Eseciel 12
12
Y Gaethglud i Ddod
1Dyma’r ARGLWYDD yn rhoi’r neges yma i mi: 2“Ddyn, mae’r bobl rwyt ti’n byw gyda nhw yn griw o rebeliaid. Mae ganddyn nhw lygaid, ond dŷn nhw’n gweld dim byd! Mae ganddyn nhw glustiau, ond dŷn nhw’n clywed dim byd! Criw o rebeliaid ydyn nhw!
3“Felly dyma dw i eisiau i ti ei wneud: Pacia dy fag fel taset ti’n ffoadur yn dianc o’i gartref ac yn paratoi i fynd i ffwrdd i rywle arall. Gwna hyn yng ngolau dydd, fel bod pawb yn gallu gweld beth ti’n wneud. Falle y gwnân nhw ddeall eu bod nhw’n griw anufudd. 4Gad iddyn nhw dy weld di yn pacio dy fag gyda’r pethau rwyt ti eu hangen. Yna gyda’r nos rwyt i fynd i ffwrdd o’u blaenau nhw, yn union fel byddai ffoadur yn gwneud. 5Gad iddyn nhw dy weld di yn torri twll yn y wal, ac yn mynd â dy bac allan drwyddo. 6Yna rho dy bac ar dy gefn, a cherdded i ffwrdd wrth iddi dywyllu. Gorchuddia dy wyneb, a phaid edrych yn ôl ar y tir. Dw i’n dy ddefnyddio di fel darlun i ddysgu gwers i bobl Israel.”
7Felly dyma fi’n gwneud yn union beth ddwedodd Duw wrtho i. Yn ystod y dydd dyma fi’n pacio pethau i fynd i ffwrdd fel ffoadur, ac yna pan oedd hi’n nosi dyma fi’n torri twll drwy’r wal. Wedyn, o flaen llygaid pawb, dyma fi’n rhoi’r pecyn ar fy nghefn ac yn cerdded i ffwrdd wrth iddi dywyllu.
8Y bore wedyn dyma fi’n cael neges gan yr ARGLWYDD: 9“Ddyn, roedd pobl Israel, y criw o rebeliaid yna, wedi gofyn i ti, ‘Beth wyt ti’n wneud?’ 10Dwed wrthyn nhw, ‘Dyma mae’r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Mae’r neges yma i Sedeceia, pennaeth pobl Jerwsalem, ac i holl bobl Israel sy’n dal yno.’ 11Esbonia dy fod ti’n ddarlun i ddysgu gwers iddyn nhw. Bydd yr hyn wnest ti yn digwydd iddyn nhw. Byddan nhw’n ffoaduriaid, ac yn cael eu cymryd yn gaethion. 12Bydd hyd yn oed Sedeceia, y pennaeth, yn codi ei bac fin nos, yn mynd allan drwy dwll yn y wal ac yn gorchuddio ei wyneb am na fydd yn cael gweld y tir byth eto. 13Ond bydd e’n cael ei ddal. Bydda i’n taflu fy rhwyd drosto, ac yn mynd ag e’n gaeth i Babilon. Ond fydd byth yn gweld y wlad honno lle bydd e’n marw.#12:13 mynd ag e’n gaeth … bydd e’n marw Yn ôl 2 Brenhinoedd 25:6,7, cafodd y Brenin Sedeceia ei ddallu cyn cael ei gymryd yn gaeth i Babilon. A dyna lle buodd e farw – Jeremeia 52:11. 14Bydd ei weision a’i forynion, a’i filwyr i gyd yn cael eu chwalu i bob cyfeiriad, a bydd y gelyn yn mynd ar eu holau gyda’i gleddyf. 15Pan fydda i wedi’u gyrru nhw ar chwâl drwy’r gwledydd paganaidd i gyd, byddan nhw’n sylweddoli mai fi ydy’r ARGLWYDD! 16Ond bydda i’n gadael i griw bach ohonyn nhw fyw. Fydd cleddyf y gelyn, y newyn, a’r haint ddim yn lladd y rheiny. Yn y gwledydd lle byddan nhw’n mynd dw i eisiau iddyn nhw gyfaddef yr holl bethau ffiaidd maen nhw wedi’u gwneud. Byddan nhw’n deall wedyn mai fi ydy’r ARGLWYDD.”
Arwydd y proffwyd yn crynu
17Dyma’r ARGLWYDD yn rhoi’r neges yma i mi: 18“Cryna mewn ofn wrth fwyta dy fwyd, a dychryn wrth yfed dy ddŵr. 19Yna rhanna’r neges yma: ‘Dyma mae’r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud am y bobl sy’n dal i fyw yn Israel a Jerwsalem: “Fyddan nhw ddim yn gallu bwyta ac yfed heb grynu mewn ofn a phoeni am eu bywydau. Mae’r wlad yn mynd i gael ei difetha, a byddan nhw’n colli popeth am iddyn nhw fod mor greulon. 20Bydd y trefi a’r pentrefi lle mae pobl yn byw yn cael eu dinistrio, a bydd y tir yn cael ei adael yn ddiffaith. Byddwch chi’n gwybod wedyn mai fi ydy’r ARGLWYDD.”’”
Dywediad poblogaidd a neges amhoblogaidd
21Dyma’r ARGLWYDD yn rhoi’r neges yma i mi: 22“Ddyn, mae yna ddywediad yn Israel, ‘Mae amser yn mynd heibio, a dydy’r proffwydoliaethau ddim wedi dod yn wir.’ 23Felly dywed di wrthyn nhw, ‘Dyma mae’r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i’n mynd i roi stop ar y math yna o siarad. Fydd pobl Israel ddim yn dweud hynny eto!’ Dwed wrthyn nhw, ‘Yn fuan iawn bydd popeth dw i wedi’i ddangos yn dod yn wir! 24Fydd yna ddim mwy o weledigaethau ffals a darogan pethau deniadol yn Israel. 25Fi, yr ARGLWYDD fydd yn siarad, a bydd beth dw i’n ddweud yn dod yn wir. Fydd dim mwy o oedi. Bydd beth dw i’n ddweud yn dod yn wir yn eich cyfnod chi rebeliaid anufudd.’ Dyna neges y Meistr, yr ARGLWYDD.”
26Dyma’r ARGLWYDD yn rhoi’r neges yma i mi: 27“Ddyn, wyt ti wedi clywed beth mae pobl Israel yn ei ddweud? ‘Sôn am rywbryd yn bell yn y dyfodol mae e. Fydd y broffwydoliaeth ddim yn dod yn wir am amser hir iawn.’ 28Felly dywed di wrthyn nhw, ‘Dyma mae’r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Fydd dim mwy o oedi! Bydd beth dw i’n ddweud yn dod yn wir!’” Dyna neges y Meistr, yr ARGLWYDD.
اکنون انتخاب شده:
Eseciel 12: bnet
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
© Cymdeithas y Beibl 2023