Barnwyr 7

7
Byddin Gideon a’r frwydr yn erbyn y Midianiaid
1Y bore wedyn, dyma Gideon#7:1 Gideon Hebraeg, “Jerwb-baal”, ei lysenw (gw. 6:32). a’i fyddin yn mynd allan a gwersylla wrth Ffynnon Charod.#7:1 Charod sef “crynu mewn ofn”. Roedd byddin Midian wedi gwersylla yn y dyffryn ychydig i’r gogledd, wrth ymyl Bryn More.
2Dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Gideon, “Mae gormod o ddynion yn dy fyddin di. Os gwna i adael i chi guro Midian, mae peryg i bobl Israel frolio mai nhw eu hunain wnaeth ennill y frwydr. 3Dwed wrth y dynion, ‘Os oes rhywun ag ofn, cewch droi’n ôl a gadael Mynydd Gilead.’” Aeth dau ddeg dau o filoedd adre, gan adael deg mil ar ôl.
4“Mae’r fyddin yn dal yn rhy fawr,” meddai’r ARGLWYDD. “Dos â nhw i lawr at y dŵr, a gwna i ddangos i ti pwy sydd i gael mynd gyda ti a phwy sydd ddim.” 5Felly dyma fe’n mynd â’r dynion i lawr at y dŵr. A dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Gideon, “Dw i eisiau i ti wahanu’r rhai sy’n llepian y dŵr fel mae ci’n gwneud oddi wrth y rhai sy’n mynd ar eu gliniau i yfed.” 6Tri chant oedd yn llepian y dŵr o gledr y llaw. Roedd y gweddill yn mynd ar eu gliniau i yfed. 7A dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Gideon, “Bydda i’n gwneud i’r tri chant oedd yn llepian y dŵr ennill buddugoliaeth yn erbyn byddin Midian i gyd. Cei yrru’r dynion eraill i gyd adre.” 8Ar ôl casglu bwyd a chyrn hwrdd y milwyr hynny, dyma Gideon yn eu hanfon adre. Dim ond y tri chant arhosodd gydag e.
Roedd y Midianiaid wedi gwersylla i lawr yn y dyffryn oddi tano. 9A’r noson honno, dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Gideon, “Ewch i lawr i ymosod ar wersyll y Midianiaid. Dw i’n mynd i’w rhoi yn eich dwylo chi! 10Os wyt ti’n dal yn ofnus, dos i lawr i’r gwersyll gyda dy was Pwra, 11a gwrando beth maen nhw’n ddweud. Fydd gen ti ddim ofn wedyn; byddi’n ymosod arnyn nhw.” Felly dyma Gideon yn mynd i lawr gyda’i was Pwra i ymyl y gwersyll lle roedd gwylwyr. 12Roedd y gwersyll yn anferth! Roedd y Midianiaid, yr Amaleciaid a phobloedd eraill o wledydd y dwyrain yn gorchuddio’r dyffryn fel haid o locustiaid! Roedd ganddyn nhw ormod o gamelod i’w cyfrif – roedden nhw fel y tywod ar lan y môr!
13Pan gyrhaeddodd Gideon ymyl y gwersyll, clywodd ryw ddyn yn dweud wrth un arall am freuddwyd gafodd e. “Ces i freuddwyd am dorth haidd gron yn rholio i lawr i wersyll Midian. Dyma hi’n taro’r babell mor galed nes i’r babell droi drosodd. Syrthiodd yn fflat ar lawr.” 14Atebodd y llall, “Dim ond un peth all hyn ei olygu – cleddyf Gideon, mab Joas. Mae Duw yn mynd i roi buddugoliaeth iddo dros fyddin Midian.”
15Plygodd Gideon i lawr ac addoli Duw ar ôl clywed am y freuddwyd a’r dehongliad ohoni. Yna dyma fe’n mynd yn ôl i wersyll Israel, a dweud, “Gadewch i ni fynd! Mae’r ARGLWYDD yn mynd i adael i chi drechu byddin Midian.” 16Rhannodd y tri chant o ddynion yn dair uned filwrol. Yna rhoddodd gorn hwrdd i bawb, a jar gwag gyda fflam yn llosgi tu mewn iddo. 17“Gwyliwch fi, a gwneud yr un fath â fi,” meddai wrthyn nhw. “Gwyliwch yn ofalus. Pan ddown ni at gyrion gwersyll y Midianiaid, gwnewch yr un fath â fi. 18Pan fydd fy uned i’n chwythu eu cyrn hwrdd gwnewch chwithau yr un fath o gwmpas y gwersyll i gyd. Yna gwaeddwch, ‘Dros yr ARGLWYDD a thros Gideon!’”
19Aeth Gideon â chant o filwyr at gyrion y gwersyll ychydig ar ôl deg o’r gloch y nos, pan oedd y gwylwyr wedi newid sifft. A dyma nhw’n chwythu’r cyrn hwrdd a thorri’r jariau oedd ganddyn nhw. 20Gwnaeth y tair uned yr un fath. Roedden nhw’n dal eu ffaglau yn un llaw ac yn chwythu’r corn hwrdd gyda’r llall. Yna dyma nhw’n gweiddi, “I’r gad dros#7:20 I’r gad dros Hebraeg, “Cleddyf”. yr ARGLWYDD a Gideon!”
21-22Roedden nhw wedi amgylchynu’r gwersyll i gyd, ac yn sefyll mewn trefn. A phan chwythodd milwyr Gideon eu cyrn hwrdd, dyma filwyr y gelyn yn gweiddi mewn panig a cheisio dianc. A dyma’r ARGLWYDD yn gwneud iddyn nhw ddechrau ymladd ei gilydd drwy’r gwersyll i gyd.
Roedd llawer o’r milwyr wedi dianc i Beth-sitta, sydd ar y ffordd i Serera, ar y ffin gydag Abel-mechola, ger Tabath. 23A dyma ddynion o lwythau Nafftali, Asher a Manasse yn mynd ar eu holau. 24Anfonodd Gideon negeswyr i fryniau Effraim gyda’r neges yma: “Dewch i lawr i ymladd y Midianiaid! Ewch o’u blaenau a’u stopio nhw rhag croesi rhydau’r afon Iorddonen yn Beth-bara.” A dyma ddynion Effraim yn dod a gwneud hynny. 25Dyma nhw’n dal dau o arweinwyr byddin Midian, Oreb a Seëb.#7:25 Oreb a Seëb ystyr Oreb ydy “Cigfran”, ac ystyr Seëb ydy “Blaidd”. Cafodd Oreb ei ladd ganddyn nhw wrth y graig sy’n cael ei hadnabod bellach fel Craig Oreb. A chafodd Seëb ei ladd wrth y gwinwryf sy’n cael ei adnabod bellach fel Gwinwryf Seëb. Yna dyma nhw’n dod â phen y ddau at Gideon, oedd wedi croesi i ochr arall afon Iorddonen.

اکنون انتخاب شده:

Barnwyr 7: bnet

های‌لایت

کپی

مقایسه

به اشتراک گذاشتن

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید