1
Luc 8:15
Y Ffordd Newydd - 4 Efengyl mewn Cymraeg Byw 1971
Ond am yr had sy’n disgyn ar dir da, dyna’r bobl sydd yn gwrando’r gair, yn ei drysori yn eu calon lân ac onest, a thrwy ddyfalbarhad, yn dwyn ffrwyth.
مقایسه
Luc 8:15 را جستجو کنید
2
Luc 8:14
Ac y mae’r had sy’n disgyn i ganol drain yn ddarlun o’r rhai sydd yn gwrando, ond wedyn yn caniatáu i drafferthion a chyfoeth a phleser bywyd atal eu tyfiant, fel nad ydyn nhw byth yn aeddfedu.
Luc 8:14 را جستجو کنید
3
Luc 8:13
Yr had ar y tir creigiog yw’r darlun o’r rhai sydd yn derbyn y gair yn llawen iawn, ond maen nhw heb wreiddiau — yn credu am ryw hyd, ond pan gân nhw’u profi maen nhw’n gwrthgilio.
Luc 8:13 را جستجو کنید
4
Luc 8:25
Yna meddai wrthyn nhw, “Beth a ddaeth o’ch ffydd?” Mewn braw a rhyfeddod, medden nhw wrth ei gilydd, “Pwy, felly, yw hwn, gan fod hyd yn oed y gwyntoedd a’r dyfroedd yn ufuddhau iddo?”
Luc 8:25 را جستجو کنید
5
Luc 8:12
Darlun yw’r had a daflwyd ar ochr y ffordd o’r rhai sy’n clywed y gair, ond fe ddaw’r diafol a’i ddwyn o’u calonnau, rhag iddyn nhw gredu a chael eu hachub.
Luc 8:12 را جستجو کنید
6
Luc 8:17
Ni chuddir dim heb ei ddatguddio yn ei dro, ac nid oes dim sy’n guddiedig na ddaw mor eglur â chanol dydd.
Luc 8:17 را جستجو کنید
7
Luc 8:47-48
Gwelodd y wraig na allai guddio rhagddo, a daeth ymlaen yn grynedig. Syrthiodd wrth ei draed, a chyfaddefodd o flaen pawb pam y cyffyrddodd ag ef, gan ddweud iddi gael ei hiacháu ar unwaith. Meddai yntau wrthi, — “Fy merch, mae dy ffydd wedi dy iacháu. Dos mewn heddwch.”
Luc 8:47-48 را جستجو کنید
8
Luc 8:24
Dyma fynd ato, ei ddeffro a dweud, “Feistr, Feistr, rydym ni’n boddi!” Fe gododd yntau, a cheryddu’r gwynt a’r tonnau. Gostyngodd y rheiny, a bu tawelwch.
Luc 8:24 را جستجو کنید
خانه
كتابمقدس
برنامههای مطالعه
ویدیوها