Eseciel 41
41
1Yna dyma’r dyn yn mynd â fi i mewn i gysegr allanol adeilad y deml. Mesurodd y colofnau bob ochr i’r fynedfa. Roedden nhw’n dri metr o led. 2Roedd y fynedfa ei hun yn bum metr a chwarter, ac roedd y waliau bob ochr yn ddau fetr a hanner o drwch. Roedd y cysegr allanol yn ddau ddeg un metr o hyd a deg metr a hanner o led.
3Yna aeth y dyn i mewn i’r cysegr mewnol.#41:3 aeth i mewn i’r cysegr mewnol Er fod Eseciel (oedd yn offeiriad) wedi cael mynd i mewn i’r cyntedd a’r cysegr allanol, dydy e ddim yn mynd i mewn i’r cysegr mewnol. Mesurodd y colofnau bob ochr i’r fynedfa yn fetr o led, y fynedfa ei hun yn dri metr, a’r waliau bob ochr i’r fynedfa yn dri metr a hanner. 4Roedd yr ystafell yn ddeg metr a hanner sgwâr, ar ben pella’r cysegr allanol. “Dyma’r Lle Mwyaf Sanctaidd,” meddai wrtho i.
Yr Ystafelloedd Ochr
5Yna mesurodd wal y deml, ac roedd hi’n dri metr o drwch. Roedd pob un o’r ystafelloedd ochr o gwmpas y deml yn ddau fetr o led. 6Roedd yr ystafelloedd ochr ar dri llawr, tri deg ar bob llawr. Roedd y trawstiau o dan yr ystafelloedd yma yn gorwedd ar siliau o gwmpas y wal. Doedden nhw ddim wedi’u gosod yn wal y deml ei hun. 7Roedd yr ystafelloedd ar y llawr canol yn lletach na’r rhai ar y llawr isaf, a’r rhai ar llawr uchaf yn lletach eto. Roedd grisiau yn arwain o’r llawr isaf i’r llawr uchaf drwy’r llawr canol. 8Roedd y deml wedi’i hadeiladu ar deras tri metr o uchder, ac roedd y teras yma’n rhoi sylfaen i’r ystafelloedd ochr. 9Roedd wal allanol yr ystafelloedd ochr dros ddau fetr a hanner o drwch. Roedd lle agored rhwng ystafelloedd ochr y deml 10a’r ystafelloedd ar wal allanol yr iard fewnol; roedd y lle agored yma o gwmpas y deml i gyd ac yn ddeg metr a hanner o led. 11Roedd dau ddrws o bob ystafell ochr i’r lle agored – un yn wynebu’r gogledd a’r llall yn wynebu’r de. Roedd dau fetr a hanner o deras o gwmpas y cwbl.
Yr adeilad i’r gorllewin o’r Deml
12Roedd yr adeilad oedd yn wynebu’r iard sydd ar wahân ar ochr orllewinol y deml yn dri deg saith metr o led. Roedd wal allanol yr adeilad yn ddau fetr a hanner o drwch ac yn bedwar deg saith metr o hyd.
Mesuriadau’r Deml
13Yna mesurodd y deml ei hun. Roedd yn bum deg dau metr a hanner o hyd, ac roedd yr iard sydd ar wahân o’i chwmpas yn bum deg dau metr a hanner arall. 14Hefyd roedd lled y deml a’r iard sydd ar wahân ar yr ochr ddwyreiniol iddi yn bum deg dau metr a hanner.
15Yna mesurodd hyd yr adeilad oedd yn wynebu’r iard sydd ar wahân tu cefn i’r deml gyda’r galeri bob ochr, ac roedd yn bum deg dau metr a hanner.
Cynllun Mewnol y Cysegr Allanol a’r Cyntedd
Roedd tu mewn y cysegr allanol a’r cyntedd oedd yn wynebu’r cwrt 16wedi’u panelu mewn pren i gyd. Roedd pob trothwy, y ffenestri culion a’r galerïau ar y tair ochr oedd yn wynebu’r trothwy wedi’u panelu o’r llawr at y ffenestri. O gwmpas y ffenestri, 17ar y wal sydd uwchben y fynedfa i’r cysegr mewnol ac ar y tu allan a’r tu mewn i’r cysegr mewnol ei hun 18roedd y cwbl wedi’i addurno gyda cerwbiaid a choed palmwydd. Roedd coeden balmwydd a cherwb bob yn ail. Roedd gan bob cerwb ddau wyneb – 19wyneb dyn ac wyneb llew. Roedd y rhain wedi’u cerfio dros y deml i gyd. 20Roedden nhw’n addurno’r cysegr allanol i gyd, o’r llawr i’r darn o wal sydd uwchben y fynedfa i’r cysegr mewnol.
21Roedd colofnau sgwâr bob ochr i fynedfa’r cysegr allanol. Yna o flaen y cysegr mewnol roedd rhywbeth oedd yn edrych fel 22allor bren. Roedd yn fetr a hanner o uchder ac yn fetr o hyd. Roedd ei gorneli, ei waelod a’i ochrau yn bren. A dyma’r dyn yn dweud wrtho i, “Dyma’r bwrdd sy’n sefyll o flaen yr ARGLWYDD.”
23Roedd drysau dwbl i mewn i’r cysegr allanol ac i’r cysegr mewnol, 24gyda’r drysau’n agor at allan ac i mewn. 25Roedd cerwbiaid a choed palmwydd wedi’u cerfio ar ddrysau’r cysegr allanol, yr un fath â’r rhai ar y waliau. Ac roedd canopi pren uwchben y cyntedd y tu allan. 26Roedd ffenestri culion gyda coed palmwydd bob ochr iddyn nhw yn addurno waliau’r cyntedd. Roedd canopïau uwchben ystafelloedd ochr y deml hefyd.
اکنون انتخاب شده:
Eseciel 41: bnet
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
© Cymdeithas y Beibl 2023