eglur â chanol dydd. 18Byddwch ofalus felly sut y gwrandewch — y sawl sydd â rhywbeth ganddo eisoes a dderbyn fwy, ond fe gyll y sawl sydd heb ddim yr hyn a dybia sydd ganddo.”
Teulu’r Iesu
19Daeth ei fam a’i frodyr i’w geisio, ond ni allen nhw ddod yn agos ato gan faint y dyrfa. 20A dywedwyd wrtho, “Mae dy fam a’th frodyr tu allan yn awyddus i’th weld.”
21Meddai yntau, “Fy mam a’m brodyr yw’r rhai sy’n gwrando ar air Duw gan ufuddhau iddo.”
Iesu’n ceryddu’r gwynt a’r môr
22Digwyddodd ar un o’r dyddiau hynny iddo ef a’i ddisgyblion fynd i gwch. Ac meddai wrthyn nhw, “Gadewch inni groesi i’r ochr draw i’r llyn.”
A dyna gychwyn. 23Wrth iddyn nhw hwylio, syrthiodd ef i gysgu. Ond sgubodd storm o wynt dros wyneb y llyn; dechreuodd y cwch lenwi â dŵr, ac roedden nhw mewn perygl am eu bywyd. 24Dyma fynd ato, ei ddeffro a dweud, “Feistr, Feistr, rydym ni’n boddi!”
Fe gododd yntau, a cheryddu’r gwynt a’r tonnau. Gostyngodd y rheiny, a bu tawelwch. 25Yna meddai wrthyn nhw, “Beth a ddaeth o’ch ffydd?”
Mewn braw a rhyfeddod, medden nhw wrth ei gilydd, “Pwy, felly, yw hwn, gan fod hyd yn oed y gwyntoedd a’r dyfroedd yn ufuddhau iddo?”
Iacháu’r dyn lloerig
26Hwylio ymlaen drachefn, a dod i wlad y Gergeseniaid, yr ochr draw i’r llyn, gyferbyn â Galilea. 27Nid cynt y glaniodd nag y daeth ato ŵr o’r ddinas, un a ddirdynnid gan gythreuliaid. Ni wisgai ddillad ers amser, ac yn y fynwent yr oedd yn byw ac nid mewn tŷ. 28Pan welodd Iesu, syrthiodd o’i flaen gan weiddi, “Pam rwyt ti’n ymyrryd â mi, Iesu, Fab y Duw Goruchaf? Rwy’n erfyn arnat ti, paid â ’mhoeni.”
29Oherwydd roedd yr Iesu eisoes yn gorchymyn i’r ysbryd aflan ymadael â’r dyn. Gorchfygwyd ef lawer tro gan yr ysbryd aflan, ac er iddyn nhw ei gaethiwo mewn cadwynau a hualau, drylliai’r cyfan, a dianc i’r lleoedd unig, a’r cythraul yn ei yrru yno. 30Holodd yr Iesu ef, “Beth yw d’enw?”
“Lleng,” oedd ei ateb, am fod llawer o gythreuliaid ynddo. 31A’r rheiny’n awr yn erfyn ar i’r Iesu beidio â’u hanfon nhw i’r pwll di-waelod. 32Roedd hi’n digwydd bod cenfaint fawr o foch yn pori ar y llechwedd, a dymunodd yr ysbrydion drwg gael mynd i mewn i’r rheiny. Fe gawson nhw ei ganiatâd. 33Aeth y cythreuliaid allan o’r gŵr, ac i mewn i’r moch, a rhuthrodd y genfaint dros y dibyn i’r llyn, a boddi.
34Pan welodd y rhai a ofalai am y moch beth a ddigwyddodd, dyna nhw’n ffoi a mynd a mynegi’r peth yn y ddinas a’r wlad oddi amgylch. 35Daeth y bobl allan i weld beth a ddigwyddodd, a phan ddaethon nhw at yr Iesu, a chael y dyn yr aethai’r cythreuliaid allan ohono wedi’i wisgo, ac yn ei iawn bwyll, yn eistedd wrth draed yr Iesu, roedd pawb wedi cael braw. 36A’r rhai a welodd y cyfan oedd yn disgrifio’n fanwl pa fodd yr iachawyd y truan. 37Ac am eu bod wedi dychrynu’n enbyd, dyma’r holl bobl o ardal y Gergeseniaid yn erfyn ar yr Iesu i ymadael. Aeth yntau i’r cwch, a dychwelyd. 38Dymunai’r gŵr y bu’r cythreuliaid ynddo gael aros gydag ef, ond fe’i hanfonodd i ffwrdd, gan ddweud, 39“Dos yn ôl i’th gartref, a dywed am yr holl bethau a wnaeth Duw er dy fwyn.”
Ac fe aeth, gan gyhoeddi drwy’r holl ddinas am yr hyn a wnaeth yr Iesu drosto.
Iacháu oherwydd ffydd
40A phan ddychwelodd yr Iesu, mawr oedd croeso’r dyrfa iddo am fod pawb wedi bod yn ei ddisgwyl.
41Ar hynny, daeth gŵr o’r enw Jairus ato (un o lywyddion y synagog) gan daflu ei hun wrth draed yr Iesu ac erfyn arno ddod i’w dŷ, 42oherwydd roedd ei unig ferch tua deuddeg oed yn marw. Ond fel yr elai, gwasgai’r dyrfa o’i amgylch. 43Yn ei phlith roedd gwraig a fu’n dioddef ddeuddeng mlynedd gan waedlif, a heb gael meddyginiaeth gan neb er iddi wario’i chwbl ar feddygon. 44Daeth hon o’r tu ôl i’r Iesu, gan gyffwrdd ag ymyl ei wisg, ac fe wellhaodd yn llwyr yr eiliad honno.
45“Pwy a gyffyrddodd â mi?” gofynnodd yr Iesu.
Gwadodd pawb, ac meddai Pedr, “Athro, y mae’r dyrfa o’th gwmpas yn pwyso arnat o bob tu.”
46Ond meddai’r Iesu, “Fe gyffyrddodd rhywun â mi, oherwydd fe deimlais rym yn mynd allan ohonof.”
47Gwelodd y wraig na allai guddio rhagddo, a daeth ymlaen yn grynedig. Syrthiodd wrth ei draed, a chyfaddefodd o flaen pawb pam y cyffyrddodd ag ef, gan ddweud iddi gael ei hiacháu ar unwaith. 48Meddai yntau wrthi, — “Fy merch, mae dy ffydd wedi dy iacháu. Dos mewn heddwch.”
49Ac ar y gair, daeth rhywun o dŷ rheolwr y synagog i ddweud wrtho, “Bu dy ferch farw. Does dim galw am boeni’r Athro bellach.”
50Ond pan glywodd yr Iesu hyn, atebodd, “Nawr, paid ag ofni. Cred yn unig, fe fydd hi’n iach eto.”
51Wedi cyrraedd y tŷ, ni adawai i neb fynd i mewn gydag ef ond Pedr ac Ioan ac Iago, a rhieni’r plentyn. 52Roedd pawb oedd yno eisoes yn wylo, ac yn galaru o’i cholli, ond meddai ef, “Peidiwch ag wylo; nid yw wedi marw, cysgu y mae hi.”
53Gwawdio a wnaethon nhw, gan wybod ei bod hi wedi marw. 54Gafaelodd yntau yn ei llaw a dywedodd, “Cod, ferch fach.”
55A daeth ei hysbryd yn ôl, ac fe gododd y foment honno. Dywedodd yntau wrthyn nhw am roi bwyd iddi. 56Synnu a wnaeth ei rhieni, ond gofynnodd yr Iesu iddyn nhw beidio â dweud wrth neb beth a ddigwyddodd.

انتخاب شده:

Luc 8: FfN

های‌لایت

به اشتراک گذاشتن

کپی

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید