Hosea 6

6
1“Deuwch#6:1 ...amdanaf. “Deuwch LXX amdanaf, gan ddywedyd, “Deuwch”, a chysylltir v. 15 â vi. 1. a dychwelwn at Iafe,
Canys ef a rwygodd, ac a’n hiachâ,
Tarawodd ac fe’n rhwyma;
2Bywha ni gwedi deuddydd,
Ar y trydydd dydd y’n cyfyd ni,
A byddwn byw ger ei fron.
3Ac adnabyddwn, byddwn selog i adnabod Iafe,
Sicr fel gwawr yw ei fynediad allan,
A daw arnom fel y glaw,
Fel y diweddar law yn dyfrhau’r ddaear.”
4Beth a wnaf â thi, Effraim?
Beth a wnaf â thi, Iwda?
Gan fod eich caredigrwydd fel cwmwl bore,
Ac fel gwlith yn diflannu gyda’r plygain.
5Am hynny holltais hwynt drwy’r proffwydi,
Lleddais hwynt drwy ymadroddion fy ngenau,
Ac â dy farnedigaethau allan yn oleuni#6:5 dy farnedigaethau allan yn oleuni LXX fy marnedigaeth allan fel goleuni..
6Canys ymhyfrydaf mewn caredigrwydd ac nid mewn aberth,
Mewn gwybodaeth o Dduw yn hytrach na phoethoffrymau.
7Ond troseddasant hwy gyfamod fel Adda;
Yno y buont anffyddlon imi.
8Tref gweithredwyr anwiredd yw Gilead,
Llwybredig â gwaed.
9Ac fel cynllwynwyr dyn yn dorfoedd
Y mae mintai o offeiriaid,
Llofruddiant ar y ffordd tua Sichem,
Canys cyflawnant ddyhirwch.
10Gwelais yn Nhŷ Israel beth erchyll,
Yno y mae puteindra Effraim,
Ymhalogodd Israel.
11Am Iwda hefyd — gosododd gynhaeaf i ti.
Wrth ddychwelyd ohonof#6:11 Israel. Am Iwda hefyd — gosododd gynhaeaf i ti. Wrth ddychwelyd ohonof LXX Israel a Iwda. Dechreu gynhaeafu i ti dy hun wrth ddychwelyd ohonof gaethiwed fy mhobl.

اکنون انتخاب شده:

Hosea 6: CUG

های‌لایت

به اشتراک گذاشتن

کپی

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید