Eseia 39

39
Camgymeriad Heseceia
(2 Brenhinoedd 20:12-19)
1Tua’r un pryd anfonodd Merodach-baladan, mab Baladan, brenin Babilon, negeswyr gyda llythyrau ac anrheg i Heseceia – roedd wedi clywed ei fod yn sâl ac wedi gwella. 2Roedd Heseceia wrth ei fodd eu bod nhw wedi dod, a dangosodd ei drysordy iddyn nhw – yr arian, yr aur, y perlysiau, a’r olew persawrus. Dangosodd ei stordy arfau iddyn nhw hefyd, a phopeth arall yn ei stordai. Dangosodd bopeth yn ei balas a’i deyrnas gyfan iddyn nhw!
3Yna dyma’r proffwyd Eseia yn mynd at y Brenin Heseceia, a gofyn iddo: “Beth ddwedodd y dynion yna wrthot ti? O ble daethon nhw?” Atebodd Heseceia. “Daethon nhw ata i o wlad bell iawn – o Babilon.” 4Gofynnodd Eseia wedyn, “Beth welon nhw yn dy balas di?” A dyma Heseceia’n ateb, “Popeth sydd gen i. Does dim byd yn fy stordai i gyd na welon nhw.” 5A dyma Eseia’n dweud wrth Heseceia, “Gwranda ar neges yr ARGLWYDD hollbwerus: 6‘Edrych! Mae’r amser yn dod pan fydd popeth sydd yn dy balas di, popeth gasglodd dy ragflaenwyr di hyd heddiw, yn cael ei gario i ffwrdd i Babilon. Fydd dim byd ar ôl!’ meddai’r ARGLWYDD. 7Bydd rhai o dy deulu di, ie, dy ddisgynyddion di dy hun, yn cael eu cymryd i ffwrdd ac yn gwasanaethu fel swyddogion ym mhalas brenin Babilon.”#Daniel 1:1-7; 2 Brenhinoedd 24:10-16; 2 Cronicl 36:10
8Dyma Heseceia yn dweud wrth Eseia, “Mae’r neges rwyt ti wedi’i rhannu gan yr ARGLWYDD yn dda.” Meddyliodd, “Be wedyn? O leia bydd heddwch a diogelwch tra dw i’n fyw.”

اکنون انتخاب شده:

Eseia 39: bnet

های‌لایت

کپی

مقایسه

به اشتراک گذاشتن

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید