Barnwyr 17

17
Micha yn gwneud eilun-ddelwau ac yn cyflogi offeiriad
1Roedd dyn o’r enw Micha yn byw ym mryniau Effraim. 2Dwedodd wrth ei fam, “Gwnes i dy glywed di’n melltithio’r lleidr wnaeth ddwyn y mil a chant o ddarnau arian oddi arnat ti. Wel, mae’r arian gen i. Fi wnaeth ei ddwyn e, a dw i’n mynd i’w roi’n ôl i ti.” A dyma’i fam yn dweud wrtho, “Dw i’n gweddïo y bydd yr ARGLWYDD yn dy fendithio di, fy mab!”
3Daeth â’r arian yn ôl i’w fam, a dyma’i fam yn dweud, “Dw i am gysegru’r arian yma i’r ARGLWYDD. Er mwyn fy mab, dw i am ei ddefnyddio i wneud eilun wedi’i gerfio a delw o fetel tawdd.” 4Pan roddodd yr arian i’w fam, dyma hi’n cymryd dau gant o ddarnau arian, a’u rhoi nhw i’r gof arian i wneud eilun wedi’i gerfio a delw o fetel tawdd. Yna dyma hi’n eu gosod nhw yn nhŷ Micha. 5Roedd gan Micha gysegr i addoli Duw yn ei dŷ. Roedd wedi gwneud effod ac eilun-ddelwau teuluol, ac wedi ordeinio un o’i feibion yn offeiriad. 6Doedd dim brenin yn Israel bryd hynny. Roedd pawb yn gwneud beth roedden nhw’n feddwl oedd yn iawn.#Barnwyr 18:1; 21:25
7Roedd dyn ifanc o Bethlehem yn Jwda – roedd yn perthyn i lwyth Lefi – ond wedi bod yn byw dros dro ar dir Jwda. 8Penderfynodd fynd i chwilio am le arall i fyw. Cyrhaeddodd fryniau Effraim, a digwydd dod i dŷ Micha. 9Gofynnodd Micha iddo, “O ble ti’n dod?” Atebodd, “Un o lwyth Lefi ydw i, wedi bod yn byw yn Bethlehem yn Jwda. Ond dw i’n edrych am rywle arall i fyw.” 10A dyma Micha’n dweud, “Aros yma gyda mi. Cei fod yn gynghorydd ac offeiriad i mi. Gwna i dalu deg darn arian y flwyddyn i ti, a dillad a bwyd.” 11Dyma fe’n cytuno i aros yno. Roedd fel un o’r teulu. 12Roedd Micha wedi’i ordeinio yn offeiriad, ac roedd yn byw yn ei dŷ. 13Ac meddai Micha wrtho’i hun, “Nawr dw i’n gwybod y bydd Duw yn dda i mi – mae gen i un o lwyth Lefi yn offeiriad!”

اکنون انتخاب شده:

Barnwyr 17: bnet

های‌لایت

کپی

مقایسه

به اشتراک گذاشتن

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید