Jeremeia 24
24
Ffigys da a ffigys drwg
1Roedd Nebwchadnesar, brenin Babilon, wedi cymryd Jehoiachin#24:1 Jehoiachin Hebraeg, Jechoneia, oedd yn enw arall ar Jehoiachin. Roedd yn frenin am dri mis yn 598 cc cyn cael ei gymryd yn gaeth i Babilon. fab Jehoiacim, brenin Jwda, yn gaeth i Babilon. Cymerodd y swyddogion i gyd hefyd, a’r seiri coed a’r gweithwyr metel.#2 Brenhinoedd 24:14-17 A dyma’r ARGLWYDD yn rhoi gweledigaeth i mi. Gwelais ddwy fasged yn llawn ffigys wedi’u gosod o flaen teml yr ARGLWYDD. 2Roedd y ffigys yn un fasged yn rhai da iawn, fel ffigys wedi aeddfedu’n gynnar. Ond roedd y ffigys yn y fasged arall wedi mynd yn ddrwg, a ddim yn ffit i’w bwyta. 3Dyma’r ARGLWYDD yn gofyn i mi, “Beth wyt ti’n weld, Jeremeia?” A dyma fi’n ateb, “Ffigys. Mae’r rhai da yn edrych yn hyfryd, ond mae’r lleill wedi mynd yn rhy ddrwg i’w bwyta.”
4Yna dyma fi’n cael y neges yma gan yr ARGLWYDD: 5“Dyma dw i, yr ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Mae’r ffigys da yn cynrychioli’r bobl sydd wedi’u cymryd yn gaeth i wlad y Babiloniaid. 6Dw i wedi’u hanfon nhw yno er eu lles eu hunain, a dw i’n mynd i ddod â nhw’n ôl i’r wlad yma. Bydda i’n eu hadeiladu nhw, dim eu bwrw nhw i lawr. Bydda i’n eu plannu nhw yn y tir, dim yn eu tynnu fel chwyn. 7Bydda i’n rhoi’r awydd ynddyn nhw i gydnabod mai fi ydy’r ARGLWYDD. Nhw fydd fy mhobl i, a fi fydd eu Duw nhw. Byddan nhw’n troi’n ôl ata i go iawn.’
8“Ond,” meddai’r ARGLWYDD, “mae’r ffigys drwg yn cynrychioli Sedeceia#24:8 Sedeceia yn frenin o 598 i 586 cc. brenin Jwda a’i swyddogion, a’r bobl hynny sydd wedi’u gadael ar ôl yn Jerwsalem neu sydd wedi mynd i fyw i’r Aifft.#Jeremeia 42:9-17 9Bydd beth fydd yn digwydd iddyn nhw yn dychryn pobl y gwledydd eraill i gyd. Byddan nhw’n jôc. Bydda i’n gwneud esiampl ohonyn nhw. Byddan nhw’n destun sbort, ac yn esiampl o bobl wedi’u melltithio. Dyna sut fydd hi arnyn nhw ble bynnag wna i eu gyrru nhw. 10Bydda i’n anfon rhyfel, newyn a haint i’w taro nhw nes byddan nhw wedi cael eu dileu’n llwyr o’r wlad rois i iddyn nhw a’u hynafiaid.”
اکنون انتخاب شده:
Jeremeia 24: bnet
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
© Cymdeithas y Beibl 2023