Hosea 11

11
1Pan oedd Israel yn llanc y cerais ef,
A gelwais ar fy mab o’r Aifft.
2Fel y galwn arnynt,
Felly yr aent o’m gŵydd;#11:2 Fel y galwn arnynt, Felly yr aent o’m gŵydd; Felly LXX; Heb. Fel y galwent… o’u gŵydd;
Aberthent i’r Baalim,
Ac arogldarthent i’r delwau.
3Myfi hefyd a ddysgodd i Effraim gerdded,
Cymerais hwynt yn fy mreichiau,#11:3 Cymerais hwynt yn fy mreichiau, Felly LXX; Heb. Cymerodd hwynt yn ei freichiau,
Ond ni wybuant imi eu hiacháu.
4Tynnais hwynt â rheffynnau dyn, â rhwymau cariad,
A bûm iddynt fel rhai’n codi’r iau ar eu bochgernau,
Tueddais hefyd ato, porthais ef.
5Ni ddychwel i wlad yr Aifft,
Ond Asyria fydd ei frenin,
Canys gwrthodasant ddychwelyd.
6A chwyrnella cleddyf yn eu dinasoedd,
A difetha ei farrau,
Ac fe’u hŷs oherwydd eu cynghorion.
7Ac y mae fy mhobl ar fedr gwrthgilio oddiwrthyf;
Bu galw arnynt hefyd at i fyny,
Ni ellid eu cyfodi ddim.
8Pa fodd y’th roddaf i fyny Effraim?
A’th draddodi, Israel?
Pa fodd y’th roddaf i fyny fel Adma?
A’th osod fel Seboim?
Trodd fy nghalon ynof,
Cynhesodd fy nhosturiaethau ynghyd.
9Ni weithredaf angerdd fy nigllonedd,
Na dychwelyd i ddinistrio Effraim;
Canys Duw wyf fi ac nid dyn,
Y Sanct yn dy ganol,
Ac ni ddeuaf mewn cyffro.
10Ânt ar ol Iafe,
Fe rua fel llew,
Canys rhua ef,
A daw meibion o’r môr dan grynu,
11Deuant dan grynu fel aderyn o’r Aifft,
Ac fel colomen o wlad Asyria,
A pharaf iddynt breswylio yn eu tai, medd Iafe.
12Amgylchodd Effraim fi â thwyll,
A Thŷ Israel â brad;
Ond y mae Iwda yn crwydro eto gyda Duw,
Ac yn ffyddlon gyda phethau sanctaidd.#11:12 phethau sanctaidd. Neu Y’r Sanct.

انتخاب شده:

Hosea 11: CUG

های‌لایت

به اشتراک گذاشتن

کپی

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید