Ioan 10

10
PENNOD X.
Christ yw y drws, a’r bugail da. Y mae efe yn profi trwy ei weithredoedd, mai efe yw Christ Mab Duw: ac yn diangc rhag yr Iudaion, ac yn myned drachefn dros yr Iordan, lle y credodd llawer ynddo ef
1YN wir, yn wir, meddaf i chwi, Yr hwn nid yw yn myned i mewn trwy y drws i gorlan y defaid, eithr sydd yn dringo ffordd arall, sy leidr ac yspeiliwr. 2Ond yr hwn sydd yn myned i mewn trwy y drws, yw bugail y defaid. 3I hwn y mae y drysor yn agoryd, ac y mae y defaid yn gwrandaw ar ei lais ef: ac y mae efe yn galw ei ddefaid wrth eu henw, ac yn eu harwain hwy allan. 4Ac wedi iddo yrru allan ei ddefaid, y mae efe yn myned o’u blaen hwy: a’r defaid sydd yn ei ganlyn ef, oblegyd y maent yn adnabod ei lais. 5Ond y dieithr ni’s canlynant, eithr ffoant oddi wrtho: oblegyd nad adwaenant lais dieithriaid. 6Y ddammeg hon a ddywedodd yr Iesu wrthynt: ond hwy ni wybuant pa bethau ydoedd y rhai yr oedd efe yn eu llefaru. 7Am hynny yr Iesu a ddywedodd wrthynt drachefn, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Myfi yw drws y defaid. 8Cynnifer oll ag a ddaethant o’m blaen i, ydynt ladron ac yspeilwŷr: eithr ni wrandawai y defaid arnynt. 9Myfi yw y drws: os a neb i mewn trwof fi, efe a fydd cadwedig: ac efe a â i mewn ac allan, ac a gaiff borfa. 10Ni ddaw lleidr ond i ladratta, ac i ladd, ac i ddistrywio: myfi a ddaethum fel y caent fywyd, ac y caent ef yn helaeth. 11Myfi wyf y bugail da. Y bugail da sydd yn rhoddi ei einioes dros y defaid. 12Eithr y gwas cyflog, a’r hwn nid yw fugail, yr hwn nid eiddo y defaid, sydd yn gweled y blaidd yn dyfod, ac yn gadael y defaid, ac yn ffoi: a’r blaidd sydd yn eu hysglyfio, ac yn tarfu y defaid. 13Y mae y gwas cyflog yn ffoi, oblegyd mai gwas cyflog yw, ac nid oes arno ofal am y defaid. 14Myfi yw y bugail da; ac a adwaen yr eiddof fi, ac a’m hadweinir gan yr eiddof fi. 15Fel yr edwyn y Tad fyfi, felly yr adwaen innau y Tad: ac yr ydwyf yn rhoddi fy einioes dros y defaid. 16A defaid eraill sydd gennyf, y rhai nid ynt o’r gorlan hon: y rhai hynny hefyd sydd raid i mi eu cyrchu, a’m llais i a wrandawant; a bydd un gorlan, ac un bugail. 17Am hyn y mae y Tad yn fy ngharu i, am fy mod i yn dodi fy einioes, fel y cymmerwyf hi drachefn, 18Nid oes neb yn ei dwyn oddi arnaf fi: ond myfi sydd yn ei dodi hi i lawr o honof fy hun. Y mae gennyf feddiant i’w dodi hi i lawr, ac y mae gennyf feddiant i’w chymmeryd hi drachefn. Y gorchymyn hwn a dderbyniais i gan fy Nhad. 19Yna y bu drachefn ymraniad ym mysg yr Iudaion, am yr ymadroddion hyn. 20A llawer o honynt a ddywedasant, Y mae cythraul ganddo, ac y mae efe yn ynfydu: paham y gwrandêwch chwi arno? 21Eraill a ddywedasant, Nid yw y rhai hyn eiriau un â chythraul ynddo. A all cythraul agoryd llygaid y deillion? 22Ac yr oedd y gyssegr-wledd yn Ierusalem, yn amser gauaf. 23Ac yr oedd yr Iesu yn rhodio yn y deml, ym mhorth Solomon. 24Am hynny y daeth yr Iudaion yn ei gylch ef, ac a ddywedasant wrtho, Pa hŷd yr wyt yn peri i ni ammeu? os tydi yw y Christ, dywed i ni yn eglur. 25Yr Iesu a attebodd iddynt, Mi a ddywedais i chwi, ac nid ydych yn credu. Y gweithredoedd yr wyf fi yn eu gwneuthur yn enw fy Nhad, ydynt yn tystiolaethu am danaf fi. 26Ond chwi nid ydych yn credu: canys nid ydych o’m defaid i, fel y dywedais i chwi. 27Y mae fy nefaid i yn gwrandaw fy llais; a mi a’u hadwaen hwynt, a hwy a’m canlynant i: 28A minnau ydwyf yn rhoddi iddynt fywyd tragywyddol: ac ni chyfrgollant byth, ac ni ddwg neb hwynt allan o’m llaw i. 29Fy Nhad i yr hwn a’u rhoddes i mi, sydd fwy nâ phawb: ac ni’s gall neb eu dwyn hwynt allan o law fy Nhad. 30Myfi a’r Tad ydym ûn. 31Am hynny y cododd yr Iudaion gerrig drachefn i’w labyddio ef. 32Yr Iesu a attebodd iddynt, Llawer o weithredoedd da a ddangosais i chwi oddi wrth fy Nhad: am ba un o’r gweithredoedd hynny yr ydych yn fy llabyddio i? 33Yr Iudaion a attebasant iddo, gan ddywedyd, Nid am weithred dda yr ydym yn dy labyddio, ond am gabledd, ac am dy fod di, a thi yn ddyn, yn dy wneuthur dy hun yn Dduw. 34Yr Iesu a attebodd iddynt, Onid yw yn ysgrifenedig yn eich cyfraith chwi. Mi a ddywedais, Duwiau ydych? 35Os galwodd efe hwy yn dduwiau, at y rhai y daeth gair Duw, a’r ysgrythyr ni’s gellir ei thorri: 36A ddywedwch chwi wrth yr hwn a sancteiddiodd y Tad, ac a’i hanfonodd i’r byd, Yr wyt ti yn cablu; (am i mi ddywedyd,) Mab Duw ydwyf? 37Onid wyf fi yn gwneuthur gweithredoedd fy Nhad, na chredwch i mi. 38Ond os ydwyf yn eu gwneuthur, er nad ydych yn credu i mi, credwch y gweithredoedd: fel y gwybyddoch ac y credoch, fod y Tad ynof fi, a minnau ynddo yntau. 39Am hynny y ceisiasant drachefn ei ddal ef: ac efe a ddiangodd allan o’u dwylaw hwynt. 40Ac efe a aeth ymaith drachefn dros yr Iordan, i’r man lle y buasai Ioan ar y cyntaf yn bedyddio; ac a arhosodd yno. 41A llawer a ddaethant atto ef, ac a ddywedasant, Ioan yn wir ni wnaeth un arwydd: ond yr holl bethau a’r a ddywedodd Ioan am hwn, oeddynt wir. 42A llawer yno a gredasant ynddo.

اکنون انتخاب شده:

Ioan 10: JJCN

های‌لایت

به اشتراک گذاشتن

کپی

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید