Eseia 52
52
Jerwsalem yn cael dathlu
1Deffra! Deffra! Dangos dy nerth, Seion!
Gwisga dy ddillad hardd,
Jerwsalem, y ddinas sanctaidd!
Fydd y paganiaid aflan sydd heb eu henwaedu
byth yn dod i mewn i ti eto.
2Cod ar dy draed, ac ysgwyd y llwch oddi arnat,
eistedd ar dy orsedd, Jerwsalem!
Tynna’r gefynnau oddi am dy wddf
Seion, y gaethferch hardd!
3Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud:
“Cawsoch eich gwerthu am ddim,
a fydd arian ddim yn eich rhyddhau chi.”
4Dyma mae’r Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud:
“I ddechrau, aeth fy mhobl i fyw dros dro yn yr Aifft;
ac wedyn dyma Asyria yn eu gormesu nhw.
5Felly, beth sy’n digwydd yma?”
–meddai’r ARGLWYDD.
“Mae fy mhobl wedi’u cipio i ffwrdd am ddim rheswm,
ac mae’r rhai sy’n eu rheoli yn gwawdio.”
–meddai’r ARGLWYDD.
“Mae pethau drwg yn cael eu dweud amdana i drwy’r amser.
6Ond bryd hynny bydd fy mhobl yn fy nabod,
ac yn gwybod mai fi ydy’r un sy’n dweud,
‘Dyma fi!’”
7Mae mor wych gweld negesydd
yn dod dros y mynyddoedd
yn cyhoeddi fod heddwch.
Mae ganddo newyddion da –
mae e’n cyhoeddi achubiaeth
ac yn dweud wrth Seion,
“Dy Dduw di sy’n teyrnasu!”
8Clyw! Mae’r rhai sy’n gwylio dy furiau yn galw;
maen nhw’n gweiddi’n llawen gyda’i gilydd!
Maen nhw’n gweld, o flaen eu llygaid,
yr ARGLWYDD yn dod yn ôl i Seion.
9Gwaeddwch chithau hefyd,
adfeilion Jerwsalem!
Mae’r ARGLWYDD yn cysuro’i bobl
ac yn mynd i ollwng Jerwsalem yn rhydd.
10Mae’r ARGLWYDD wedi dangos ei nerth
i’r cenhedloedd i gyd,
ac mae pobl o ben draw’r byd yn gweld
ein Duw ni yn achub.
11Ewch! Ewch! I ffwrdd â chi!
Peidiwch cyffwrdd dim byd aflan!
Chi sy’n cario llestri’r ARGLWYDD,#gw. Jeremeia 27:16; 28:3 ac Esra 1:7-10
cadwch eich hunain yn lân wrth fynd allan oddi yno.
12Ond does dim rhaid i chi adael ar frys
na dianc fel ffoaduriaid,
achos mae’r ARGLWYDD yn mynd o’ch blaen chi,
ac mae Duw Israel yn eich amddiffyn o’r tu cefn.
Y gwas sy’n dioddef
13“Edrychwch! Bydd fy ngwas yn llwyddo;
bydd yn cael ei ganmol a’i godi yn uchel iawn.
14Fel roedd llawer wedi dychryn o’i weld
yn edrych mor ofnadwy – prin yn ddynol
(doedd e ddim yn edrych fel dyn),
15bydd e’n puro#52:15 puro Hebraeg, “taenellu”. llawer o genhedloedd.
Bydd brenhinoedd yn fud o’i flaen –
byddan nhw’n gweld rhywbeth oedd heb ei egluro,
ac yn deall rhywbeth roedden nhw heb glywed amdano.
اکنون انتخاب شده:
Eseia 52: bnet
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
© Cymdeithas y Beibl 2023