Barnwyr 12

12
Llwyth Effraim yn ymladd byddin Jefftha
1Dyma ddynion Effraim yn galw byddin at ei gilydd ac yn croesi afon Iorddonen i Saffon. Dyma nhw’n gofyn i Jefftha, “Pam wnest ti fynd i ymladd yn erbyn yr Ammoniaid heb ofyn i ni fynd gyda ti? Dŷn ni’n mynd i losgi dy dŷ di i lawr a thithau tu mewn iddo!” 2Atebodd Jefftha, “Pan oedden ni yng nghanol dadl ffyrnig gyda’r Ammoniaid, dyma fi’n galw arnoch chi i ddod i helpu, ond ddaethoch chi ddim. 3Pan ddeallais i nad oeddech chi’n dod, dyma fi’n mentro mynd i frwydro yn erbyn yr Ammoniaid hebddoch chi, a dyma’r ARGLWYDD yn rhoi buddugoliaeth i ni. Felly pam dych chi wedi dod i ymladd yn fy erbyn i?”
4Yna dyma Jefftha yn casglu byddin o ddynion Gilead at ei gilydd a mynd i ymladd yn erbyn dynion Effraim a’u trechu nhw. Roedd dynion Effraim wedi sarhau pobl Gilead drwy ddweud, “Dydy pobl Gilead yn ddim byd ond cachgwn yn cuddio ar dir Effraim a Manasse!” 5Roedd dynion Gilead wedi dal y rhydau lle roedd pobl yn croesi afon Iorddonen, i rwystro dynion Effraim rhag dianc. Pan oedd rhywun o Effraim yn dod ac yn gofyn am gael croesi, byddai dynion Gilead yn gofyn, “Wyt ti’n perthyn i lwyth Effraim?” Petai’n ateb, “Na,” 6bydden nhw’n gofyn iddo wedyn ddweud y gair “Shiboleth!” Ond “Siboleth!” oedd dynion Effraim yn ei ddweud (roedden nhw’n methu dweud y gair yn iawn). Wedyn byddai dynion Gilead yn eu dal nhw a’u lladd nhw yn y fan a’r lle. Cafodd pedwar deg dau o filoedd o ddynion Effraim eu lladd y diwrnod hwnnw.
7Dyma Jefftha’n arwain Israel am chwe mlynedd. Pan fu farw, cafodd ei gladdu yn ei dref ei hun yn Gilead.
Ibsan
8Ar ôl Jefftha, dyma Ibsan o Bethlehem yn arwain Israel. 9Roedd ganddo dri deg mab a thri deg merch. Dyma fe’n rhoi ei ferched yn wragedd i ddynion o’r tu allan i’w glan, a dyma fe’n trefnu i ferched o’r tu allan i briodi’i feibion.
Buodd Ibsan yn arwain Israel am saith mlynedd. 10Pan fuodd e farw, cafodd ei gladdu yn Bethlehem.
Elon
11Yr arweinydd nesaf oedd Elon o lwyth Sabulon. Bu’n arwain pobl Israel am ddeg mlynedd. 12Pan fuodd e farw, cafodd ei gladdu yn Aialon ar dir llwyth Sabulon.
Abdon
13Abdon fab Hilel o Pirathon oedd arweinydd nesaf Israel. 14Roedd ganddo bedwar deg o feibion a tri deg o wyrion – ac roedd gan bob un ohonyn nhw ei asyn ei hun.#12:14 asyn ei hun Arwydd fod y teulu’n gyfoethog iawn. Bu Abdon yn arwain pobl Israel am wyth mlynedd. 15Pan fu farw, cafodd ei gladdu yn Pirathon, sydd ar dir Effraim, yn y bryniau lle roedd yr Amaleciaid yn arfer byw.

اکنون انتخاب شده:

Barnwyr 12: bnet

های‌لایت

کپی

مقایسه

به اشتراک گذاشتن

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید