Eseia 27

27
Achub Israel
1Bryd hynny,
bydd yr ARGLWYDD
yn cosbi Lefiathan, y neidr wibiog,
gyda’i gleddyf llym, mawr a didostur –
Lefiathan, y neidr droellog;
a bydd yn lladd Rahab, anghenfil y môr.#27:1 Lefiathan môr Roedd y bwystfilod mytholegol yma yn cynrychioli grymoedd anhrefn, a’r cenhedloedd oedd yn gormesu Israel.#Job 41:1; Salm 74:14; 104:26
2Bryd hynny byddwch yn canu’r gân, “Y Winllan Hyfryd”:
3Fi, yr ARGLWYDD, sy’n gofalu amdani,
ac yn ei dyfrio hi bob amser.
Dw i’n ei gwylio hi nos a dydd,
rhag i rywun wneud niwed iddi.
4Dw i ddim yn ddig bellach:
petai rhywun yn rhoi drain a mieri i mi,
byddwn yn mynd allan i ryfel yn eu herbyn,
ac yn eu llosgi nhw’n ulw.
5Ond os ydyn nhw am i mi eu hamddiffyn nhw,
rhaid iddyn nhw wneud heddwch hefo fi;
ie, rhaid iddyn nhw wneud heddwch hefo fi.
6Mae’r amser yn dod pan fydd Jacob yn bwrw gwreiddiau,
ac Israel yn tyfu ac yn blodeuo –
bydd y byd i gyd yn llawn o’i ffrwyth.
7Gafodd e ei daro fel yr un wnaeth ei daro fe?
Wnaeth e ddiodde lladdfa debyg i’r un wnaeth ei ladd e?
8Cafodd ei yrru i ffwrdd a’i gaethgludo i’w alw i gyfrif.
Cafodd ei chwythu i ffwrdd gan wynt cryf ar ddydd y storm.
9Felly, dyma sut mae gwneud iawn am fai Jacob,
a dyma fydd canlyniad symud ei bechod:
Bydd cerrig yr allor yn cael eu malu i gyd
fel petaen nhw’n garreg galch –
a pholion y dduwies Ashera a’r llestri dal arogldarth
wedi’u torri i gyd.
10Mae’r ddinas gaerog wedi’i gadael yn wag,
cartrefi gwag wedi’u gadael fel tir diffaith.
Mae lloi yn pori yno, yn gorwedd i lawr
ac yn bwyta popeth sydd ar y canghennau.
11Yna mae’r brigau’n sychu ac yn torri,
ac mae merched yn dod ac yn cynnau tân hefo nhw.
Pobl oedd ddim yn deall oedden nhw;
felly doedd Duw’n dangos dim trugaredd,
doedd eu Crëwr yn dangos dim caredigrwydd atyn nhw.
12Bryd hynny, bydd yr ARGLWYDD yn ysgwyd y goeden, o afon Ewffrates i Wadi’r Aifft;#27:12 o afon Ewffrates i Wadi’r Aifft Dyma ffiniau traddodiadol y tir roedd Duw wedi ei addo i’w bobl. gw. Genesis 15:18; Exodus 23:31. a byddwch chi, blant Israel, yn cael eich casglu bob yn un! 13Bryd hynny, bydd y corn hwrdd#27:13 corn hwrdd Hebraeg, shoffar. yn cael ei ganu; bydd y rhai oedd ar goll yng ngwlad Asyria, a’r rhai oedd wedi cael eu gyrru i wlad yr Aifft, yn dod i addoli’r ARGLWYDD ar y mynydd cysegredig,#27:13 mynydd cysegredig gw. 2:3. yn Jerwsalem.

اکنون انتخاب شده:

Eseia 27: bnet

های‌لایت

کپی

مقایسه

به اشتراک گذاشتن

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید