Ioan 11

11
PENNOD XI.
Christ yn cyfodi Lazarus. Llawer o Iudaion yn credu.Yr arch-offeiriaid a’r Pharisai yn casglu cynghor yn erbyn Christ. Kaiaphas yn prophwydo. Iesu yn ymguddio: hwythau ar y pasg yn ymofyn am dano, ac yn gosod cynllwyn iddo.
1AC yr oedd un yn glaf, sef Lazarus o Bethania, o dref Maria, a’i chwaer Martha. 2(A Maria ydoedd yr hon a enneiniodd yr Arglwydd ag ennaint, ac a sychodd ei draed ef a’i gwallt, a’i brawd Lazarus oedd yn glaf) 3Am hynny y chwiorydd a ddanfonasant atto ef, gan ddywedyd, Arglwydd, wele, y mae yr hwn sydd hoff gennyt yn glaf. 4A’r Iesu pan glybu, a ddywedodd, Nid yw y clefyd hwn i farwolaeth, ond er gogoniant Duw, fel y gogonedder Mab Duw trwy hynny. 5A’r oedd gan yr Iesu gariad am Martha, a’i chwaer, a Lazarus. 6Pan glybu efe gan hynny ei fod ef yn glaf, efe a arhosodd yn y lle yr oedd, ddau ddiwrnod. 7Yna wedi hynny efe a ddywedodd wrth y disgyblion, Awn i Iudaia drachefn. 8Y disgyblion a ddywedasant wrtho, Athraw, yr oedd yr Iudaion yn awr yn ceisio dy labyddio di; ac a wyt ti yn myned yno drachefn? 9Yr Iesu a attebodd, Onid oes deuddeg awr o’r dydd? os rhodia neb y dydd, ni thramgwydda, am ei fod yn gweled goleuni y byd hwn: 10Ond os rhodia neb y nos, efe a dramgwydda, am nad oes goleuni ynddo. 11Hyn a lefarodd: ac wedi hynny efe a ddywedodd wrthynt, Y mae ein cyfaill Lazarus yn huno; on yr wyf fi yn myned i’w ddihuno ef. 12Yna ei ddisgyblion a ddywedasant wrtho, Arglwydd, os huno y mae, efe a fydd iach. 13Ond yr Iesu a ddywedasai am ei farwolaeth ef: eithr hwy a dybiasant mai am hûn cwsg yr oedd efe yn dywedyd. 14Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt yn eglur, Bu farw Lazarus; 15Ac y mae yn llawen gennyf nad oeddwn i yno, er eich mwyn chwi (fel y credoch:) awn atto ef. 16Yna y dywedodd Thomas, yr hwn a elwir Gefell, wrth ei gyd-ddisgyblion, Awn ninnau hefyd, fel y byddom feirw gyd ag ef. 17Yna yr Iesu wedi dyfod, a’i cafodd ef wedi bod weithian bedwar diwrnod yn y bedd. 18A Bethania oedd yn agos i Ierusalem, ynghylch dwy filldir oddi wrthi: 19A llawer o’r Iudaion a ddaethent at Martha a Maria, i’w cysuro hwy am eu brawd. 20Yna Martha, cyn gynted ag y clybu hi fod yr Iesu yn clyfod, a aeth i’w gyfarfod ef: ond Maria a eisteddodd yn y tŷ. 21Yna y dywedodd Martha wrth yr Iesu, Arglwydd, pe buasit ti yma, ni buasai fy mrawd farw. 22Eithr mi a wn hefyd yr awr hon, pa bethau bynnag a ddymunech di gan Dduw, y dyry Duw i ti. 23Yr Iesu a ddywedodd wrthi, Dy frawd a adgyfodir drachefn. 24Dywedodd Martha wrtho, Myfi a wn yr adgyfodir ef yn yr adgyfodiad, y dydd diweddaf. 25Yr Iesu a ddywedodd wrthi, Myfi yw yr adgyfodiad, a’r bywyd: yr hwn sydd yn credu ynof fi, er iddo farw, a fydd byw: 26A phwy bynnag sydd yn fyw, ac yn credu ynof fi, ni bydd marw yn dragywydd. A wyt ti yn credu hyn? 27Dywedodd hithau wrtho, Ydwyf, Arglwydd: yr wyf fi yn credu mai ti yw y Christ, Mab Duw, yr hwn sydd gwedi dyfod i’r byd. 28Ac wedi iddi ddywedyd y pethau hyn, hi a aeth ymaith, ac a alwodd yn ddirgel ei chwaer Maria, gan ddywedyd, Fe ddaeth yr Athraw, ac y mae yn galw am danat. 29Cyn gynted ag y clybu hi, hi a gododd yn ebrwydd, ac a ddaeth atto ef. 30(A’r Iesu ni ddaethai etto i’r dref, ond yr oedd efe yn y man lle y cyfarfuasai Martha ag ef.) 31Yna yr Iudaion y rhai oedd gyd â hi yn y tŷ, ac yn ei chysuro hi, pan welsant Maria yn codi ar frys, ac yn myned allan, a’i canlynasant hi, gan ddwedyd, Y mae hi yn myned at y bedd, i wylo yno. 32A Maria, pan ddaeth lle yr oedd yr Iesu a’i weled ef, a syrthiodd wrth ei draed ef, gan ddywedyd wrtho, Arglwydd, pe buasit ti yma, ni buasei fy mrawd farw. 33Yr Iesu gan hynny, pan welodd hi yn wylo, a’r Iudaion y rhai a ddaethynt gyd â hi, yn wylo, a riddfanodd yn yr yspryd, ac a gynhyrfwyd; 34Ac a ddywedodd, Pa le y dodasoch chwi ef? Hwy a ddywedasant wrtho, Arglwydd, dyred a gwel. 35Yr Iesu a wylodd. 36Am hynny y dywedodd yr Iudaion, Wele, fel yr oedd yn ei garu ef. 37Eithr rhai o honynt a ddywedasant, Oni allasai, yr hwn a agorodd lygaid y dall, beri na buasai hwn farw chwaith? 38Yna yr Iesu drachefn a riddfanodd ynddo ei hunan, ac a ddaeth at y bedd. Ac ogof oedd, a maen oedd wedi ei ddodi arno. 39Yr Iesu a ddywedodd, Codwch ymaith y maen. Martha, chwaer yr hwn a fuasai farw, a ddywedodd wrtho, Arglwydd, y mae efe weithian yn drewi: herwydd y mae yn farw er ys pedwar diwrnod. 40Yr Iesu a ddywedodd wrthi, Oni ddywedais i ti, pes credit, y cait ti weled gogoniant Duw? 41Yna y codasant y maen lle yr oedd y marw wedi ei osod. A’r Iesu a gododd ei olwg i fynu, ac a ddywedodd, Y Tad, yr wyf yn dïolch i ti am i ti wrandaw arnaf. 42Ac myfi a wyddwn dy fod di yn fy ngwrandaw bob amser: eithr er mwyn y bobl sydd yn sefyll o amgylch, y dywedais, fel y credont mai tydi a’m hanfonaist i. 43Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a lefodd â llef uchel i Lazarus, dyred allan. 44A’r hwn a fuasai farw a ddaeth allan, yn rhwym ei draed a’i ddwylaw mewn amdo: a’i wyneb oedd wedi ei rwymo â napcyn. Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Gollyngwch ef yn rhydd, a gadêwch iddo fyned ymaith. 45Yna llawer o’r Iudaion, y rhai a ddaethent at Maria, ac a welsant y pethau a wnaethai yr Iesu, a gredasant ynddo. 46Eithr rhai o honynt a aethant ymaith at y Pharisai, ac a ddywedasant wrthynt y pethau a wnaethai yr Iesu. 47Yna yr arch-offeiriaid a’r Pharisai a gasglasant gynghor, ac a ddywedasant, Pa beth yr ydym ni yn ei wneuthur? canys y mae y dyn yma yn gwneuthur llawer o arwyddion. 48Os gadâwn ni ef fel hyn, pawb a gredant ynddo; ac fe a ddaw y Rhufeiniaid ac a ddifethant ein lle ni a’n cenedl. 49A rhyw un o honynt, Kaiaphas, yr hwn oedd arch-offeiriaid y flwyddyn honno, a ddywedodd wrthynt, Nid ydych chwi yn gwybod dim, 50Nac yn ystyried, mai buddiol yw i ni, farw o un dyn dros y bobl, ac na ddifether yr holl genedl. 51Hyn ni ddywedodd efe o hono ei hun: eithr, ac efe yn arch-offeiriad y flwyddyn honno, efe a brophwydodd y byddai yr Iesu farw dros y genedl; 52Ac nid dros y genedl yn unig, eithr fel y casglai efe ynghŷd yn un blant Duw, y rhai a wasgarasid. 53Yna o’r dydd hwnnw allan y cyd-ymgynghorasant, fel y lladdent ef. 54Am hynny ni rodiodd yr Iesu mwy yn amlwg ym mysg yr Iudaion; ond efe a aeth oddi yno i’r wlad yn agos i’r anialwch, i ddinas a elwir Ephraim, ac a arhosodd yno gyd â’i ddisgyblion. 55A phasg yr Iudaion oedd yn agos: a llawer a aethant o’r wlad i fynu i Ierusalem, o flaen y pasg, i’w glanhâu eu hunain. 56Yna y ceisiasant yr Iesu; a dywedasant wrth eu gilydd, fel yr oeddynt yn sefyll yn y deml, Beth a dybygwch chwi, gan na ddaeth efe i’r wledd? 57A’r arch-offeiriaid a’r Pharisai a roisant orchymyn, os gwyddai neb pa le yr oedd efe, ar fynegi o hono, fel y gallent ei ddal ef.

انتخاب شده:

Ioan 11: JJCN

های‌لایت

به اشتراک گذاشتن

کپی

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید