Job 19

19
Job yn ymateb: mae fy Amddiffynnwr yn fyw
1Dyma Job yn ateb:
2“Am faint mwy dych chi’n mynd i’m poenydio,
a’m dryllio gyda’ch areithio?
3Dych chi’n fy nwrdio i dro ar ôl tro,
ac yn ymosod arna i’n gwbl haerllug.
4A hyd yn oed petai’n wir fy mod ar fai,
dim ond fi fyddai’n dioddef wedyn!
5Ond mae’n rhaid i chi ddangos eich bod chi’n well na fi,
a defnyddio’r hyn dw i’n ddiodde i brofi eich pwynt!
6Dylech weld fod Duw wedi gwneud cam â mi;
mae wedi f’amgylchynu ac yn gwarchae yn fy erbyn.
7Dw i’n gweiddi, ‘Trais!’ ond does neb yn ateb;
gweiddi am help, ond does dim tegwch.
8Mae Duw wedi blocio fy ffordd; alla i ddim dianc!
Mae wedi gwneud fy llwybr yn dywyll.
9Mae wedi dwyn fy urddas oddi arna i,
a thynnu’r goron oddi ar fy mhen.
10Mae wedi fy mwrw i lawr yn llwyr – mae hi ar ben arna i!
Mae fy ngobaith wedi mynd, fel coeden wedi’i diwreiddio.
11Mae e wedi gwylltio’n lân gyda mi,
ac yn fy nhrin fel un o’i elynion.
12Mae ei fyddin yn ymosod gyda’i gilydd,
wedi codi rampiau i warchae yn fy erbyn
a gwersylla o gwmpas fy mhabell.
13Mae wedi gwneud i’m perthnasau gadw draw;
dydy’r bobl sy’n fy nabod i ddim eisiau gwybod.
14Mae fy nghymdogion wedi troi cefn arna i,
a’m ffrindiau gorau wedi anghofio amdana i.
15Mae fy morynion yn fy nhrin i fel dieithryn –
fel petawn i’n rhywun o wlad arall.
16Dw i’n galw fy ngwas, ond dydy e ddim yn ateb,
er fy mod yn crefu arno i ddod.
17Mae fy anadl yn atgas i’m gwraig,
a dw i’n drewi’n ffiaidd i’m teulu.
18Mae hyd yn oed plant bach yn gwneud sbort am fy mhen;
pan dw i’n codi, maen nhw’n gwawdio.
19Mae fy ffrindiau agosaf yn fy ffieiddio;
a’r rhai dw i’n eu caru wedi troi yn fy erbyn.
20Dw i’n ddim byd ond croen ac esgyrn
a dw i’n dal yma o drwch blewyn!
21Byddwch yn garedig ata i! Chi ydy fy ffrindiau!
Mae Duw wedi fy nharo i!
22Pam mae’n rhaid i chi hefyd fy erlid, fel Duw?
Oes yna ddim diwedd ar eich ymosodiadau?
23O na fyddai fy ngeiriau yn cael eu hysgrifennu i lawr,
a’u cofnodi’n glir mewn sgrôl;
24eu naddu ar graig gyda chŷn haearn,
a’u llenwi â phlwm i gael eu gweld am byth!
25Ond dw i’n gwybod fod fy Amddiffynnwr yn fyw,
ac yn y diwedd y bydd yn sefyll ar y ddaear i dystio ar fy rhan,
26hyd yn oed ar ôl i’m croen i gael ei ddifa.
Ond cael gweld Duw tra dw i’n dal yn fyw#19:26 dal yn fyw Hebraeg, “yn fy nghorff”. – dyna dw i eisiau,
27ei weld drosof fy hun;
i’m llygaid i ei weld, nid rhywun arall:
dw i’n hiraethu am hynny fwy na dim.
28Wrth ofyn, ‘Sut allwn ni ei erlid e?’
ac wrth ddweud, ‘Arno fe’i hun mae’r bai!’
29dylech chi ofni cael eich cosbi eich hunain –
mae eich dicter chi’n haeddu ei gosbi â’r cleddyf!
Cofiwch fod yna farn i ddod!”

اکنون انتخاب شده:

Job 19: bnet

های‌لایت

کپی

مقایسه

به اشتراک گذاشتن

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید