Jeremeia 43
43
Jeremeia’n cael ei gymryd i’r Aifft
1Pan oedd Jeremeia wedi gorffen dweud wrth y bobl beth oedd neges yr ARGLWYDD eu Duw iddyn nhw, 2dyma Asareia fab Hoshaia, Iochanan fab Careach a dynion eraill oedd yn meddwl eu bod nhw’n gwybod yn well yn ateb Jeremeia, “Ti’n dweud celwydd! Dydy’r ARGLWYDD ein Duw ddim wedi dweud wrthon ni am beidio mynd i fyw i’r Aifft. 3Barŵch fab Nereia sydd wedi dy annog di i ddweud hyn, er mwyn i’r Babiloniaid ein dal ni, a’n lladd neu ein cymryd ni’n gaeth i Babilon.”
4Felly, wnaeth Iochanan fab Careach a swyddogion y fyddin a gweddill y bobl ddim aros yn Jwda fel y dwedodd yr ARGLWYDD wrthyn nhw. 5Dyma Iochanan a’r swyddogion eraill yn mynd â’r bobl oedd ar ôl yn Jwda gyda nhw i’r Aifft.#2 Brenhinoedd 25:26 (Roedd ffoaduriaid gyda nhw, sef y rhai oedd wedi dod yn ôl i fyw yn Jwda o’r gwledydd lle roedden nhw wedi dianc. 6Hefyd y bobl roedd Nebwsaradan, capten y gwarchodlu brenhinol, wedi’u gadael yng ngofal Gedaleia – dynion, gwragedd, plant, a merched o’r teulu brenhinol. Aethon nhw hyd yn oed â’r proffwyd Jeremeia a Barŵch fab Nereia gyda nhw.) 7Aethon nhw i’r Aifft am eu bod nhw’n gwrthod gwrando ar yr ARGLWYDD. A dyma nhw’n cyrraedd Tachpanches.
Jeremeia yn proffwydo y byddai Babilon yn ymosod ar yr Aifft
8Yn Tachpanches dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Jeremeia: 9“Cymer gerrig mawr a’u claddu nhw dan y pafin morter sydd o flaen y fynedfa i balas y Pharo yn Tachpanches. Dw i eisiau i bobl Jwda dy weld ti’n gwneud hyn. 10Wedyn dywed wrthyn nhw mai dyma mae’r ARGLWYDD hollbwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Dw i’n mynd i anfon am fy ngwas Nebwchadnesar, brenin Babilon. Dw i’n mynd i osod ei orsedd e ar y cerrig yma dw i wedi’u claddu, a bydd e’n codi canopi drosti. 11Mae e’n dod i daro gwlad yr Aifft.
Bydd y rhai sydd i farw o haint yn marw o haint.
Bydd y rhai sydd i’w cymryd yn gaeth yn cael eu cymryd yn gaeth.
Bydd y rhai sydd i farw yn y rhyfel yn marw yn y rhyfel.
12Bydd e’n rhoi temlau duwiau’r Aifft ar dân. Bydd e’n llosgi’r delwau neu’n mynd â nhw i ffwrdd. Bydd e’n clirio gwlad yr Aifft yn lân fel bugail yn pigo’r llau o’i ddillad. Wedyn bydd e’n gadael y lle heb gael unrhyw niwed. 13Bydd e’n malu obelisgau Heliopolis,#43:13 obelisgau Heliopolis Canolfan addoli Amon-Re, duw’r haul. Roedd yn enwog am ei obelisgau. Roedd Heliopolis tua 6 milltir i’r gogledd-ddwyrain o ble mae dinas Cairo heddiw. ac yn llosgi temlau duwiau’r Aifft yn ulw.’”
اکنون انتخاب شده:
Jeremeia 43: bnet
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
© Cymdeithas y Beibl 2023