Eseciel 31

31
Torri’r Goeden Gedrwydd
1Roedd hi un deg un mlynedd ar ôl i ni gael ein cymryd yn gaeth i Babilon, ar ddiwrnod cynta’r trydydd mis.#31:1 diwrnod cyntaf y trydydd mis Mehefin 21, 587 cc mae’n debyg. A dyma fi’n cael y neges yma gan yr ARGLWYDD: 2“Ddyn, dywed wrth y Pharo,#31:2 Pharo Apries, oedd hefyd yn cael ei adnabod fel Hoffra, oedd yn frenin yr Aifft o 589 i 570 cc. brenin yr Aifft, a’i bobl i gyd:
‘Oes rhywbeth sy’n cymharu â dy fawredd di?
3Roedd Asyria fel coeden gedrwydd yn Libanus,
a’i changhennau hardd fel cysgod y goedwig.
Roedd yn aruthrol dal, a’i brigau uchaf yn y cymylau.
4Y dŵr oedd yn gwneud iddi dyfu,
a’r ffynhonnau dwfn yn ei gwneud yn dal.
Roedd nentydd yn llifo o’i chwmpas;
a sianeli dŵr yn dyfrio’r coed i gyd.
5Ond roedd y goeden hon yn dalach
na’r coed o’i chwmpas i gyd.
Canghennau mawr a brigau hir,
a’i gwreiddiau’n lledu at y dŵr.
6Roedd yr adar i gyd yn nythu yn ei brigau,
a’r anifeiliaid gwyllt yn geni rhai bach dan ei changhennau.
Roedd y gwledydd mawr i gyd yn byw dan ei chysgod.
7Roedd yn rhyfeddol o hardd gyda’i changhennau hir,
a’i gwreiddiau’n ymestyn yn ddwfn at ddigonedd o ddŵr.
8Doedd coed cedrwydd eraill gardd Duw ddim yn cystadlu â hi.
Doedd canghennau’r coed pinwydd ddim byd tebyg;
a’r coed planwydd yn ddim o’u cymharu â hi.
Doedd dim un o goed gardd Duw mor hardd â hon!
9Fi wnaeth hi’n hardd gyda’i holl ganghennau.
Roedd coed Eden i gyd, gardd Duw, yn genfigennus ohoni.
10“‘Felly, dyma mae’r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Am ei bod hi mor falch ohoni ei hun, mor aruthrol dal gyda’i brigau uchaf yn y cymylau, 11rhois hi yn nwylo arweinydd y cenhedloedd, i’w chosbi am ei drygioni. Dw i wedi’i thaflu hi i ffwrdd. 12Mae byddin estron y wlad fwya creulon wedi’i thorri i lawr a’i gadael i orwedd ar y mynyddoedd. Mae ei changhennau’n gorwedd ar chwâl yn y dyffrynnoedd a’r ceunentydd. Mae pawb oedd yn cysgodi oddi tani wedi ffoi pan gafodd ei thaflu i ffwrdd. 13Mae’r adar i gyd yn clwydo ar ei boncyff marw, a’r anifeiliaid gwyllt yn cerdded dros ei changhennau.
14“‘Digwyddodd hyn i stopio i unrhyw goeden arall dyfu mor dal nes bod ei brigau uchaf yn y cymylau. Byddan nhw i gyd, fel pobl feidrol, yn marw yn nyfnder y ddaear. Byddan nhw’n ymuno gyda phawb arall sydd yn y Pwll.
15“‘Dyma mae’r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Pan aeth Asyria i lawr i’r bedd, roedd y dyfnder yn galaru amdani. Dyma fi’n dal yr afonydd yn ôl oddi wrthi. Gwisgais Libanus mewn du, a gwneud i’r coed eraill i gyd wywo. 16Roedd y gwledydd i gyd yn crynu pan glywon nhw amdani’n syrthio, pan wnes i ei thaflu i lawr i fyd y meirw gyda phawb arall sydd yn y Pwll. Yn y byd tanddaearol cafodd coed Eden i gyd a’r gorau o goed Libanus, pob un oedd wedi cael digon o ddŵr, eu bodloni. 17Roedd ei chefnogwyr i gyd (y gwledydd oedd wedi byw dan ei chysgod) wedi mynd i lawr i fyd y meirw gyda hi, i ymuno gyda phawb arall oedd wedi’u lladd â’r cleddyf.
18“‘Pa un o goed Eden sydd unrhyw beth tebyg i ti? Ond byddi dithau’n cael dy fwrw i lawr i ddyfnder y ddaear gyda choed Eden. Byddi’n byw gyda’r paganiaid eraill gafodd eu lladd â’r cleddyf!’ Dyna fydd yn digwydd i’r Pharo a’i fyddin enfawr,” meddai’r Meistr, yr ARGLWYDD.

اکنون انتخاب شده:

Eseciel 31: bnet

های‌لایت

کپی

مقایسه

به اشتراک گذاشتن

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید