1 Samuel 31

31
Saul a’i feibion yn marw
(1 Cronicl 10:1-14)
1Dyma’r Philistiaid yn dod ac ymladd yn erbyn Israel, ac roedd rhaid i filwyr Israel ffoi. Cafodd llawer iawn ohonyn nhw eu lladd ar fynydd Gilboa. 2Yna dyma’r Philistiaid yn mynd ar ôl Saul a’i feibion, a dyma nhw’n llwyddo i ladd y meibion – Jonathan, Abinadab a Malci-shwa. 3Roedd y frwydr yn ffyrnig o gwmpas Saul, a dyma’r bwasaethwyr yn ei daro a’i anafu’n ddifrifol. 4Dyma Saul yn dweud wrth y gwas oedd yn cario’i arfau, “Cymer dy gleddyf a thrywana fi. Paid gadael i’r paganiaid yma ddod i’m cam-drin i a’m lladd i.” Ond roedd gan y gwas ofn gwneud hynny; felly dyma Saul yn cymryd ei gleddyf a syrthio arno. 5Pan welodd y gwas fod Saul wedi marw, dyma fe hefyd yn syrthio ar ei gleddyf a marw gydag e. 6Felly cafodd Saul a tri o’i feibion, y gwas oedd yn cario’i arfau a’i filwyr i gyd, eu lladd y diwrnod hwnnw.
7Dyma bobl Israel oedd yr ochr draw i’r dyffryn, a’r tu draw i’r Iorddonen, yn clywed fod milwyr Israel wedi ffoi, a bod Saul a’i feibion wedi cael eu lladd. Felly dyma nhw’n gadael eu trefi a ffoi; a symudodd y Philistiaid i fyw ynddyn nhw.
8Y diwrnod ar ôl y frwydr pan aeth y Philistiaid i ddwyn oddi ar y cyrff meirw, daethon nhw o hyd i Saul a’i dri mab yn gorwedd yn farw ar fynydd Gilboa. 9Dyma nhw’n torri pen Saul i ffwrdd a chymryd ei arfau, yna anfon negeswyr drwy wlad y Philistiaid i gyhoeddi’r newyddion da yn nhemlau eu duwiau ac wrth y bobl. 10Wedyn dyma nhw’n rhoi arfau Saul yn nheml y dduwies Ashtart, ac yn crogi ei gorff ar waliau Beth-shan.
11Pan glywodd pobl Jabesh yn Gilead beth roedd y Philistiaid wedi’i wneud i Saul, 12aeth eu milwyr i gyd allan a theithio drwy’r nos. Dyma nhw’n cymryd cyrff Saul a’i feibion oddi ar waliau Beth-shan, mynd â nhw i Jabesh a’u llosgi yno. 13Wedyn, dyma nhw’n cymryd yr esgyrn a’u claddu o dan y goeden tamarisg#31:13 goeden tamarisg Coeden fytholwyrdd oedd yn rhoi lot o gysgod i bobl. yn Jabesh, ac ymprydio am wythnos.#31:11-13 Pan glywodd wythnos Mae’n siŵr fod pobl Jabesh yn Gilead yn cofio’r gymwynas wnaeth Saul â nhw, yn eu hachub rhag yr Ammoniaid (gw. 1 Samuel 11).

اکنون انتخاب شده:

1 Samuel 31: bnet

های‌لایت

کپی

مقایسه

به اشتراک گذاشتن

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید