Esra 5
5
1Yna dyma’r proffwydi Haggai a Sechareia fab Ido yn proffwydo am yr Iddewon oedd yn Jwda a Jerwsalem. Roedden nhw’n siarad gydag awdurdod Duw Israel. 2A dyma Serwbabel fab Shealtiel a Ieshŵa fab Iotsadac yn dechrau eto ar y gwaith o ailadeiladu teml Dduw yn Jerwsalem. Roedd proffwydi Duw yn eu hannog nhw a’u helpu nhw.
3Ond wedyn dyma Tatnai (llywodraethwr talaith Traws-Ewffrates) a Shethar-bosnai a’i cydweithwyr yn mynd atyn nhw, a gofyn, “Pwy sydd wedi rhoi caniatâd i chi ailadeiladu’r deml yma, a gorffen codi’r waliau?” 4A dyma nhw’n gofyn hefyd, “Beth ydy enwau’r dynion sy’n gwneud yr adeiladu?”
5Ond roedd Duw yn gofalu amdanyn nhw, a doedd dim rhaid iddyn nhw stopio nes oedd adroddiad wedi’i anfon at Dareius, a llythyr am y peth wedi’i anfon yn ôl.
Llythyr Tatnai at y Brenin Dareius
6Dyma gopi o’r llythyr wnaeth Tatnai (llywodraethwr talaith Traws-Ewffrates), Shethar-bosnai a swyddogion yn y dalaith, ei anfon at y Brenin Dareius. 7Roedd yn darllen fel yma:
At y Brenin Dareius: Cyfarchion!
8Dylai’r brenin wybod ein bod ni wedi mynd i dalaith Jwda. Yno mae teml y Duw mawr yn cael ei hadeiladu gyda cherrig anferth, ac mae trawstiau pren yn cael eu gosod yn y waliau. Maen nhw wrthi’n brysur yn gwneud y gwaith, ac mae’n mynd yn ei flaen yn dda.
9Dyma ni’n gofyn i’r arweinwyr, “Pwy sydd wedi rhoi caniatâd i chi ailadeiladu’r deml yma, a gorffen codi’r waliau?” 10A dyma ni’n gofyn beth oedd eu henwau nhw, er mwyn rhoi gwybod i chi mewn ysgrifen pwy ydy’r arweinwyr. 11A dyma’r ateb gawson ni, “Gweision Duw y nefoedd a’r ddaear ydyn ni. Dŷn ni’n ailadeiladu’r deml yma gafodd ei chodi ganrifoedd yn ôl gan un o frenhinoedd mwyaf Israel. 12Ond ar ôl i’n hynafiaid ni ddigio Duw’r nefoedd, dyma fe’n gadael i Nebwchadnesar, brenin Babilon, eu concro nhw. Dinistriodd y deml a chymryd y bobl yn gaethion i Babilon. 13Ond yna, yn ystod ei flwyddyn gyntaf fel brenin, dyma Cyrus brenin Babilon yn gorchymyn fod teml Dduw i gael ei hadeiladu eto. 14Dyma fe hyd yn oed yn rhoi llestri aur ac arian y deml yn ôl (y rhai oedd Nebwchadnesar wedi’u cymryd o Jerwsalem i’w balas yn Babilon). Rhoddodd Cyrus nhw i ddyn o’r enw Sheshbatsar, oedd wedi’i benodi’n llywodraethwr ar Jwda, 15a dweud wrtho, ‘Dos â’r llestri yma yn ôl i’w gosod yn y deml yn Jerwsalem. Mae teml Dduw i gael ei hadeiladu eto ar y safle cywir.’ 16Felly dyma Sheshbatsar yn mynd ati i osod sylfeini teml Dduw yn Jerwsalem, ac mae’r gwaith adeiladu yn dal i fynd yn ei flaen, ac yn dal heb ei orffen.
17Felly os ydy’r brenin yn hapus i wneud hynny, gallai orchymyn chwilio drwy’r archifau brenhinol yn Babilon, i weld os gwnaeth y Brenin Cyrus orchymyn ailadeiladu’r deml yn Jerwsalem ai peidio. Wedyn falle y gallai’r brenin anfon i ddweud wrthon ni beth mae e eisiau i ni ei wneud.”
اکنون انتخاب شده:
Esra 5: bnet
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
© Cymdeithas y Beibl 2023