Jeremeia 40
40
Jeremeia’n aros gyda Gedaleia
1Dyma neges arall roddodd yr ARGLWYDD i Jeremeia, pan gafodd ei ollwng yn rhydd gan Nebwsaradan, capten y gwarchodlu brenhinol. Roedd yn Rama,#40:1 Rama Roedd Rama ryw 8 milltir i’r gogledd o Jerwsalem. wedi’i rwymo mewn cadwyni fel pawb arall o Jwda a Jerwsalem oedd yn cael eu cymryd yn gaeth i Babilon. 2Yna, dyma Nebwsaradan yn cymryd Jeremeia o’r neilltu a dweud wrtho, “Roedd yr ARGLWYDD dy Dduw wedi bygwth dinistrio’r lle yma, 3a dyna wnaeth e. Mae wedi gwneud beth ddwedodd e am eich bod chi wedi pechu yn ei erbyn a gwrthod gwrando arno. Dyna pam mae hyn wedi digwydd i chi. 4Nawr, dw i wedi tynnu dy gadwyni ac yn dy ollwng di’n rhydd. Os wyt ti eisiau dod hefo fi i Babilon, tyrd, a gwna i edrych ar dy ôl di. Ond does dim rhaid i ti ddod os wyt ti ddim eisiau. Ti’n rhydd i fynd i ble bynnag rwyt ti eisiau. 5Os wyt ti am aros, dos yn ôl at Gedaleia (mab Achicam ac ŵyr i Shaffan) sydd wedi’i benodi gan frenin Babilon yn llywodraethwr dros drefi Jwda. Aros gydag e a’r bobl yno. Neu dos i ble bynnag arall rwyt ti eisiau.” Yna ar ôl rhoi bwyd ac arian i Jeremeia, dyma gapten y gwarchodlu brenhinol yn gadael iddo fynd. 6A dyma Jeremeia yn mynd i Mitspa#40:6 Mitspa Roedd Mitspa rhyw wyth milltir i’r gogledd o Jerwsalem, rhyw bedair milltir ymhellach i’r gogledd na Rama. at Gedaleia fab Achicam. Arhosodd yno gyda’r bobl oedd wedi’u gadael ar ôl yn y wlad.
Gedaleia yn rheoli Jwda
(2 Brenhinoedd 25:22-24)
7Roedd rhai o swyddogion byddin Jwda a’u milwyr wedi bod yn cuddio yng nghefn gwlad. Dyma nhw’n clywed fod brenin Babilon wedi penodi Gedaleia fab Achicam i reoli’r wlad, a bod dynion, gwragedd a phlant mwya tlawd y wlad wedi’u gadael yno a heb eu cymryd yn gaeth i Babilon. 8Felly dyma nhw’n mynd i gyfarfod â Gedaleia yn Mitspa – Ishmael fab Nethaneia,#2 Brenhinoedd 25:25 Iochanan a Jonathan (meibion Careach), Seraia fab Tanchwmeth, meibion Effai o Netoffa, a Iesaneia (mab y Maachathiad). Daeth y rhain i gyd gyda’u milwyr. 9A dyma Gedaleia yn addo iddyn nhw, “Does dim rhaid i chi fod ag ofn ildio i’r Babiloniaid. Arhoswch yn y wlad a gwasanaethu brenin Babilon, a bydd popeth yn iawn. 10Bydda i’n aros yn Mitspa ac yn eich cynrychioli pan fydd y Babiloniaid yn dod i’n cyfarfod ni. Ewch chi i gasglu’r cynhaeaf grawnwin, y ffigys aeddfed a’r olew, a’u storio mewn jariau. Cewch setlo i lawr yn y trefi dych chi wedi’u cipio.”
11Roedd llawer o bobl Jwda wedi dianc yn ffoaduriaid i Moab, gwlad Ammon, Edom a gwledydd eraill, a dyma nhw’n clywed beth oedd wedi digwydd. Clywon nhw fod brenin Babilon wedi gadael i rai pobl aros yn Jwda, a’i fod wedi penodi Gedaleia i reoli’r wlad. 12Felly dyma’r bobl hynny i gyd yn dod adre i wlad Jwda o’r gwledydd lle roedden nhw wedi bod yn ffoaduriaid, a mynd i Mitspa i gyfarfod Gedaleia. A dyma nhw hefyd yn casglu cynhaeaf enfawr o rawnwin a ffigys.
Llofruddio Gedaleia
(2 Brenhinoedd 25:25-26)
13Un diwrnod dyma Iochanan fab Careach a swyddogion eraill y fyddin oedd wedi bod yn cuddio yng nghefn gwlad yn mynd i Mitspa eto i gyfarfod Gedaleia. 14A dyma nhw’n dweud wrtho, “Wyt ti’n gwybod fod Baalis, brenin Ammon, wedi anfon Ishmael fab Nethaneia i dy lofruddio di?” Ond doedd Gedaleia ddim yn eu credu nhw. 15Wedyn, dyma Iochanan fab Careach yn cael gair preifat hefo Gedaleia ym Mitspa. “Gad i mi fynd i ladd Ishmael fab Nethaneia,” meddai. “Fydd neb yn gwybod am y peth. Rhaid i ni beidio gadael iddo dy lofruddio di, neu bydd pobl Jwda sydd wedi dy gefnogi di’n mynd ar chwâl, a bydd y rhai sydd ar ôl yn Jwda yn diflannu!” 16Ond dyma Gedaleia yn ateb Iochanan, “Paid meiddio gwneud y fath beth! Dydy beth rwyt ti’n ddweud am Ishmael ddim yn wir.”
اکنون انتخاب شده:
Jeremeia 40: bnet
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
© Cymdeithas y Beibl 2023