Job 2

2
Duw a’r Satan – yr ail ddadl
1Daeth y diwrnod eto i’r bodau nefol ddod o flaen yr ARGLWYDD. A dyma’r Satan yn dod gyda nhw i sefyll o flaen yr ARGLWYDD. 2Gofynnodd yr ARGLWYDD i’r Satan, “Ble wyt ti wedi bod?”
Atebodd y Satan yr ARGLWYDD, “Dim ond yn crwydro yma ac acw ar y ddaear.”
3A dyma’r ARGLWYDD yn gofyn iddo, “Wyt ti wedi sylwi ar fy ngwas Job? Does neb tebyg iddo ar wyneb y ddaear. Mae’n ddyn gonest ac yn trin pobl eraill yn deg; mae’n addoli Duw o ddifri ac yn cadw draw oddi wrth ddrwg. Ac mae mor ffyddlon ag erioed er dy fod ti wedi fy annog i ddod â dinistr arno heb achos.”
4Atebodd y Satan, “Croen am groen! – mae pobl yn fodlon colli popeth i achub eu bywydau! 5Petaet ti’n ei daro ag afiechyd a gwneud iddo ddioddef, byddai’n dy felltithio di yn dy wyneb!”
6Felly dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Edrych, gelli wneud beth bynnag wyt ti eisiau iddo; ond rhaid i ti ei gadw’n fyw.”
Job yn colli ei iechyd
7Felly dyma’r Satan yn mynd allan oddi wrth yr ARGLWYDD ac yn taro Job â briwiau cas o’i gorun i’w sawdl.
8A dyma Job yn cymryd darn o botyn i grafu ei friwiau, a mynd i eistedd yn y lludw ar y domen sbwriel. 9Ac meddai ei wraig wrtho, “Ti’n dal mor ffyddlon ag erioed, wyt ti? Melltithia Dduw, er mwyn i ti gael marw!”
10Ond atebodd Job hi, “Ti’n siarad fel y byddai gwraig ddwl, ddi-Dduw yn siarad! Dŷn ni’n derbyn popeth da gan Dduw; oni ddylen ni dderbyn y drwg hefyd?”
Er gwaetha’r cwbl, wnaeth Job ddweud dim i bechu yn erbyn Duw.
Ffrindiau Job yn dod i’w weld
11Pan glywodd tri o ffrindiau Job am y trychinebau ofnadwy oedd wedi digwydd iddo, dyma nhw’n penderfynu mynd i’w weld. Y tri oedd Eliffas o Teman, Bildad o Shwach, a Soffar o Naamâ. Dyma nhw’n cyfarfod â’i gilydd, a mynd ato i gydymdeimlo a cheisio ei gysuro. 12Pan welon nhw e o bell, doedden nhw prin yn ei nabod, a dyma nhw’n dechrau wylo’n uchel. Dyma’r tri yn rhwygo’u dillad ac yn taflu pridd i’r awyr.
13Buon nhw’n eistedd gydag e ar lawr ddydd a nos am wythnos. Ddwedodd neb yr un gair wrtho, achos roedden nhw’n gweld ei fod e’n dioddef yn ofnadwy.

اکنون انتخاب شده:

Job 2: bnet

های‌لایت

کپی

مقایسه

به اشتراک گذاشتن

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید