Genesis 10
10
Rhestr o’r cenhedloedd gwahanol
(1 Cronicl 1:5-23)
1Dyma hanes teuluoedd meibion Noa – Shem, Cham a Jaffeth. (Ar ôl y dilyw cafodd y tri ohonyn nhw blant):
Disgynyddion Jaffeth
2Meibion Jaffeth: Gomer, Magog, Madai, Iafan, Twbal, Meshech, a Tiras.
3Disgynyddion Gomer oedd pobl Ashcenas, Riffath, a Togarma.
4Disgynyddion Iafan oedd pobl Elisha, Tarshish, Cittim, a Dodanîm, 5sef pobloedd yr arfordir a’r ynysoedd. Rhannodd y rhain yn genhedloedd gwahanol gyda’u tiroedd, a phob grŵp ethnig gyda’i iaith ei hun.
Disgynyddion Cham
6Meibion Cham: Cwsh, Mitsraïm, Pwt, a Canaan.
7Disgynyddion Cwsh oedd pobl Seba, Hafila, Sabta, Raama, a Sabtecha. Disgynyddion Raama oedd pobl Sheba a Dedan.
8Cafodd Cwsh fab arall o’r enw Nimrod. Nimrod oedd y concwerwr cyntaf. 9Fe oedd yr heliwr cryfaf yn y byd i gyd. Dyna pam mae’r hen ddywediad yn dweud, “Mae fel Nimrod, yr heliwr cryfaf welodd yr ARGLWYDD.” 10Dechreuodd ei ymerodraeth gyda dinasoedd Babel, Erech, Accad a Calne yng ngwlad Babilonia.#10:10 Hebraeg, Shinar sy’n hen enw am wlad Babilon. 11Wedyn lledodd ei ymerodraeth i Asyria, ac adeiladodd ddinasoedd Ninefe, Rehoboth-ir, Cala, 12a Resen (sydd rhwng Ninefe a dinas fawr Cala).
13Disgynyddion Mitsraïm oedd y Lydiaid, Anamiaid, Lehabiaid (pobl Libia), Nafftwiaid, 14Pathrwsiaid, Caslwchiaid (y daeth y Philistiaid ohonyn nhw), a’r Cafftoriaid.
15Disgynyddion Canaan oedd pobl Sidon (o’i fab hynaf), yr Hethiaid, 16y Jebwsiaid, Amoriaid, Girgasiaid, 17Hefiaid, Arciaid, Siniaid, 18Arfadiaid, Semariaid, a phobl Chamath. Cafodd llwythau’r Canaaneaid eu gwasgaru 19nes bod eu ffiniau nhw yn estyn o Sidon yr holl ffordd i Gerar ac i fyny i Gasa, ac wedyn yr holl ffordd i Sodom, Gomorra, Adma, a Seboïm, mor bell â Lesha.
20Felly dyna ddisgynyddion Cham yn ôl eu llwythau, ieithoedd, tiroedd a chenhedloedd.
Disgynyddion Shem
21Cafodd Shem, brawd hynaf Jaffeth, feibion hefyd. Shem oedd tad disgynyddion Eber i gyd.
22Meibion Shem: Elam, Ashŵr, Arffacsad, Lwd, ac Aram.
23Disgynyddion Aram oedd pobl Us, Chwl, Gether, a Mash.
24Arffacsad oedd tad Shelach, a Shelach oedd tad Eber. 25Roedd gan Eber ddau fab – cafodd un ei alw’n Peleg, am mai dyna pryd y cafodd ieithoedd y byd eu rhannu.#10:25 Hebraeg, palag. Yna enw ei frawd oedd Ioctan. 26Disgynyddion Ioctan oedd pobl Almodad, Sheleff, Chatsar-mafeth, Ierach, 27Hadoram, Wsal, Dicla, 28Obal, Abima-el, Sheba, 29Offir, Hafila, a Iobab. Roedd y rhain i gyd yn ddisgynyddion i Ioctan. 30Roedden nhw’n byw ar y tir rhwng Mesha a bryniau Seffar yn y dwyrain.
31Felly dyna ddisgynyddion Shem, yn ôl eu llwythau, ieithoedd, tiroedd a chenhedloedd.
32Dyna’r llwythau ddaeth o feibion Noa, wedi’u rhestru yn eu cenhedloedd yn ôl eu hachau. Ar ôl y dilyw dyma nhw’n rhannu i wneud gwahanol genhedloedd yn y byd.
اکنون انتخاب شده:
Genesis 10: bnet
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
© Cymdeithas y Beibl 2023