1 Cronicl 27
27
Adrannau’r Fyddin
1Dyma restr o benaethiaid teuluoedd Israel oedd yn gapteiniaid yn y fyddin (ar unedau o fil ac o gant), a’r swyddogion oedd yn gwasanaethu’r brenin mewn gwahanol ffyrdd. Roedd pob adran yn gwasanaethu am un mis y flwyddyn, ac roedd 24,000 o ddynion ym mhob adran.
2Mis 1 – Iashofam fab Safdiel a’i adran o 24,000. 3(Roedd yn un o ddisgynyddion Perets ac yn bennaeth ar swyddogion y fyddin i gyd yn y mis cyntaf.)
4Mis 2 – Dodai, un o ddisgynyddion Achoach (gyda Micloth yn gapten) a’i adran o 24,000.
5Mis 3 – Y trydydd arweinydd oedd Benaia, mab Jehoiada’r offeiriad, a’i adran o 24,000. 6(Dyma’r Benaia oedd yn arwain y tri deg milwr dewr. Ei fab Amisafad oedd capten yr adran.)
7Mis 4 – Asahel, brawd Joab (Sebadeia ei fab wnaeth ei olynu), a’i adran o 24,000.
8Mis 5 – Shamhwth o glan Israch a’i adran o 24,000.
9Mis 6 – Ira fab Iccesh o Tecoa, a’i adran o 24,000.
10Mis 7 – Chelets o Pelon, un o ddisgynyddion Effraim, a’i adran o 24,000.
11Mis 8 – Sibechai o Chwsha, oedd yn perthyn i glan Serach, a’i adran o 24,000.
12Mis 9 – Abieser o Anathoth, un o ddisgynyddion Benjamin, a’i adran o 24,000.
13Mis 10 – Maharai o Netoffa, oedd yn perthyn i glan Serach, a’i adran o 24,000.
14Mis 11 – Benaia o Pirathon, un o ddisgynyddion Effraim, a’i adran o 24,000.
15Mis 12 – Cheldai o Netoffa, un o ddisgynyddion Othniel, a’i adran o 24,000.
Arweinwyr Llwythau Israel
16-22Y swyddogion oedd yn arwain llwythau Israel:
| Swyddog | Llwyth |
|---|---|
| Elieser fab Sichri | Reuben |
| Sheffateia fab Maacha | Simeon |
| Chashafeia fab Cemwel | Lefi |
| Sadoc | disgynyddion Aaron |
| Elihw (brawd Dafydd) | Jwda |
| Omri, mab Michael | Issachar |
| Ishmaïa fab Obadeia | Sabulon |
| Ierimoth fab Asriel | Nafftali |
| Hoshea fab Asaseia | Effraim |
| Joel fab Pedaia | hanner llwyth Manasse |
| Ido fab Sechareia | hanner llwyth Manasse (yn Gilead) |
| Iaäsiel fab Abner | Benjamin |
| Asarel fab Ierocham | Dan |
Y rhain oedd yn arwain llwythau Israel.
23Wnaeth Dafydd ddim cyfrif y bechgyn dan ugain oed. Roedd yr ARGLWYDD wedi addo gwneud pobl Israel mor niferus a’r sêr yn yr awyr. 24Roedd Joab fab Serwia wedi dechrau cyfrif y dynion, ond wnaeth e ddim gorffen. Roedd Duw yn ddig gydag Israel am y peth, felly wnaeth y nifer ddim cael ei gofnodi yn y sgrôl, Hanes y Brenin Dafydd.
Swyddogion y Brenin Dafydd
25Asmafeth fab Adiel oedd yn gyfrifol am stordai’r brenin;
Jonathan fab Wseia yn gyfrifol am y stordai brenhinol yn y trefi, pentrefi a’r caerau yn Israel;
26Esri fab Celwb yn gyfrifol am y gweithwyr amaethyddol;
27Shimei o Rama yn gyfrifol am y gwinllannoedd;
Sabdi o Sheffam yn gyfrifol am y gwin oedd yn cael ei storio yn y gwinllannoedd;
28Baal-chanan o Geder yn gyfrifol am y coed olewydd a’r coed sycamorwydd ar yr iseldir;
Ioash oedd yn gyfrifol am y stordai i gadw olew olewydd;
29Sitrai o Saron oedd yn gyfrifol am y gwartheg oedd yn pori yn Saron;
Shaffat fab Adlai oedd yn gyfrifol am y gwartheg yn y dyffrynnoedd.
30Ofil yr Ismaeliad yn gyfrifol am y camelod;
Iechdeia o Meronoth yn gyfrifol am yr asennod;
31Iasis yr Hagriad yn gyfrifol am y defaid a’r geifr.
Roedd pob un o’r rhain yn swyddogion oedd yn gyfrifol am eiddo y Brenin Dafydd.
Cynghorwyr personol Dafydd
32Roedd Jonathan, ewythr Dafydd, yn strategydd doeth ac yn ysgrifennydd;
Iechiel fab Hachmoni oedd yn gofalu am feibion y brenin;
33Achitoffel oedd swyddog strategaeth y brenin;
Roedd Chwshai’r Arciad yn ffrind agos i’r brenin.
34Jehoiada fab Benaia ac Abiathar wnaeth olynu Achitoffel.
Joab oedd pennaeth byddin y brenin.
اکنون انتخاب شده:
1 Cronicl 27: bnet
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
© Cymdeithas y Beibl 2023