2 Samuel 5

5
Dafydd yn frenin ar Israel gyfan
(1 Cronicl 11:1-9; 14:1-7)
1Dyma’r rhai oedd yn arwain llwythau Israel i gyd yn dod i Hebron at Dafydd, a dweud wrtho, “Edrych, dŷn ni’n perthyn i’n gilydd. 2Ar un adeg, pan oedd Saul yn frenin, ti oedd yn arwain byddin Israel i ryfel a dod â nhw yn ôl adre. Mae’r ARGLWYDD wedi dweud wrthot ti, ‘Ti sydd i ofalu am#5:2 ofalu am Hebraeg, “bugeilio”. Israel, fy mhobl i. Ti fydd yn eu harwain nhw.’” 3Felly pan ddaeth arweinwyr Israel i Hebron at Dafydd, dyma’r brenin yn gwneud cytundeb â nhw o flaen yr ARGLWYDD. A dyma nhw’n ei eneinio’n frenin ar Israel gyfan.
4Roedd Dafydd yn dri deg oed pan ddaeth yn frenin, a bu’n frenin am bedwar deg o flynyddoedd. 5Bu’n frenin ar Jwda yn Hebron am saith mlynedd a hanner, ac yna yn frenin yn Jerwsalem ar Jwda ac Israel gyfan am dri deg tair o flynyddoedd.
Dafydd yn concro Jerwsalem
6Aeth y brenin a’i filwyr i Jerwsalem i ymladd yn erbyn y Jebwsiaid (y bobl oedd yn byw yn yr ardal honno). “Ddoi di byth i mewn yma!” medden nhw. “Byddai hyd yn oed pobl ddall a chloff yn gallu dy droi di’n ôl!” Doedden nhw ddim yn credu y gallai Dafydd eu gorchfygu nhw. 7Ond llwyddodd Dafydd i ennill caer Seion (sef Dinas Dafydd). 8Roedd wedi dweud y diwrnod hwnnw, “Y ffordd mae rhywun yn mynd i goncro’r Jebwsiaid ydy drwy fynd i fyny’r siafft ddŵr. Dyna sut mae ymosod ar y ‘bobl ddall a chloff’ yna sy’n casáu Dafydd gymaint.” (A dyna sydd tu ôl i’r dywediad, “Dydy’r dall a’r cloff ddim yn cael mynd i mewn i’r tŷ.”)#5:8 Dydy’r dall … i’r tŷ Falle fod yma gyfeiriad at Lefiticus 21:17-23.
9Aeth Dafydd i fyw i’r gaer, a’i galw yn Ddinas Dafydd. Dyma fe’n adeiladu o’i chwmpas, o’r terasau at y palas. 10Roedd Dafydd yn mynd yn fwy a mwy pwerus, achos roedd yr ARGLWYDD, y Duw hollbwerus, gydag e.
11Dyma Hiram, brenin Tyrus, yn anfon negeswyr at Dafydd. Anfonodd seiri coed a seiri maen gyda nhw, a choed cedrwydd, i adeiladu palas i Dafydd. 12Roedd Dafydd yn gweld mai’r ARGLWYDD oedd wedi’i wneud yn frenin ar Israel, ac wedi gwneud i’w deyrnas lwyddo’n fawr er mwyn ei bobl Israel.
13Wedi iddo symud o Hebron i Jerwsalem dyma Dafydd yn cymryd mwy o gariadon#5:13 gariadon Mae’r gair Hebraeg yn air am feistres neu bartner cyfreithlon oedd ddim yn wraig i ddyn yn ystyr lawnaf y gair. a gwragedd, ac yn cael mwy o blant eto. 14Dyma enwau’r plant gafodd eu geni iddo yn Jerwsalem: Shammwa, Shofaf, Nathan, Solomon, 15Ifchar, Elishwa, Neffeg, Jaffîa, 16Elishama, Eliada ac Eliffelet.
Dafydd yn concro’r Philistiaid
(1 Cronicl 14:8-17)
17Pan glywodd y Philistiaid fod Dafydd wedi cael ei eneinio’n frenin ar Israel, dyma’u byddin gyfan yn mynd allan i chwilio amdano. Clywodd Dafydd am hyn, ac aeth i lawr i’r gaer.#5:17 i’r gaer sef Adwlam mae’n debyg – 1 Samuel 22:1; 2 Samuel 23:14. 18Roedd byddin y Philistiaid wedi cyrraedd; roedden nhw ym mhobman drwy Ddyffryn Reffaïm.#5:18 Reffaïm Dyffryn oedd ryw 3 milltir i’r de-orllewin o Jerwsalem. 19Dyma Dafydd yn gofyn i’r ARGLWYDD, “Ddylwn i fynd i ymladd yn erbyn y Philistiaid? Fyddi di’n gwneud i mi ennill?” Atebodd yr ARGLWYDD, “Dos i fyny, achos bydda i’n rhoi’r Philistiaid i ti.” 20Felly aeth Dafydd i Baal-peratsîm a’u trechu nhw yno. “Mae Duw wedi gwneud i mi dorri drwy fy ngelynion fel llifogydd o ddŵr,” meddai. A dyna pam wnaeth e alw’r lle hwnnw yn Baal-peratsîm.#5:20 Baal-peratsîm sef “y meistr sy’n byrstio allan”. 21Roedd y Philistiaid wedi gadael eu heilun-dduwiau ar ôl, felly dyma Dafydd a’i ddynion yn eu cymryd nhw i ffwrdd.
22Ond dyma’r Philistiaid yn ymosod eto. Roedden nhw ym mhobman drwy Ddyffryn Reffaïm. 23A dyma Dafydd yn mynd i ofyn eto i’r ARGLWYDD beth i’w wneud. Y tro yma cafodd yr ateb, “Paid ymosod arnyn nhw o’r tu blaen. Dos rownd y tu cefn iddyn nhw ac ymosod o gyfeiriad y coed balsam. 24Pan fyddi’n clywed sŵn cyffro yn y coed, gweithreda ar unwaith. Dyna’r arwydd fod yr ARGLWYDD yn mynd o dy flaen di i daro byddin y Philistiaid.” 25Felly dyma Dafydd yn gwneud fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho, a tharo’r Philistiaid yr holl ffordd o Geba i gyrion Geser.

اکنون انتخاب شده:

2 Samuel 5: bnet

های‌لایت

کپی

مقایسه

به اشتراک گذاشتن

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید