Luk 12

12
PENNOD XII.
Christ yn pregethu i’w ddisgyblion am ochel rhagrith, ac ofn wrth ddatgan ei athrawiaeth ef; yn rhybuddio y bobl i ochelyd cybydd-dra; i rhoddi elusen; a bod yn barod i agoryd i’n Harglwydd pan guro, pa bryd bynnag y delo.
1YN y cyfamser, wedi i fyrddiwn o bobl ymgasglu ynghyd, hyd oni ymsathrai y naill y llall, efe a ddechreuodd ddywedyd wrth ei ddisgyblion, Yn gyntaf, gwyliwch rhag surdoes y Pharisai, yr hwn yw rhagrith. 2Canys nid oes dim cuddiedig, a’r na’s datguddir; na dirgel, a’r ni’s gwybyddir. 3Am hynny pa bethau bynnag a ddywedasoch yn y tywyllwch, a glywir yn y goleu; a’r peth a ddywedasoch yn y glust mewn ystafelloedd, a bregethir ar bennau tai. 4Ac yr wyf yn dywedyd wrthych, fy nghyfeillion, Nac ofnwch y rhai sydd yn lladd y corph, ac wedi hynny heb ganddynt ddim mwy i’w wneuthur. 5Ond rhag-ddangosaf i chwi pwy a ofnwch: Ofnwch yr hwn, wedi y darffo iddo ladd, sydd ag awdurdod ganddo i fwrw i’r floeddgar dyffryn; ïe, meddaf i chwi, ofnwch hwnnw. 6Oni werthir pump o adar y tô er dwy ffyrling, ac nid oes un o honynt mewn anghof ger bron Duw? 7Ond y mae hyd yn oed gwallt eich pennau chwi yn gyfrifedig oll. Am hynny nac ofnwch: yr ydych chwi yn well nâ llawer o adar y tô. 8Ac meddaf i chwi, Pwy bynnag a’m haddefo i ger bron dynion, Mab y dyn hefyd a’i haddef yntau ger bron anghylion Duw. 9A’r hwn a’m gwado i ger bron dynion, a wedir ger bron angylion Duw. 10A phwy bynnag a ddywedo air yn erbyn Mab y dyn, fe a faddeuir iddo: eithr i’r neb a gablo yn erbyn yr Yspryd Glân, ni faddeuir, 11A phan y’ch dygant i’r synagogau, ac at y llywiawdwyr, a’r awdurdodau, na ofelwch pa fodd, neu pa beth a atteboch, neu beth a ddywedoch: 12Canys yr Yspryd Glân a ddysg i chwi yn yr awr honno beth sydd raid ei ddywedyd. 13A rhyw un o’r dyrfa a ddywedodd wrtho, Athraw, dywed wrth fy mrawd am rannu â myfi yr etifeddiaeth. 14Yntau a ddywedodd wrtho, Y dyn, pwy a’m gosododd i yn farnwr, neu yn rhannwr arnoch chwi? 15Ac efe a ddywedodd wrthynt, Edrychwch, ac ymogelwch rhag cybydd-dod; canys nid yw bywyd neb yn sefyll ar amlder y pethau sydd ganddo. 16Ac efe a draethodd wrthynt ddammeg, gan ddywedyd, Tir rhyw wr goludog a gnydiodd yn dda. 17Ac efe a ymresymmodd ynddo ei hun, gan ddywedyd, Beth a wnaf, am nad oes gennyf le i gasglu fy ffwythau iddo? 18Ac efe a ddywedodd, Hyn a wnaf: Mi a dynnaf i lawr fy ydtai, ac a adeiladaf rai mwy; ac yno y casglaf fy holl ffrwythau, a’m dâ. 19A dywedaf wrth fy enaid, Fy enaid, y mae gennyt ddâ lawer wedi eu rhoi i gadw dros lawer o flynyddoedd: gorphwys, bwytta, ŷf, bydd lawen. 20Eithr Duw a ddywedodd wrtho, O ynfyd, y nos hon y gofynant dy enaid oddi wrthyt; ac eiddo pwy fydd y pethau a barattoaist? 21Felly y mae yr hwn sydd yn trysori iddo ei hun, ac nid yw gyfoethog tu ag at Dduw. 22Ac efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, Am hyn yr wyf yn dywedyd wrthych, Na chymmerwch ofal am eich bywyd, beth a fwyttaoch; nac am eich corph, beth a wisgoch. 23Y mae y bywyd yn fwy nâ’r ymborth, a’r corph yn fwy nâ’r dillad. 24Ystyriwch y brain: canys nid ydynt yn hau, nac yn medi; i’r rhai nid oes gell, nac ydtŷ; ac y mae Duw yn eu porthi hwynt; O ba faint mwy yr ydych chwi yn well nâ’r adar? 25A phwy o honoch, gan gymmeryd gofal, a ddichon ychwanegu un cufydd at ei faintioli? 26Am hynny, oni ellwch wneuthur y peth lleiaf, paham yr ydych yn cymmeryd gofal am y lleill? 27Ystyriwch y lili, pa fodd y maent yn tyfu; nid ydynt yn llafurio, nac yn nyddu; ac yr wyf yn dywedyd i chwi, na wisgwyd Solomon yn ei holl ogoniant fel un o’r rhai hyn. 28Ac os yw Duw felly yn dilladu y llysieuyn, yr hwn sydd heddyw yn y maes, ac y foru a deflir i’r tân; pa faint mwy y dillada efe chwi, O rai o ychydig ffydd? 29Chwithau na cheisiwch beth a fwyttaoch, neu pa beth a yfoch; ac na fyddwch aflonydd. 30Canys y pethau hyn oll y mae cenhedloedd y byd yn eu hargeisio: ac y mae eich Tad chwi yn gwybod fod arnoch chwi eisiau y pethau hyn. 31Yn hytrach ceisiwch breniniaeth Duw, a’r pethau hyn oll a roddir i chwi yn ychwaneg. 32Nac ofna, braidd bychan: canys rhyngodd bodd i’ch Tad roddi i chwi y freniniaeth. 33Gwerthwch yr hyn sydd gennych, a rhoddwch elusen: gwnewch i chwi byrsau y rhai ni heneiddiant; trysor yn y nefoedd, yr hwn ni dderfydd, lle ni ddaw lleidr yn agos, ac ni lygra pryf. 34Canys lle y mae eich trysor chwi, yno y bydd eich calon hefyd. 35Bydded eich lwynau wedi eu hamwregysu, a’ch canhwyllau wedi eu goleu: 36A chwithau yn debyg i ddynion yn disgwyl eu harglwydd, pa bryd y dychwel o’r neithior; fel pan ddelo a churo, yr agoront iddo yn ebrwydd. 37Gwyn eu byd y gweision hynny, y rhai a gaiff eu harglwydd, pan ddêl, yn neffro: yn wir meddaf i chwi, Efe a ymwregysa, ac a wna iddynt eistedd i lawr i fwytta, ac a ddaw ac a wasanaetha arnynt hwy. 38Ac os daw efe ar yr ail wyliadwriaeth, ac os ar y drydedd wyliadwriaeth y daw, a’u cael hwynt felly, gwyn eu byd y gweision hynny. 39A hyn gwybyddwch, pe gwybuasai gwr y tŷ pa awr y deuai y lleidr, efe a wyliasai, ac ni adawsai gloddio ei dŷ trwodd. 40A chwithau gan hynny, byddwch barod: canys yr awr ni thybioch, y daw Mab y dyn. 41A Phedr a ddywedodd wrtho, Arglwydd, ai wrthym ni yr wyt ti yn dywedyd y ddammeg hon, ai wrth bawb hefyd? 42A’r Arglwydd a ddywedodd, Pwy yw y goruchwyliwr ffyddlawn, a phwyllog, yr hwn a esyd ei arglwydd ar ei deulu, i roddi cyfluniaeth iddynt mewn pryd? 43Gwŷn ei fyd y gwas hwnnw, yr hwn y caiff ei arglwydd ef, pan ddêl, yn gwneuthur felly. 44Yn wir meddaf i chwi, Efe a’i gesyd ef yn llywodraethwr ar gwbl a’r y sydd eiddo. 45Eithr os dywed y gwas hwnnw yn ei galon, Y mae fy arglwydd yn oedi dyfod; a dechreu curo y gweision a’r morwynion, a bwytta ac yfed, a meddwi: 46Daw arglwydd y gwas hwnnw mewn dydd nad yw efe yn disgwyl, ac ar awr nad yw efe yn gwybod, ac a’i gwahana ef, ac a esyd ei ran ef gyd â’r anffyddloniaid. 47A’r gwas hwnnw yr hwn a wybu ewyllys ei arglwydd, ac nid ymbarattôdd, ac ni wnaeth yn ol ei ewyllys ef, a gurir â llawer ffonnod. 48Eithr yr hwn ni wybu, ac a wnaeth bethau yn haeddu ffonnodiau, a gurir ag ychydig ffonnodiau. Ac i bwy bynnag y rhoddwyd llawer, llawer a ofynir ganddo; a chyd â’r neb y gadawsant lawer, ychwaneg a ofynant ganddo. 49Mi a ddaethum i fwrw tân ar y ddaear; a pheth a fynwyf y cynneuir ef eisoes? 50Eithr y mae gennyf fedydd i’m bedyddio ag ef, ac mor gyfyng yw arnaf hyd oni orphener! 51Ydych chwi yn tybied y daethum i i’w roddi heddwch ar y ddaear? nag ê, meddaf i chwi: ond yn hytrach ymrafael. 52Canys bydd o hyn allan bump yn yr un tŷ wedi ymrannu, tri yn erbyn dau, a dau yn erbyn tri, 53Y tad a ymranna yn erbyn y mab, a’r mab yn erbyn y tad; y fam yn erbyn y ferch, a’r ferch yn erbyn y fam; y chwegr yn erbyn ei gwaudd, a’r waudd yn erbyn ei chwegr. 54Ac efe a ddywedodd hefyd wrth y bobloedd, Pan weloch gwmmwl yn codi o’r gorllewin, yn y fan y dywedwch, Y mae cawod yn dyfod: ac felly y mae. 55A phan clywoch y deheu-wynt yn chwythu, y dywedwch, Y bydd gwres: ac fe fydd. 56O ragrithwyr, chwi a fedrwch ddeall wynebpryd y ddaear a’r wybr: ond pa fodd nad ydych yn deall yr arnser hwn? 57A phaham nad ydych, ïe, o honoch eich hunain, yn barnu yr hyn sydd gyfiawn? 58Canys tra byddech yn myned gyd â’th wrthwynebwr at lywodraethwr, gwna dy oreu ar y ffordd i gael myned yn rhydd oddi wrtho; rhag iddo dy ddwyn at y barnwr, ac i’r barnwr dy roddi at y rhingyll, ac i’r rhingyll dy daflu yngharchar, 59Yr wyf yn dywedyd i ti, Nad ai di oddi yno, hyd i’th ymadel, ïe, yr hatling ddiweddaf.

انتخاب شده:

Luk 12: JJCN

های‌لایت

به اشتراک گذاشتن

کپی

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید