1 Cronicl 20

20
Dafydd yn concro Rabba
(2 Samuel 12:26-31)
1Yn y gwanwyn, sef yr adeg pan fyddai brenhinoedd yn arfer mynd i ryfela, dyma Joab yn arwain ei fyddin i ryfel a dinistrio gwlad yr Ammoniaid. Dyma fe’n gwarchae ar Rabba tra oedd Dafydd yn dal yn Jerwsalem, a dyma Joab yn concro Rabba a’i dinistrio. 2Dyma Dafydd yn cymryd coron eu brenin nhw a’i rhoi ar ei ben ei hun. Roedd y goron wedi’i gwneud o dri deg cilogram o aur, ac roedd gem werthfawr arni. Casglodd Dafydd lot fawr o ysbail o’r ddinas hefyd. 3Symudodd y bobl allan, a’u gorfodi nhw i weithio iddo gyda llifau, ceibiau a bwyeill. Gwnaeth Dafydd yr un peth gyda phob un o drefi’r Ammoniaid. Yna aeth yn ôl i Jerwsalem gyda’i fyddin gyfan.
Brwydrau rhwng Israel a’r Philistiaid
(2 Samuel 21:15-22)
4Beth amser wedyn roedd brwydr arall yn erbyn y Philistiaid, yn Geser. Y tro hwnnw dyma Sibechai o Chwsha yn lladd Sipai, un o ddisgynyddion y Reffaiaid. Roedd y Philistiaid wedi’u trechu’n llwyr.
5Mewn brwydr arall eto yn erbyn y Philistiaid, dyma Elchanan fab Jair yn lladd Lachmi, brawd Goliath o Gath (yr un oedd â gwaywffon gyda choes iddi oedd fel trawst ffrâm gwehydd!)
6Yna roedd brwydr arall eto yn Gath. Y tro yma roedd cawr o ddyn gyda chwe bys ar ei ddwylo a’i draed – dau ddeg pedwar o fysedd i gyd. (Roedd hwn hefyd yn un o ddisgynyddion y Reffaiaid.) 7Roedd yn gwneud hwyl am ben Israel, a dyma Jonathan, mab Shamma#20:7 Shamma Hebraeg, Shimea – ffurf arall ar yr un enw (gw. 1 Samuel 16:9; 17:13). brawd Dafydd, yn ei ladd e. 8Roedd y rhain yn ddisgynyddion i’r Reffaiaid o Gath, a Dafydd a’i filwyr wnaeth ladd pob un.

اکنون انتخاب شده:

1 Cronicl 20: bnet

های‌لایت

کپی

مقایسه

به اشتراک گذاشتن

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید