Esther 7
7
1Felly dyma’r brenin a Haman yn mynd i wledda gyda’r Frenhines Esther 2am yr ail waith. Tra’n yfed gwin yn y wledd, dyma’r brenin yn gofyn i Esther, “Y Frenhines Esther. Gofynna am beth bynnag wyt ti eisiau, ac fe’i cei. Beth fyddet ti’n hoffi i mi ei wneud i ti? Gofyn am gymaint â hanner y deyrnas os wyt ti eisiau, a dyna gei di!” 3A dyma Esther yn ateb, “Os ydw i wedi plesio’r brenin, a’i fod yn gweld yn dda i roi i mi beth dw i eisiau, arbed fy mywyd i a’m pobl. Dyna dw i eisiau. 4Dŷn ni wedi cael ein gwerthu i gael ein lladd a’n dinistrio’n llwyr! Petaen ni wedi cael ein gwerthu’n gaethweision a chaethferched fyddwn i wedi dweud dim. Fyddai trafferth felly ddim digon pwysig i boeni’r brenin amdano.” 5A dyma’r Brenin Ahasferus yn gofyn i Esther, “Pwy sydd wedi gwneud hyn? Pwy fyddai’n meiddio gwneud y fath beth?” 6A dyma Esther yn ateb, “Dyn drwg sy’n ein casáu ni! Dyma fe – Haman!”
Roedd Haman wedi dychryn am ei fywyd o flaen y brenin a’r frenhines. 7Roedd y brenin wedi gwylltio’n lân, a dyma fe’n codi o’r bwrdd a mynd allan i ardd y palas. Yna dyma Haman yn dechrau pledio ar y Frenhines Esther i arbed ei fywyd. Roedd yn gweld fod y brenin yn mynd i drefnu i’w ladd yn y ffordd fwya creulon. 8Pan ddaeth y brenin yn ôl i mewn o’r ardd, roedd Haman yn taflu ei hun ar y soffa roedd Esther yn gorwedd arni. A dyma’r brenin yn gweiddi, “Ydy e am dreisio’r frenhines hefyd, a minnau’n dal yn yr adeilad!”
Wrth i’r brenin ddweud hyn, dyma’i weision yn rhoi mwgwd dros ben Haman. 9A dyma Charbona, un o’r gweision, yn dweud, “Mae Haman wedi adeiladu crocbren i grogi Mordecai, y dyn oedd wedi achub bywyd y brenin. Mae’r crocbren heb fod yn bell o’i dŷ, ac yn ddau ddeg pum metr o uchder.” “Crogwch Haman arno!” meddai’r brenin. 10Felly cafodd Haman ei grogi ar y crocbren oedd wedi’i fwriadu i Mordecai. Dyma dymer y brenin yn tawelu wedyn.
اکنون انتخاب شده:
Esther 7: bnet
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
© Cymdeithas y Beibl 2023