Job 26
26
Job yn torri ar ei draws: mae Duw mor fawr
1A dyma Job yn ateb:
2“O, ti’n gymaint o help i’r gwan!
Ti wedi cynnal braich yr un sydd heb nerth!
3Mae dy gyngor mor werthfawr i rywun sydd mor ddwl!
Ti wedi bod mor hael yn rhannu dy ddoethineb!
4Pwy wnaeth ddysgu hyn i gyd i ti?
Pwy sy’n dy ysbrydoli i siarad fel yma?
5Mae’r meirw yn crynu o flaen Duw –
pawb sy’n byw yn y byd dan y dŵr.
6Mae Annwn#26:6 Annwn Hebraeg, Sheol, sef “y byd tanddaearol lle mae’r meirw yn mynd”. yn noeth o’i flaen,
ac Abadon#26:6 Abadon, sef “lle dinistr”. heb orchudd i’w guddio.
7Duw sy’n lledu’r sêr dros yr anhrefn,
ac yn hongian y ddaear uwch y gwagle.
8Mae’n rhwymo’r dŵr yn ei gymylau trwchus,
ond does yr un yn byrstio dan y pwysau.
9Mae’n cuddio wyneb y lleuad llawn
drwy ledu ei gymylau drosto.
10Mae’n marcio’r gorwel ar wyneb y moroedd,
fel terfyn rhwng y golau a’r tywyllwch.
11Mae colofnau’r nefoedd yn crynu,
wedi’u dychryn gan ei gerydd.
12Mae’n gallu tawelu’r môr;
trawodd fwystfil y môr#26:12 fwystfil y môr Hebraeg, Rahab. i lawr drwy ei ddoethineb.
13Mae ei wynt yn clirio’r awyr;
trywanodd y sarff wibiog â’i law.
14A dydy hyn prin yn cyffwrdd ei allu!
Mae fel rhyw sibrydiad bach tawel.
Pwy all ddychmygu holl rym ei nerth?”
اکنون انتخاب شده:
Job 26: bnet
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
© Cymdeithas y Beibl 2023