Eseia 50
50
Pechod Israel ac ufudd-dod y gwas
1Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud:
“Ble mae’r dystysgrif ysgariad rois i i’ch mam
pan anfonais hi i ffwrdd?
I bwy oeddwn i mewn dyled
nes gorfod eich gwerthu chi iddyn nhw?
Cawsoch eich gwerthu am fod mor ddrwg;
cafodd eich mam ei hanfon i ffwrdd am eich bod wedi gwrthryfela.
2Pam oedd neb yna pan ddes i?
Pam wnaeth neb ateb pan oeddwn i’n galw?
Ydy fy llaw i’n rhy wan i ryddhau?
Ydw i’n rhy wan i achub?
Edrychwch! Fi wnaeth geryddu’r môr a’i sychu!
Galla i droi afonydd yn anialwch!
Roedd pysgod yn pydru am eu bod heb ddŵr,
wedi marw o syched!
3Galla i wisgo’r awyr mewn du
a’i gorchuddio â sachliain.”
Y gwas yn dal ati
4Rhoddodd fy Meistr, yr ARGLWYDD,
dafod i mi siarad ar ei ran;
dw i wedi dysgu sut i gysuro’r blinedig.
Bob bore mae’n fy neffro i ac yn fy nghael i wrando
fel mae disgybl yn gwrando ac yn dysgu.
5Mae fy Meistr, yr ARGLWYDD, wedi fy nysgu i wrando,
a dw i ddim wedi gwrthryfela
na throi fy nghefn arno.
6Rhoddais fy nghefn i’r rhai oedd yn fy chwipio,
a’m gên i’r rhai oedd yn tynnu’r farf.
Wnes i ddim cuddio fy wyneb
oddi wrth yr amarch a’r poeri.
7Mae fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn fy helpu –
felly dw i ddim yn derbyn yr amarch.
Dw i’n gwneud fy wyneb yn galed fel fflint,
a dw i’n gwybod na fydda i’n cywilyddio.
8Mae’r un sy’n fy amddiffyn i wrth fy ymyl –
pwy sy’n meiddio ymladd yn fy erbyn?
Gadewch i ni wynebu’n gilydd!
pwy sydd am fy ngwrthwynebu i?
Gadewch iddo ddod ata i!
9Mae fy Meistr, yr ARGLWYDD yn fy helpu i –
pwy sy’n mynd i’m cael yn euog o wneud drwg?
Edrychwch! Byddan nhw’n treulio fel dilledyn;
bydd gwyfyn yn eu difetha nhw.
10Pwy ohonoch sy’n parchu’r ARGLWYDD?
Pwy sy’n gwrando ar lais ei was?
Dylai’r sawl sy’n cerdded mewn tywyllwch dudew,
heb olau ganddo o gwbl,
drystio’r ARGLWYDD
a phwyso ar ei Dduw.
11Ond chi sy’n cynnau’ch tân eich hunain
ac yn paratoi ffaglau –
cerddwch yng ngolau fflam eich tân
a’r ffaglau ydych wedi’u tanio!
Dyma fydd yn dod i chi o’m llaw i:
byddwch chi’n gorwedd i gael eich poenydio!
اکنون انتخاب شده:
Eseia 50: bnet
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
© Cymdeithas y Beibl 2023