Eseia 18

18
Duw yn cosbi Ethiopia
1Gwae wlad yr adenydd chwim
wrth afonydd dwyrain Affrica!#18:1 dwyrain Affrica Hebraeg, Cwsh, sef yr ardal i’r de o’r Aifft, yn cynnwys rhannau o Swdan ac Ethiopia heddiw.#Seffaneia 2:12
Mae’n anfon negeswyr dros y môr,
mewn cychod brwyn ar wyneb y dŵr.
2Ewch, negeswyr cyflym,
at genedl o bobl dal gyda chroen llyfn –
pobl sy’n cael eu hofni ym mhobman;
cenedl gref sy’n hoffi ymladd,
sydd â’i thir wedi’i rannu gan afonydd.
3“Gwrandwch, bawb drwy’r byd i gyd,
pawb sy’n byw ar y ddaear:
byddwch yn ei weld!
– fel baner ar ben y bryniau;
byddwch yn ei glywed!
– fel sŵn y corn hwrdd#18:3 corn hwrdd Hebraeg, shoffar. yn cael ei chwythu!”
4Dyma ddwedodd yr ARGLWYDD wrtho i:
“Dw i’n mynd i aros yn llonydd ac edrych o’m lle –
fel tes yr haul yn tywynnu,
neu gwmwl gwlith yng ngwres y cynhaeaf.”
5Adeg y cynhaeaf grawn, pan mae’r blagur wedi mynd,
a’r grawnwin yn dechrau aeddfedu,
bydd yn torri’r brigau gyda chyllell,
ac yn tocio’r canghennau sy’n lledu.
6Bydd y cwbl yn cael ei adael
i’r eryrod ar y mynydd ac i’r anifeiliaid gwyllt.
Bydd yr adar yn byw drwy’r haf arnyn nhw,
a’r anifeiliaid gwyllt drwy’r gaeaf.
7Bryd hynny bydd pobl dal gyda chroen llyfn
yn dod â rhoddion i’r ARGLWYDD hollbwerus –
pobl sy’n cael eu hofni ym mhobman,
cenedl gref sy’n hoffi ymladd,
sydd â’i thir wedi’i rannu gan afonydd.
Dônt i’r lle mae enw’r ARGLWYDD hollbwerus arno:
i Fynydd Seion.

اکنون انتخاب شده:

Eseia 18: bnet

های‌لایت

کپی

مقایسه

به اشتراک گذاشتن

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید