Hebreaid 6
6
1Felly mae angen i ni symud ymlaen o beth sy’n cael ei ddysgu am y Meseia yn y grŵp meithrin. Mae’n hen bryd i ni dyfu i fyny! Does dim rhaid mynd dros y pethau sylfaenol eto – yr angen i droi cefn ar y math o fywyd sy’n arwain i farwolaeth a dod i gredu yn Nuw; 2y ddysgeidiaeth am fedydd; comisiynu pobl drwy osod dwylo arnyn nhw; y ffaith y bydd y rhai sydd wedi marw yn codi yn ôl yn fyw ac y bydd Duw yn barnu beth fydd yn digwydd i bobl yn dragwyddol. 3A gyda help Duw dyna wnawn ni – symud yn ein blaenau!
4Mae’n gwbl amhosib arwain y rhai sydd wedi troi cefn ar y Meseia yn ôl ato. Dyma’r bobl welodd oleuni’r gwirionedd unwaith. Cawson nhw brofi rhodd hael Duw, a derbyn yr Ysbryd Glân gydag eraill. 5Cawson nhw flas ar neges Duw a nerthoedd yr oes sydd i ddod. 6Ac eto maen nhw wedi troi cefn arno! Maen nhw’n gyfrifol am hoelio Mab Duw ar y groes unwaith eto drwy ei wrthod, a’i wneud yn destun sbort i bobl.
7Mae Duw yn bendithio’r ddaear drwy anfon glaw i’w mwydo’n gyson, ac mae’r tir yn rhoi cnwd da i’w ddefnyddio gan y ffermwr sy’n trin y tir. 8Ond dydy tir gyda dim byd ond drain ac ysgall yn tyfu arno yn dda i ddim. Bydd yn cael ei gondemnio a’i losgi yn y diwedd.#Genesis 3:17-18
9Ond er ein bod ni’n siarad fel hyn, ffrindiau annwyl, dŷn ni’n hyderus fod pethau gwell o’ch blaen chi – bendithion sy’n dod i’r rhai sy’n cael eu hachub. 10Dydy Duw ddim yn annheg; wnaiff e ddim anghofio beth dych chi wedi’i wneud. Dych chi wedi dangos eich cariad ato drwy helpu Cristnogion eraill. A dych chi’n dal i wneud hynny! 11Daliwch ati i ddangos yr un brwdfrydedd, a byddwch chi’n derbyn yn llawn y cwbl dych chi’n edrych ymlaen ato. 12Dŷn ni ddim am i chi fod yn ddiog! Dilynwch esiampl y rhai hynny sy’n credu go iawn ac yn dal ati yn amyneddgar – nhw ydy’r rhai fydd yn derbyn y cwbl mae Duw wedi’i addo.
Mae beth mae Duw wedi’i addo yn sicr
13Pan wnaeth Duw addewid i Abraham aeth ar ei lw y byddai’n gwneud beth oedd wedi’i addo. Rhoddodd ei gymeriad ei hun ar y lein! – doedd neb mwy iddo allu tyngu llw iddo! 14A dyma ddwedodd e: “Dw i’n addo dy fendithio di a rhoi llawer iawn o ddisgynyddion i ti.” #Genesis 22:17 15Ac felly, ar ôl disgwyl yn amyneddgar dyma Abraham yn derbyn beth roedd Duw wedi’i addo iddo.
16Pan mae pobl yn tyngu llw maen nhw’n gofyn i rywun mwy na nhw eu hunain wneud yn siŵr eu bod yn gwneud beth maen nhw’n ei addo. Mae’r llw yn eu rhwymo nhw i wneud beth maen nhw wedi’i ddweud, ac yn rhoi diwedd ar bob dadl. 17Am fod Duw am i bobl wybod ei fod e ddim yn newid ei feddwl ac y byddai’n gwneud beth roedd wedi’i addo iddyn nhw, rhwymodd ei hun gyda llw.
18Felly mae Duw wedi addo, ac mae wedi mynd ar ei lw – dau beth fydd byth yn newid am ei bod yn amhosib i Dduw ddweud celwydd. Felly, dŷn ni sydd wedi dianc ato yn gallu bod yn hyderus. Dŷn ni’n gallu dal gafael yn y gobaith mae wedi’i roi i ni. 19Mae’r gobaith hwn yn obaith sicr – mae fel angor i’n bywydau ni, yn gwbl ddiogel. Mae Iesu wedi mynd o’n blaenau ni, tu ôl i’r llen, i mewn i’r nefoedd, sef y cysegr mewnol lle mae Duw. 20Ydy, mae Iesu wedi mynd i mewn yno ar ein rhan ni. Fe ydy’r un “sy’n offeiriad am byth, yr un fath â Melchisedec.” #Salm 110:4
اکنون انتخاب شده:
Hebreaid 6: bnet
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
© Cymdeithas y Beibl 2023