Salmau 1
1
SALM I.
M. S.
1Gwyn fyd y gŵr ni rodia ’nol
Y drwg annuwiol gynghor;
Yn ffordd troseddwyr ef nid ä
Nac i eisteddfa’r gwatwor.
2Ond ei ewyllys rydd, a’i reddf,
Sy’n uniawn ddeddf yr Arglwydd;
Ac arni ’r erys i barhau
Ei fyfyrdodau dedwydd.
3Efe, fel pren planedig, fydd
Ar lan afonydd bywiol;
Ni wywa’i ddail, a’i ffrwyth o hyd
A ddwg mewn pryd amserol.
4Ond yr annuwiol mawr ei rus,
Fydd fel mân us, neu sothach;
A chwelir gan yr awel wynt
Na welir mo’nynt mwyach.
5’R annuwiol yn y farn a ddaw
A gais gan fraw ymguddio;
Ac o gyn’lleidfa’r cyfiawn rhaid
I’r pechaduriaid gilio.
6Can’s Duw a edwyn ffordd ei saint,
Mawr fydd eu braint dragwyddol,
Ond ffordd yr annuwiolion a
Ddyfetha ef yn hollol.
Nodiadau.
Nid oes enw awdwr wrth y salm hon; ond bernir yn ddilys mai Dafydd ydoedd. Golygir y gyntaf hon o’r salmau fel math o arweiniad i mewn i’r llyfr, yn yr hon y cyferbynir y ddau wrthddrych sydd i gael eu cadw mewn golwg, i draethu yn aml am danynt drwy y llyfr.
Egyr Llyfr y Salmau yma, fel y bregeth ar y mynydd, mewn cyhoeddiad o wynfydedigrwydd: yna disgrifir nodweddion arbenig etifedd y gwynfydedigrwydd hwnw — 1af, Yn nacaol: yn gyferbyniol i’r annuwiol. Nid yw yn sefyll yn ei gynghor, yn rhodio yn ei ffordd, nac yn eistedd yn ei eisteddfa ef: h. y., y mae efe yn ymgadw o gymdeithas, o ffordd, ac oddi wrth ymarferion yr annuwiolion, y pechaduriaid, a’r gwatwarwyr. Defnyddir y tri gair i ddangos fod graddau a chynnydd yn ngyrfa pechadur yn ei ddrygioni — yn dechreu yn nghynghor yr annuwiol; yna, yn rhodio yn ffordd pechaduriaid; ac yn ddiweddaf, yn eistedd yn eisteddfa’r gwatwarwyr, fel un wedi ymsefydlu ac ymgartrefu yn ei bechod.
2il, Yn gadarnhaol: y mae y dyn a gyhoeddir yma yn wynfydedig, â’i ewyllys a’i fyfyrdod yn nghyfraith yr Arglwydd yn wastadol; ac fel ffrwyth a chanlyniad o hyny, y mae yn ei fywyd a’i fuchedd yn gyffelyb i bren ffrwythau wedi ei blanu mewn tir ffrwythlawn — yn hardd, yn ddefnyddiol, bendithiol, a sefydlog: tra o’r tu arall y mae yr annuwiol, yn ei fywyd a’i fuchedd, yn wâg, disylwedd, ac anwadal, yn cael ei ddwyn ymaith a’i droelli gan bob awel o brofedigaeth a ddigwyddo anadlu arno — “fel mân us, yr hwn a chwâl y gwynt ymaith.”
Yn olaf, edrychir ar ddiwedd y ddau — eu cyflwr yn marn y dydd mawr: y naill yn gymmeradwy a chadwedig, a’r llall yn anghymmeradwy a gwrthodedig.
Yna gwêl pawb y rhagor rhwng y cyfiawn a’r drygionus, rhwng yr hwn a rodia yn nghynghor yr annuwiol, a ffordd pechaduriaid, a’r hwn a rodia yn nghyfraith yr Arglwydd. Gosodir o’n blaen yn y salm fer hon ffordd einioes a ffordd angeu — y fendith a’r felldith! Y mae hi megys yn ddrych y gall pob un weled ei wynebpryd moesol ynddo, a gweled i ba un o’r ddau fath ar nodwedd a chyflwr a ddisgrifir y mae efe yn perthyn.
اکنون انتخاب شده:
Salmau 1: SC1875
هایلایت
به اشتراک گذاشتن
کپی
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
Tŵr Dafydd gan y Parch. William Rees (Gwilym Hiraethog). Cyhoeddwyd gan Thomas Gee, Dinbych 1875. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.