Job 14

14
Mae pawb yn marw yn y diwedd
1Byr ydy bywyd dyn, wedi’i eni o wraig,
ac mae ei ddyddiau yn llawn trafferthion.
2Mae’n blodeuo ac yna’n gwywo;
mae’n diflannu fel cysgod, a byth yn aros.
3Ai ar un felly wyt ti’n syllu?
Wyt ti am fy rhoi i ar brawf?
4Pwy all wneud yr aflan yn lân?
Does neb!
5Mae dyddiau rhywun wedi’u rhifo;
ti’n gwybod faint o fisoedd fydd e’n byw
ac wedi gosod ffin fydd e byth yn ei chroesi.
6Edrych i ffwrdd a gad lonydd iddo,
fel gwas cyflog wedi gorffen ei waith.
7Mae gobaith i goeden dyfu eto
ar ôl cael ei thorri i lawr.
Fydd ei blagur newydd ddim yn methu.
8Er bod ei gwreiddiau’n hen yn y pridd,
a’i boncyff wedi dechrau pydru,
9mae’n synhwyro dŵr ac yn blaguro eto,
a’i brigau’n tyfu fel petai newydd ei phlannu.
10Ond mae’r dyn cryfaf yn marw heb gryfder;
mae’n anadlu am y tro olaf, ac mae wedi mynd.
11Fel dŵr yn diflannu o lyn,
neu afon yn llifo i ffwrdd ac yn sychu.
12Mae pobl feidrol yn gorwedd a byth yn codi;
fydd dim deffro na chodi o’u cwsg
tra bydd yr awyr yn dal i fod.
13O na fyddet ti’n fy nghuddio’n saff yn y bedd,#14:13 y bedd Hebraeg, Sheol, sef “y byd tanddaearol lle mae’r meirw yn mynd”.
a’m cadw o’r golwg nes i dy ddigofaint fynd heibio;
yna gosod amser penodol i’m cofio i eto.
14Ar ôl i rywun farw, fydd e’n cael byw eto?
Ar hyd fy mywyd caled byddwn i’n disgwyl
i rywun ddod i’m rhyddhau.
15Byddet ti’n galw, a byddwn innau’n dod;
byddet yn hiraethu am waith dy ddwylo.
16Byddet ti’n gofalu amdana i bob cam,
heb wylio am fy mhechod o hyd.
17Byddai pob trosedd o’r golwg mewn bag wedi’i selio,
a’m pechod wedi’i guddio dan orchudd.
18Ond na, fel mae mynyddoedd yn cael eu herydu,
a chreigiau yn syrthio o’u lle;
19neu fel mae dŵr yn gwneud carreg yn llyfn,
a glaw trwm yn golchi ymaith bridd y ddaear;
dyna sut rwyt ti’n lladd gobaith rhywun.
20Ti’n ei drechu’n llwyr – mae ar ben arno!
Rwyt yn ei anffurfio ac yn ei anfon i ffwrdd.
21Fydd e ddim yn gwybod os bydd ei feibion yn cael anrhydedd;
nac yn ymwybodol os cân nhw eu bychanu.
22Dydy e’n teimlo dim ond ei boen ei hun
ac yn poeni dim am neb arall.”

اکنون انتخاب شده:

Job 14: bnet

های‌لایت

کپی

مقایسه

به اشتراک گذاشتن

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید