1 Brenhinoedd 4

4
Swyddogion Solomon
1Roedd Solomon yn frenin ar Israel gyfan.
2Dyma’i swyddogion:
Asareia fab Sadoc oedd yr offeiriad.
3Elichoreff ac Achïa, meibion Shisha, oedd ei ysgrifenyddion.
Jehosaffat fab Achilwd oedd y cofnodydd swyddogol.
4Benaia fab Jehoiada oedd pennaeth y fyddin,
a Sadoc ac Abiathar yn offeiriaid.
5Asareia fab Nathan oedd pennaeth swyddogion y rhanbarthau;
yna Sabwd fab Nathan yn offeiriad ac yn gynghorwr y brenin.
6Achishar oedd yn rhedeg y palas a gofalu am holl eiddo’r brenin,
ac Adoniram fab Afda oedd swyddog y gweithlu gorfodol.
7Yna roedd gan Solomon ddeuddeg swyddog rhanbarthol dros wahanol ardaloedd yn Israel. Roedden nhw’n gyfrifol am ddarparu bwyd i’r brenin a’i lys – pob un yn gyfrifol am un mis y flwyddyn. 8Dyma’u henwau nhw:
Ben-chŵr: ar fryniau Effraim;
9Ben-decar: yn Macats, Shaalfîm, Beth-shemesh ac Elon-beth-chanan;
10Ben-chesed: yn Arwboth (roedd ei ardal e’n cynnwys Socho a holl ardal Cheffer);
11Ben-abinadab: yn Naffath-dor i gyd (roedd e wedi priodi Taffath, merch Solomon);
12Baana fab Achilwd: yn Taanach, Megido a’r rhan o Beth-shean sydd wrth ymyl Sarethan, o dan Jesreel. Roedd ei ardal yn mynd o Beth-shean hyd at Abel-mechola a’r tu hwnt i Iocmeam;
13Ben-geber: yn Ramoth-gilead. Roedd ei ardal e’n cynnwys gwersylloedd Jair mab Manasse, yn Gilead, ac ardal Argob yn Bashan oedd yn cynnwys chwe deg o drefi mawr, pob un gyda waliau cadarn a barrau pres ar eu giatiau;
14Achinadab fab Ido: yn Machanaîm;
15Achimaäts: yn Nafftali (fe wnaeth briodi Basemath, merch Solomon);
16Baana fab Chwshai: yn Asher ac yn Aloth;
17Jehosaffat fab Parŵach: yn Issachar;
18Shimei fab Ela: yn Benjamin;
19a Geber fab Wri: yn ardal Gilead (sef y wlad oedd yn perthyn ar un adeg i Sihon brenin yr Amoriaid ac Og brenin Bashan). Fe oedd yr unig swyddog yn y rhanbarth hwnnw i gyd.
20Roedd poblogaeth fawr yn Jwda ac Israel, roedd pobl fel y tywod ar lan y môr, ond roedd ganddyn nhw ddigon i’w fwyta a’i yfed ac roedden nhw’n hapus.
Llwyddiant Solomon
21Roedd Solomon yn llywodraethu ar yr holl ardaloedd o afon Ewffrates i wlad y Philistiaid ac i lawr at y ffin gyda’r Aifft. Roedd y teyrnasoedd yma i gyd yn talu trethi iddo, ac yn gwasanaethu Solomon ar hyd ei oes.
22Dyma beth oedd ei angen ar lys Solomon bob dydd:
– tri deg mesur o’r blawd gorau
– chwe deg mesur o flawd cyffredin,
23– deg o loi wedi’u pesgi,
– dau ddeg o loi oedd allan ar y borfa,
– cant o ddefaid.
Roedd hyn heb sôn am y ceirw, gaseliaid, iyrchod a gwahanol fathau o ffowls. 24Achos roedd y llys brenhinol mor fawr – roedd yn rheoli’r holl ardaloedd i’r gorllewin o Tiffsa ar lan afon Ewffrates i lawr i Gasa, ac roedd heddwch rhyngddo a’r gwledydd o’i gwmpas. 25Pan oedd Solomon yn fyw, roedd pawb yn Jwda ac Israel yn teimlo’n saff. Roedd gan bawb, o Dan yn y gogledd i Beersheba#4:25 Dan … Beersheba Roedd Dan wrth droed Mynydd Hermon yn y gogledd ar y llwybr masnach i Damascus. Roedd Beersheba 23 milltir i’r de-orllewin o Hebron ar y prif lwybr masnach i’r Aifft. yn y de, gartref a thir i allu mwynhau cynnyrch eu gwinwydd a’u coed ffigys. 26Roedd gan Solomon hefyd stablau i ddal 40,000 o geffylau cerbyd, ac roedd ganddo 12,000 o farchogion.
27Roedd y swyddogion rhanbarthol yn darparu bwyd ar gyfer y Brenin Solomon a phawb yn ei lys. Roedd pob un yn gyfrifol am fis, ac yn gwneud yn siŵr nad oedd y llys yn brin o ddim. 28Roedd gan bob un hefyd stablau penodol i fynd â haidd a gwellt iddyn nhw i’w roi i’r ceffylau a’r meirch.
Doethineb Solomon
29Roedd Duw wedi rhoi doethineb a deall eithriadol i Solomon. Roedd ei wybodaeth yn ddiddiwedd, fel y tywod ar lan y môr. 30Roedd yn fwy doeth nag unrhyw un o ddynion doeth y dwyrain a’r Aifft. 31Doedd neb doethach nag e. Roedd yn ddoethach nag Ethan yr Esrachiad, Heman hefyd, a Calcol a Darda, meibion Machol. Roedd yn enwog drwy’r gwledydd o’i gwmpas i gyd. 32Roedd wedi llunio tair mil o ddiarhebion a chyfansoddi mil a phump o ganeuon. 33Roedd yn gallu siarad am blanhigion, o’r coed cedrwydd mawr yn Libanus i’r isop sy’n tyfu ar waliau. Roedd hefyd yn gallu sôn am anifeiliaid, adar, ymlusgiaid a phryfed a physgod. 34Roedd brenhinoedd y gwledydd i gyd yn anfon pobl at Solomon i wrando ar ei ddoethineb.

اکنون انتخاب شده:

1 Brenhinoedd 4: bnet

های‌لایت

کپی

مقایسه

به اشتراک گذاشتن

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید