2 Cronicl 27

27
Jotham yn frenin Jwda
(2 Brenhinoedd 15:32-38)
1Roedd Jotham yn ddau ddeg pump pan ddaeth yn frenin, a bu’n frenin yn Jerwsalem am un deg chwech o flynyddoedd. Enw ei fam oedd Ierwsa, merch Sadoc. 2Fel ei dad Wseia, roedd yn gwneud beth oedd yn plesio’r ARGLWYDD. (Ond wnaeth e ddim beiddio torri rheolau’r deml fel y gwnaeth ei dad.) Ac eto roedd y bobl yn dal i bechu.
3Jotham adeiladodd Giât Uchaf y deml, a gwnaeth lot o waith yn ailadeiladu’r wal wrth fryn Offel. 4Adeiladodd drefi ar fryniau Jwda, a chaerau a thyrau amddiffynnol yn y coedwigoedd.
5Aeth i ryfel yn erbyn brenin yr Ammoniaid, a’i drechu. Talodd yr Ammoniaid dros dair mil cilogram o arian, mil o dunelli o wenith a mil o dunelli o haidd iddo. Roedd rhaid iddyn nhw dalu yr un faint y ddwy flynedd ganlynol hefyd.
6Aeth Jotham yn fwy a mwy pwerus, am ei fod yn benderfynol ei fod yn mynd i blesio yr ARGLWYDD ei Dduw. 7Mae gweddill hanes ei deyrnasiad, ei ymgyrchoedd milwrol a’r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i’w gweld yn y sgrôl Brenhinoedd Israel a Jwda. 8Roedd Jotham yn ddau ddeg pump pan ddaeth yn frenin, a bu’n frenin yn Jerwsalem am un deg chwech o flynyddoedd. 9Pan fu Jotham farw, dyma nhw’n ei gladdu yn Ninas Dafydd; a daeth ei fab Ahas yn frenin yn ei le.

اکنون انتخاب شده:

2 Cronicl 27: bnet

های‌لایت

کپی

مقایسه

به اشتراک گذاشتن

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید