Genesis 23

23
Sara yn marw
1-2Bu farw Sara yn 127 oed, yn Ciriath-arba (sef Hebron), yn Canaan. A buodd Abraham yn galaru ac yn wylo drosti. 3Yna dyma Abraham yn codi a mynd i siarad â disgynyddion Heth, 4“Mewnfudwr ydw i, yn byw dros dro yn eich plith chi. Wnewch chi werthu darn o dir i mi i gladdu fy ngwraig?” 5A dyma ddisgynyddion Heth yn ateb, 6“Wrth gwrs, syr. Rwyt ti fel tywysog pwysig yn ein golwg ni. Dewis y bedd gorau sydd gynnon ni i gladdu dy wraig ynddo. Byddai’n fraint gan unrhyw un ohonon ni i roi ei fedd i ti gladdu dy wraig.”
7Dyma Abraham yn codi ar ei draed ac yn ymgrymu o flaen y bobl leol, sef disgynyddion Heth. 8Yna dwedodd wrthyn nhw, “Os ydych chi’n hapus i mi gladdu fy ngwraig yma, wnewch chi berswadio Effron fab Sochar 9i werthu’r ogof yn Machpela i mi? Mae’r ogof ar ei dir e, reit ar y ffin. Gwna i dalu’r pris llawn iddo amdani yma, o’ch blaen chi, er mwyn i mi gael lle i gladdu fy ngwraig.”
10Roedd Effron yn eistedd yno ar y pryd, ac meddai wrth Abraham o flaen pawb oedd yno wrth giât y ddinas, 11“Na, gwranda syr. Dw i’n fodlon gwerthu’r darn hwnnw o dir i gyd i ti, a’r ogof sydd arno. Dw i’n dweud hyn o flaen fy mhobl yma. Dw i’n hapus i ti ei gymryd i gladdu dy wraig.” 12A dyma Abraham yn ymgrymu eto o flaen y bobl leol. 13“Iawn,” meddai wrth Effron o flaen pawb, “dw i’n cytuno. Dw i’n fodlon talu am y darn tir hefyd. Cei faint bynnag rwyt ti eisiau amdano, er mwyn i mi gael lle i gladdu fy ngwraig.” 14Dyma Effron yn ateb, 15“Syr. Beth am 400 sicl o arian? Dydy hynny’n ddim byd i ddynion fel ti a fi. Wedyn cei gladdu dy wraig.” 16Felly dyma Abraham yn cytuno i’w dalu. A dyma Abraham yn pwyso’r swm o arian oedd wedi’i gytuno o flaen tystion, a’i roi i Effron, sef 400 darn o arian yn ôl mesur safonol y cyfnod.
17Felly prynodd Abraham y tir gan Effron. Roedd yn Machpela, i’r dwyrain o Mamre. Cafodd yr ogof oedd arno a’r coed oedd o fewn ei ffiniau. 18Roedd disgynyddion Heth, a phawb arall oedd wrth giât y ddinas, yn dystion i’r cytundeb.
19Ar ôl prynu’r tir, dyma Abraham yn claddu Sara ei wraig yn yr ogof oedd yno, yn Machpela ger Mamre (sef Hebron) yng ngwlad Canaan. 20Cafodd y tir a’r ogof oedd arno eu gwerthu i Abraham gan ddisgynyddion Heth, iddo gladdu ei deulu yno.

اکنون انتخاب شده:

Genesis 23: bnet

های‌لایت

کپی

مقایسه

به اشتراک گذاشتن

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید