Eseia 21

21
Cwymp Babilon#21:0 Babilon Cafodd Babilon ei choncro gan y Brenin Cyrus a’i fyddin yn 539 cc.
1Neges am “yr Anialwch wrth y môr” (sef Babilon):
Fel y gwyntoedd stormus sy’n rhuthro drwy’r Negef,
mae e’n dod o’r anialwch, o wlad sydd i’w hofni.
2Cafodd gweledigaeth erchyll ei rhoi i mi:
“Mae’r bradwr yn bradychu, a’r dinistrydd yn dinistrio!
Ymlaen, Elam! Gwarchae arni, Media!
Dw i am roi taw ar y griddfan mae wedi’i achosi.”
3Yn sydyn, mae fy nghorff yn ddolur i gyd;
Mae poenau yn gafael yno i
fel gwraig mewn poen wrth gael babi.
Dw i wedi fy llethu gan beth dw i’n ei glywed,
ac wedi dychryn gan beth dw i’n ei weld.
4Mae’r galon yn pwmpio a dw i’n crynu mewn panig.
Mae fy mreuddwyd am wawr newydd wedi troi’n hunllef:
5Mae “Trefnwch wledd”
wedi troi’n “Gosodwch wylwyr!”
“Bwytwch ac yfwch!”
wedi troi’n “Codwch swyddogion! Paratowch y tarianau!”
6Achos dyma ddwedodd y Meistr wrtho i:
“Dos, gosod wyliwr i edrych allan,
a dweud beth mae’n ei weld.
7Pan fydd yn gweld cerbyd gyda phâr o geffylau,
marchog ar asyn neu farchog ar gamel,
dylai ddal sylw a gwylio’n ofalus.”
8Yna mae’r gwyliwr yn gweiddi’n uchel:
“Meistr, dw i wedi sefyll ar y tŵr gwylio drwy’r dydd,
ac wedi edrych allan bob nos.
9Ac edrych draw! Mae rhywun yn dod –
dyn mewn cerbyd gyda phâr o geffylau!”
Ac mae’n gweiddi’n uchel,
“Mae wedi syrthio! Mae Babilon wedi syrthio!
Mae’r delwau o’i holl dduwiau yn ddarnau mân ar lawr!”
10Chi sydd wedi dioddef – fy mhobl ar fy llawr dyrnu:
dw i wedi dweud wrthoch chi
beth glywais i gan yr ARGLWYDD hollbwerus,
Duw Israel.
Cosbi Edom
11Neges am Dwma:
Mae rhywun yn galw arna i o Seir:#21:11 Dwma Seir Dwma: gwerddon (oasis) yn anialwch gogledd Arabia. Seir: ardal fynyddig yn Edom, i’r de-orllewin o’r Môr Marw.
“Wyliwr, faint o’r nos sydd ar ôl?
Wyliwr, faint o’r nos sydd ar ôl?”
12Atebodd y gwyliwr,
“Mae’r bore yn dod, ond daw’r nos yn ôl.
Os ydych chi am ofyn eto, gofynnwch.
Trowch! Dewch yn ôl!”
Cosbi Arabia
13Neges am Arabia:
Cuddiwch yn nrysni’r anialwch, chi grwydriaid Dedan!#21:13 Dedan Ardal yng ngogledd-orllewin Arabia.
14Rhowch ddiod o ddŵr i’r sychedig, chi sy’n byw yn Tema;#21:14 Tema Ardal yng ngogledd Arabia.
rhowch fara i’r ffoaduriaid.
15Maen nhw’n dianc rhag y rhyfel,
rhag y cleddyf sydd wedi’i dynnu o’r wain,
rhag y bwa sy’n barod i saethu,
a rhag caledi’r frwydr.
16Achos dyma ddwedodd fy Meistr wrtho i: “Mewn blwyddyn union#21:16 blwyddyn union Hebraeg, “mewn blwyddyn, fel blynyddoedd gweithiwr” h.y. yn cael eu cyfri’n fanwl gywir. bydd ysblander Cedar#21:16 Cedar Ardal yn anialwch Arabia. wedi darfod; 17nifer fach iawn o arwyr Cedar sy’n saethu gyda’r bwa fydd ar ôl.” Mae’r ARGLWYDD, Duw Israel, wedi dweud.

اکنون انتخاب شده:

Eseia 21: bnet

های‌لایت

کپی

مقایسه

به اشتراک گذاشتن

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید