Eseciel 26

26
Tyrus#26:0 Tyrus Dinas borthladd enwog ar lan Môr y Canoldir, ryw 100 milltir i’r gogledd o Jerwsalem. Roedd wedi’i hadeiladu’n rhannol ar ynys.
1Roedd hi un deg un mlynedd ar ôl i ni gael ein cymryd yn gaeth i Babilon, ar ddiwrnod cynta’r flwyddyn,#26:1 diwrnod cyntaf y flwyddyn Ebrill 23, 587 cc mae’n debyg. a dyma fi’n cael neges gan yr ARGLWYDD: 2“Ddyn, dyma mae Tyrus wedi bod yn ei ddweud am Jerwsalem:
‘Hwrê! Mae’r giât i’r ddinas fasnach ryngwladol
wedi’i dryllio!
Bydda i yn cael ei busnes!
Dw i’n mynd i fod yn gyfoethog!
Ydy, mae hi wedi’i dinistrio.’
3“Felly, dyma mae’r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Gwyliwch eich hunain! Dw i’n mynd i ddelio gyda chi! O, Tyrus! Mae byddinoedd y gwledydd yn dod yn dy erbyn di fel tonnau gwyllt y môr. 4Byddan nhw’n dinistrio dy waliau ac yn bwrw’r tyrau amddiffynnol i lawr.’ Bydda i’n clirio’r rwbel oddi arni ac yn gadael dim ar ôl ond craig noeth. 5Bydd fel ynys yng nghanol y môr, yn dda i ddim ond i daenu rhwydau pysgota. Fi ydy’r ARGLWYDD, y Meistr, a dw i wedi dweud beth sydd i ddod. Bydd byddinoedd o wledydd eraill yn concro Tyrus, 6a bydd y pentrefi yn yr ardal o’i chwmpas yn cael eu dinistrio yn y rhyfel. Byddan nhw’n deall wedyn mai fi ydy’r ARGLWYDD.
7“Ie, dyma mae’r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Gwyliwch chi! Dw i’n dod â’r brenin Nebwchadnesar, yr un sy’n frenin ar frenhinoedd, i lawr o Babilon yn y gogledd, a bydd yn ymosod ar Tyrus. Bydd ganddo geffylau, cerbydau rhyfel, marchogion a byddin enfawr. 8Bydd yn dinistrio’r pentrefi gwledig o dy gwmpas di. Wedyn bydd yn codi tyrau gwarchae a rampiau i ymosod arnat ti. Bydd llu o filwyr gyda’u tarianau yn dod yn dy erbyn di! 9Bydd yn bwrw dy waliau gyda’i hyrddod rhyfel ac yn chwalu dy dyrau amddiffynnol gyda’i arfau haearn. 10Bydd y llwch fydd yn cael ei godi gan yr holl geffylau rhyfel yn dy orchuddio di! Bydd sŵn y cafalri a’r holl wagenni a cherbydau rhyfel yn ddigon i ysgwyd dy waliau di. Bydd e’n dod i mewn drwy dy giatiau yn fuddugoliaethus ar ôl i’w fyddin dorri drwy’r waliau. 11Bydd carnau’r ceffylau yn sathru dy strydoedd. Bydd dy bobl yn cael eu lladd â’r cleddyf, a bydd dy golofnau enwog yn cael eu bwrw i lawr. 12Byddan nhw’n dwyn dy gyfoeth a dy eiddo i gyd. Byddan nhw’n bwrw dy waliau i lawr ac yn dinistrio dy dai gwych. Bydd y cerrig a’r coed a’r rwbel i gyd yn cael ei daflu i’r môr. 13Bydda i’n rhoi taw ar dy ganeuon di, a fydd neb yn clywed sŵn dy delynau byth eto. 14Fydd dim ar ôl ond craig noeth. Fyddi di’n ddim byd ond lle i daenu rhwydau pysgota. Gei di byth dy adeiladu eto. Yr ARGLWYDD ydw i, a dw i wedi dweud beth sydd i ddod!’
15“Dyma mae’r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud wrth Tyrus: ‘Bydd yr arfordir cyfan yn crynu pan fyddi di’n syrthio, a sŵn dy bobl wedi’u hanafu yn griddfan wedi’r lladdfa. 16Bydd llywodraethwyr yr arfordir i gyd yn camu i lawr o’u gorseddau. Byddan nhw’n tynnu eu clogynnau brenhinol a’u dillad hardd. Dychryn fydd yr unig wisg amdanyn nhw. Byddan nhw’n eistedd ar lawr yn crynu drwyddynt o achos beth fydd wedi digwydd i ti. 17Byddan nhw’n canu’r gân yma o alar ar dy ôl:
O ddinas enwog ar y môr,
rwyt wedi dy ddinistrio!
Ti oedd yn rheoli’r tonnau,
gyda dy bobl yn codi dychryn
ar y ddynoliaeth gyfan.
18Ond bellach mae’r arfordir yn crynu
ar ddydd dy gwymp.
Mae’r ynysoedd i gyd mewn sioc
am dy fod wedi mynd.’
19“Dyma mae’r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Bydda i’n dy wneud di yn anialwch diffaith, fel trefi sy’n adfeilion gyda neb yn byw ynddyn nhw. Bydd fel tswnami, a thithau’n cael dy foddi dan donnau gwyllt y môr. 20Byddi’n cael dy hun yn y Pwll – pwll marwolaeth; yn gorwedd yno gyda phobl sydd wedi marw ers talwm. Byddi’n adfeilion wedi dy gladdu yn nyfnder y ddaear. Fydd neb yn byw ynot ti, a fyddi di byth eto’n cael dy barchu ar dir y byw. 21Bydd dy ddiwedd yn erchyll. Fydd dim sôn amdanat ti o hynny ymlaen. Bydd pobl yn chwilio amdanat ond yn methu dod o hyd i ti.’” Dyna neges y Meistr, yr ARGLWYDD.

اکنون انتخاب شده:

Eseciel 26: bnet

های‌لایت

کپی

مقایسه

به اشتراک گذاشتن

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید