Luk 15

15
PENNOD XV.
Dammeg y ddafad a gollesid; y darn arian; a’r mab afradlon.
1Ac yr oedd yr holl bublicanod a’r pechaduriaid yn nesâu atto ef i wrandaw arno. 2A’r Pharisai a’r ysgrifenyddion a rwgnachasant, gan ddywedyd, Y mae hwn yn derbyn pechaduriaid, ac yn bwytta gyd â hwynt. 3Ac efe a adroddodd wrthynt y ddammeg hon, gan ddywedyd, 4Pa ddyn o honoch a chanddo gant o ddefaid, ac os cyll un o honynt, nid yw yn gadael cant onid un yn yr anialwch, ac yn myned ar ol yr hon a gollwyd, hyd oni chaffo efe hi? 5Ac wedi iddo ei chael, efe a’i dŷd hi ar ei ysgwyddau yn llawen. 6A phan ddêl adref, efe a eilw ynghŷd ei gyfeillion a’i gymmydogion, gan ddywedyd wrthynt, Llawenhêwch gyd â mi; canys cefais fy nafad a gollasid. 7Yr wyf yn dywedyd i chwi, mai felly y bydd llawenydd yn y nef am un pechadur a edifarhao, mwy nag am gant onid un o rai cyfiawn, y rhai nid rhaid iddynt wrth edifeirwch. 8Neu pa wraig, a chanddi ddeg dryll o arian, os cyll hi un dryll, ni oleu ganwyll, ac ysgubo’r tŷ, a cheisio yn ddyfal, hyd oni’s caffo ef? 9Ac wedi iddi ei gael, hi a eilw ynghyd ei chyfeillesau a’i chymmydogesau, gan ddywedyd, Cydlawenhêwch â mi; canys cefais y dryll a gollaswn. 10Felly, meddaf i chwi, y mae llawenydd yngŵydd angylion Duw am un pechadur a edifarhao. 11Ac efe a ddywedodd, Yr oedd gan ryw ŵr ddau fab: 12A’r ieuangaf o honynt a ddywedodd wrth ei dad, Fy nhad, dyro i mi y rhan a ddigwydd o’r dâ. Ac efe a rannodd iddynt ei foddion. 13Ac ar ol ychydig ddyddiau y mab ieuangaf a gasglodd y cwbl ynghyd, ac a gymmerth ei daith i wlad bell; ac yno efe a wasgarodd ei eiddo, gan fyw yn afradlon. 14Ac wedi iddo dreulio y cwbl, y cododd newyn mawr trwy y wlad honno; ac yntau a ddechreuoddd fod mewn eisiau. 15Ac efe a aeth ac a lynodd wrth un o ddinaswyr y wlad honno; ac efe a’i hanfonodd ef i’w faesydd i borthi moch. 16Ac efe a chwennychai lenwi ei fol â’r cibau a fwyttai y moch; etto ni roddodd neb iddo o honynt. 17A phan ddaeth atto ei hun, efe a ddywedodd, Pa sawl gwas cyflog o’r eiddo fy nhad sydd yn cael arddigonedd o fara, a minnau yn marw o newyn? 18Mi a godaf, ac a af at fy nhad, ac a ddywedaf wrtho, Fy nhad, pechais yn erbyn y nef, ac o’th flaen dithau; 19Ac nid ydwyf mwyach deilwng i’m galw yn fab i ti: gwna fi fel un o’th weision cyflog. 20Ac efe a gododd, ac a aeth at ei dad. A phan oedd efe etto ym mhell oddi wrtho, ei dad a’i canfu ef, ac a dosturiodd, ac a redodd ac a syrthiodd ar ei wddf ef, ac a’i cusanodd. 21A’r mab a ddywedodd wrtho, Fy nhad, pechais yn erbyn y nef, ac o’th flaen dithau; ac nid ydwyf mwy deilwng i’m galw yn fab i ti. 22A’r tad a ddywedodd wrth ei weision, Dygwch allan y wisg oreu, a gwisgwch am dano ef, a rhoddwch fodrwy ar ei law, ac esgidiau am ei draed. 23A dygwch y llo pasgedig, a heddwch ef; a bwyttâwn, a byddwn lawen. 24Canys fy mab hwn oedd farw, ac aeth yn fyw drachefn; ac efe a gollesid, ac a gaed. A hwy a ddechreuasant fod yn llawen. 25Ac yr oedd ei fab hynaf ef yn y maes; a phan ddaeth efe a nesâu at y tŷ, efe a glywai gynghanedd a dawnsio. 26Ac wedi iddo alw un o’r gweision, efe a ofynodd beth oedd hyn. 27Yntau a ddywedodd wrtho, Dy frawd a ddaeth: a’th dad a laddodd y llo pasgedig; am iddo ei dderbyn ef yn iach. 28Ond efe a ddigiodd, ac nid ai i mewn. Am hynny y daeth ei dad allan, ac a ymbiliodd ag ef. 29Yntau a attebodd ac a ddywedodd wrth ei dad, Wele, cynnifer o flynyddoedd yr ydwyf yn dy wasanaethu di, ac ni throseddais i un amser dy orchymyn; ac ni roddaist fynn eriôed i mi, i fod yn llawen gyd â’m cyfeillion: 30Eithr pan ddaeth dy fab hwn, yr hwn a ddifaodd dy eiddo gyd â phutteiniaid, ti a leddaist iddo ef y llo pasgedig. 31Ac efe a ddywedodd wrtho, Fy mab, yr wyt ti yn wastadol gyd â mi, a’r eiddof fi oll ydynt eiddot ti. 32Rhaid oedd llawenychu, a gorfoleddu: oblegyd dy frawd hwn oedd yn farw, ac a aeth yn fyw drachefn; ac a fu golledig, ac a gafwyd.

انتخاب شده:

Luk 15: JJCN

های‌لایت

به اشتراک گذاشتن

کپی

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید